Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 | |
---|---|
"Light Your Fire" ("Cyneuwch Eich Tân") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 22 Mai 2012 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 24 Mai 2012 |
Rownd terfynol | 26 Mai 2012 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Neuadd Grisial Baku, Baku, Aserbaijan[1] |
Cyflwynyddion | Leyla Aliyeva, Eldar Gasimov a Nargiz Birk-Petersen |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Armenia Gwlad Pwyl |
Canlyniadau | |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2012 oedd y 57ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Baku, Aserbaijan, ar ôl i Ell a Nikki ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2011 gyda'u cân "Running Scared". Enillwyd y gystadleuaeth gan y gantores Swedaidd Loreen gyda'i chân "Euphoria" felly disgwylir y bydd Sweden yn cynnal y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2013.
Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 22 a 24 Mai 2012 a chynhaliwyd y rownd derfynol ar 26 Mai 2012.[2] Ymunodd 10 gwlad o bob rownd gyn-derfynol â'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen yn y rownd derfynol. Cystadleuodd 42 o wledydd,[3] yn cynnwys Montenegro, oedd yn cyfranogi am y tro cyntaf ers 2009. Penderfynodd Armenia a Gwlad Pwyl beidio â chymryd rhan.
Fformat
[golygu | golygu cod]Penderfynwyd y byddai y system bleidleisio yn dychwelyd i'r ffenestr 15-munud a ddefnyddiwyd rhwng y gystadleuaeth 1998 a'r gystadleuaeth 2009. Dim ond ar ôl i bob gwlad berfformio y cafodd y gynulleidfa ddechrau pleidleisio. Disodlodd y gyfundrefn honno system lle cafodd y gynulleidfa bleidleisio o ddechrau'r gystadleuaeth ymlaen fel yn 2010 a 2011. Heb eu newid oedd y rheolau i bennu'r canlyniadau, sef hollt 50:50 rhwng rheithgorau cenedlaethol a phleidleisiau ffôn.[4]
Yn unol â rheolau swyddogol a gyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2011, bu 26 o wledydd yn perfformio yn y rownd derfynol, yn cynnwys y wlad letyol, y "5 Fawr", a'r 10 cystadleuwr aeth drwodd o bob rownd gyn-defrynol.[5] Hon oedd yr ail gystadleuaeth yn hanes Eurovision lle bu 26 o berfformwyr yn cymryd rhan, y tro cyntaf ers 2003.
Dyraniadau pot
[golygu | golygu cod]Ar 25 Ionawr 2012 ym Mhalas Buta cafodd y gwledydd sy'n cystadlu (ac eithrio'r Almaen, Aserbaijan, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc a Sbaen) eu rhannu yn chwe pot, yn seiliedig ar batrymau bleidleisio. Cafodd y gwledydd eu dewis o'r potiau i benderfynu a fyddent yn cystadlu yn y rownd gyn-derfynol gyntaf neu'r ail. Hefyd, roedd y dewis yn penderfynu ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r "5 Fawr" (yr Almaen, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, a Sbaen) yn pleidleisio.
Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 | Pot 4 | Pot 5 | Pot 6 |
---|---|---|---|---|---|
Dyluniad graffeg
[golygu | golygu cod]Mae dyluniad y gystadleuaeth yn seiliedig ar thema'r gystadleuaeth, sef "Light Your Fire!" a gafodd ei ysbrydoli gan lysenw Aserbaijan, "Gwlad y Tân" ("Land of Fire").
Cyfranogwyr
[golygu | golygu cod]Cystadleuodd 42 o wledydd yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Cyhoeddodd Radio Televizija Crna Gora (RTCG), cwmni darlledu Montenegro, y byddai'n dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2009. Mynegwyd amheuon yn Armenia o'r dechrau am gystadlu o achos pryderon diogelwch am ei chynrychiolydd yn sgil Rhyfel Nagorno-Karabakh sydd yn parhau rhwng Armenia ac Aserbaijian[6] ac ar 7 Mawrth 2012 cyhoeddodd Armenia na fyddai'n cystadlu.[7]
Cyfranogwyr y rownd gyn-derfynol gyntaf
[golygu | golygu cod]Pleidleisiodd Aserbaisian, yr Eidal a Sbaen yn y rownd hon. Gohiriodd Radio Televizioni Shqiptar (RTSH), cwmni teledu Albania, ddarllediad y gystadleuaeth gan ddefnyddio pleidlais y rheithgor yn unig, ar ôl i ddamwain bws ddifrifol gymryd lle yn y wlad.
- A ^ Er bod y gân yn Albaneg, mae'r teitl yn Lladin.
- B ^ Cenir y gân yn nhafodiaith Mühlviertlerisch (Awstria Uchaf).
