Deugraff
Pâr o lythrennau a ddefnyddir mewn orgraff iaith yw deugraff. Gall ddeugraff gynrychioli naill ai un ffonem (sain arbennig) neu ddilyniant o ffonemau sydd ddim yn cyfateb at werthoedd arferol y ddwy lythyren yn gyfunol.
Yn aml defnyddir deugraff ar gyfer ffonem na all gael ei gynrychioli gan un lythyren yn unig yn orgraff yr iaith honno, megis ch yn cynrychioli /χ/ yn y Gymraeg.
Deugraffau yn y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae yna deuddeg deugraff yn y Gymraeg. Mae wyth ohonynt yn rhan o'r wyddor (ch, dd, ff, ng, ll, ph, rh, th), tra bod y weddill ddim yn rhan o'r wyddor: mh, nh, si, ts.
Mewn gwyddorau
[golygu | golygu cod]Mewn orgraffau rhai ieithoedd, ystyrir deugraffau fel llythrennau unigol. Mae hyn felly yn golygu eu bod yn rhan o’r wyddor, fel sy'n digwydd yn y Gymraeg.
Enghreifftiau
[golygu | golygu cod]Gwyddor Ladin Gaj, a ddefnyddir i ysgrifennu Bosnieg, Croateg a Serbeg: dž, lj, nj
Iseldireg: ij (pan fydd ij yn cael ei defnyddio fel priflythyren, bydd y ddeugraff gyfan yn droi’n briflythyren, e.e. IJmeer, IJmuiden)
Hwngareg: cs, dz, gy, ly, ny, sz, ty, zs.
Wymysorys: ao