Neidio i'r cynnwys

Diferion llygaid

Oddi ar Wicipedia
DIferion llygaid wedi'u pecynnu at ddefnydd unigol

Diferion halwynog sy'n cael eu defnyddio fel dull o drin y llygaid yw diferion llygaid. Ganddibynnu ar y cyflwr sy'n cael ei drin, gallant gynnwys steroidau, gwrth-histaminau, sympathomimetigau, atalyddion derbynnydd beta, parasympathomimetigau, parasympatholytigau, prostaglandinau, cyffuriau gwrthlidiol an-steroidol, gwrthfiotigau, gwrthffyngol, neu anesthetigau arwynebol. Weithiau nid oes meddyginiaethau yn y diferion a'u hunig ddiben yw iro neu gyflawni'r hyn mae dagrau i fod i'w wneud.

Mae gan ddiferion llygaid lai o risg o sgîl-effeithiau na meddyginiaethau geneuol, a gellir lleihau risg o'r fath trwy ddileu'r punctum lacrimalaidd (h. y. gwasgu ar gornel fewnol y llygad) am gyfnod byr ar ôl rhoi diferion ynddi. Defnyddir diferion llygaid hefyd i atal cosi a chochni'r llygaid.