- C ^ Er bod y gân yn Saesneg, mae'r teitl yn Rwmaneg.
Cyfranogwyr yr ail rownd gyn-derfynol
[golygu | golygu cod]Pleidleisiodd Yr Almaen, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn y rownd hon. Gofynnodd yr Almaen i bleidleisio yn y rown hon. Byddai Armenia wedi cymryd rhan yn y rownd hon ond yn ddiweddarach aeth allan o'r gystadleuaeth oherwydd rhesymau diogelwch.
- D ^ Mae'r gân yn cynnwys brawddegau yn Arabeg, Asereg, Eidaleg, Ffrangeg, Groeg, Romani, Saesneg, Sbaeneg, Serbo-Croateg a Thyrceg.
Cyfranogwyr y rownd derfynol
[golygu | golygu cod]Artistiaid sy'n dychwelyd
[golygu | golygu cod]Artist | Gwlad | Cystadleuaeth(au) blaenorol | Safle |
---|---|---|---|
Jónsi | Gwlad yr Iâ | 2004 | 19eg |
Jedward | Iwerddon | 2011 | 8fed |
Kaliopi | Macedonia | 1996 | 26ain (rownd gyn-gymhwysol) |
Željko Joksimović | Serbia | 2004 (yn cynrychioli Serbia a Montenegro) | 2ail |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Crystal Hall approved as Eurovision 2012 venue | News | Eurovision Song Contest - Baku 2012
- ↑ Eurovision Song Contest 2012 Grand Final
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 43 countries represented at Eurovision 2012
- ↑ EBU restores televoting window as from 2012
- ↑ Extracts from the 2012 Eurovision Song Contest Rules
- ↑ Armenia: Application Does Not Necessarily Mean Participation in Eurovision
- ↑ Armenia withdraws from Eurovision 2012
- ↑ 8.0 8.1 8.2 Results of the 2012 Running Order Draw!
- ↑ Montenegro: RTCG selects Rambo Amadeus for Baku!
- ↑ "Montenegro: Rambo Amadeus to sing 'Euro neuro'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-28. Cyrchwyd 2019-02-07.
- ↑ "Latvia: 5 final songs known". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-08. Cyrchwyd 2012-01-28.
- ↑ "Rona Nishliu will represent Albania in Baku". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-08. Cyrchwyd 2011-12-30.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 Sinplus wins Swiss final!
- ↑ [Belgium: Iris to represent Belgium in Baku http://www.esctoday.com/news/read/17837]
- ↑ "Cyprus: The three Cypriot National Final entries". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-19. Cyrchwyd 2012-01-28.
- ↑ "Ivi Adamou to represent Cyprus in Baku". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2011-11-30.
- ↑ [Cyprus: National Final on 25th January http://www.esctoday.com/news/read/17892 Archifwyd 2011-12-01 yn y Peiriant Wayback]
- ↑ 18.0 18.1 18.2 Soluna Samay to represent Denmark in Baku
- ↑ [Zeljko Joksimovic to represent Serbia in Baku http://www.esctoday.com/news/read/17838]
- ↑ [Željko Joksimović to represent Serbia in Baku http://www.eurovision.tv/page/news?id=40433&_t=zeljko_joksimovic_to_represent_serbia_in_baku]
- ↑ "Malta: 62 songs qualified to 2nd phase". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-13. Cyrchwyd 2011-11-30.
- ↑ This is the Night to Baku Archifwyd 2013-06-16 yn y Peiriant Wayback ESCDaily
- ↑ This is the Night Eurovision.tv
- ↑ "Belarus: 15 candidates revealed". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-09. Cyrchwyd 2011-12-30.
- ↑ http://pt.scribd.com/doc/75208487/Festival-Da-Cancao-2012-Regulamento-RTP
- ↑ "Nina Badrić predstavlja Hrvatsku na Eurosongu" (yn Croatian). 2012-01-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-04. Cyrchwyd 10 January 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Jiandani, Sanjay (2012-01-10). "Nina Badric to represent Croatia in Baku!". ESCToday. Cyrchwyd 10 January 2012. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ [Can Bonomo to represent Turkey in Baku http://www.eurovision.tv/page/news?id=43793&_t=can_bonomo_to_represent_turkey_in_baku]
- ↑ http://escdaily.com/articles/28168[dolen farw]
- ↑ 30.0 30.1 http://www.leparisien.fr/tv/eurovision-anggun-a-sa-chanson-17-01-2012-1815705.php
- ↑ [BREAKING NEWS: Anggun to represent France in 2012! http://escdaily.com/articles/26927 Archifwyd 2011-11-30 yn y Peiriant Wayback]
- ↑ Pastora Soler representará a España en Eurovisión 2012 en Bakú