Danny Gabbidon
Gabbidon yn chwarae i Crystal Palace yn 2012 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Daniel Leon Gabbidon[1] | ||
Dyddiad geni | [1] | 8 Awst 1979||
Man geni | Cwmbrân, Cymru | ||
Taldra | 1.78m[1] | ||
Safle | Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Dinas Caerdydd | ||
Rhif | 39 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1996–1998 | West Bromwich Albion | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1998–2000 | West Bromwich Albion | 20 | (0) |
2000 | → Dinas Caerdydd (ar fenthyg) | 7 | (0) |
2000–2005 | Dinas Caerdydd | 193 | (10) |
2005–2011 | West Ham United | 96 | (0) |
2011–2012 | Queens Park Rangers | 17 | (0) |
2012–2014 | Crystal Palace | 33 | (0) |
2014– | Dinas Caerdydd | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
1999–2001 | Cymru dan 21 | 17 | (0) |
2002– | Cymru | 49 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 04:58, 2 Medi 2014 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Pêl-droediwr Cymreig ydy Danny Gabbidon (ganwyd Daniel Leon Gabbidon 8 Awst 1979) sy'n chwarae i Gaerdydd yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]West Bromwich Albion
[golygu | golygu cod]Dechreuodd ei yrfa fel prentis gyda chlwb West Bromwich Albion ym mis Tachwedd 1996 cyn arwyddo'n broffesiynol ym mis Gorffennaf 1998. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i West Brom yn erbyn Ipswich Town ar 20 Mawrth 1999[2].
Dinas Caerdydd
[golygu | golygu cod]Wedi cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd ar ddechrau tymor 2000-01, ymunodd yn barhaol â'r Adar Gleision ym mis Medi 2000 am £500,000[3].Yn ystod ei bum mlynedd ar Barc Ninian, cyrhaeddodd Caerdydd Gemau Ail Gyfle'r Ail Adran yn 2002 cyn sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf yn 2003 a chafodd ei enwebu'n aelod o dîm y flwyddyn y PFA yn 2004[4].
West Ham United
[golygu | golygu cod]Symudodd i West Ham yn 2005 ynghŷd â'i gyd-Gymro, James Collins[5] er mwyn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr ac yn 2006 chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Lerpwl[6] cyn cael ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn West Ham United.
Queen's Park Rangers
[golygu | golygu cod]Ymunodd â Queen's Park Rangers ym mis Gorffennaf 2011[7] ond wedi i Mark Hughes gymryd yr awenau fel rheolwr y clwb, yn dilyn diswyddiad Neil Warnock, ni chafodd Gabbidon llawer o gyfleon a chafodd ei ryddhau ar ddiwedd tymor 2011-12[8].
Crystal Palace
[golygu | golygu cod]Ar 18 Medi 2012 ymunodd â Crystal Palace[9] ond ar ôl dau dymor a 38 gêm cafodd ei ryddhau gan y clwb.
Dinas Caerdydd
[golygu | golygu cod]Ail ymunodd â Chaerdydd fel chwaraewr-hyfforddwr ym mis Medi 2014[10]. Ar 18 Medi 2014 cafodd ei benodi'n rheolwr dros-dro ar Gaerdydd ynghŷd â Scott Young yn dilyn diswyddiad Ole Gunnar Solskjaer[11].
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Gabbidon 17 ymddangosiad i dîm dan 21 Cymru Y tro9 cyntaf oedd pan gafodd ei alw i garfan llawn Cymru ar gyfer gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws ym mis Hydref 2001 ond bu raid iddo ddisgwyl tan 27 Mawrth 2002 cyn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec[12].
Cafodd Gabbidon y cyfle i fod yn gapten ar ei wlad pan gollwyd 1-0 yn erbyn Cyprus ym mis Tachwedd 2005[13] ac eto yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Bwlgaria ym mis Awst 2007. Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd Gabbidon ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl ennill 49 cap dros ei wlad[14].
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cafodd Gabbidon wobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2002 am ei berfformiadau gyda Chaerdydd ac yn 2005 enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn[15].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 161. ISBN 978-1-84596-601-0.
- ↑ "Soccerbase: Danny Gabbidon". Unknown parameter
|publishged=
ignored (help) - ↑ "Marriott stays at Sunderland". 2000-09-22. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Henry retains PFA crown". 2004-04-25. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Hammer swoop for defensive trio". 2005-07-05. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Liverpool 3-3 West Ham (a.e.t.)". 2006-06-13. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "QPR snap up Danny Gabbidon on Free Transfer". 2011-07-25. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Premier League Released List 2011-12" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-06-16. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Eagles snap up free agent Danny Gabbidon". 2012-09-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-04. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Deal done: Danny returns to the City". 2014-09-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-01. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Cardiff Caretaker Managers Danny Gabbidon and Scott Young bullish". 2014-09-19. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Wales 0-0 Czech Republic". 2002-03-27.
- ↑ "Gabbidon desires captaincy again". 2005-11-18. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "West Ham's Danny Gabbidon quits international game". 2010-10-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gabbidon voted top Welsh player". 2005-10-04. Unknown parameter
|published=
ignored (help)