Enseffalitis
Enseffalitis | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Enseffalitis yn ochr dde yr ymennydd | |
ICD-10 | A83.-A86., B94.1, G05. |
---|---|
ICD-9 | 323 |
DiseasesDB | 22543 |
eMedicine | emerg/163 |
MeSH | [1] |
Llid meinwe'r ymennydd yw enseffalitis, ag achosir gan naill ai haint, firaol fel arfer, neu gan glefyd awtoimiwn.[1]
Er bod enseffalitis ar y cyfan yn glefyd anghyffredin iawn, mae'n effeithio ar bobl o bob oedran ar draws y byd. Yn y Deyrnas Unedig mae'n effeithio ar tua 4 o bob 100,000 o bobl bob blwyddyn.[1]
Achosion
[golygu | golygu cod]Firysau cyffredin gan amlaf sy'n gyfrifol am enseffalitis firaol. Mae'r rhain yn cynnwys y frech goch, brech yr ieir, y ffliw, rwbela, firysau polio, enterofirysau, herpes simplecs, epstein bar, a chlwy’r pennau. Gall ddiffyg imiwnedd difrifol, HIV er enghraifft, achosi enseffalitis i ddatblygu o lawer o firysau a heintiau megis tocsoplasmosis a sytomegalofirws (CMV). Gall pobl sydd â HIV hefyd gael enseffalitis o HIV ei hun.[2]
Caiff enseffalitis arbofirws ei achosi gan grŵp o firysau sy’n cael eu cario a'u trosglwyddo drwy bigiadau gan rai arthropodau, yn cynnwys mosgitos a throgod.[2]
Gall heintiau bacteriol, ffyngaidd, neu barasitig hefyd achosi enseffalitis, ond yn anaml mae hyn yn digwydd. Mae achosion eraill yn cynnwys listeriosis, brwselosis, y pas, y gynddaredd, adwaith alergaidd i frechiad, a gwenwyn plwm.[2]
Mewn dros 50% o achosion enseffalitis, nid oes modd pennu achos yr haint.[2]
Symptomau
[golygu | golygu cod]Gall symptomau cynnar enseffalitis, sy'n datblygu mewn ychydig oriau neu dros ychydig ddyddiau, ymddangos yn gyntaf fel symptomau'n debyg i'r ffliw neu feirws cyffredin. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys cur pen eithafol, twymyn, cyfog, chwydu, teimladau cysglyd, a dryswch. Gall enseffalitis effeithio ar bron unrhyw un o swyddogaethau'r ymennydd yn ddifrifol gyda chanlyniadau megis sensitifrwydd i oleuadau llachar, colli cof, colli rheolaeth dros weithgareddau corfforol megis siarad a symud, newidiadau i'r synhwyrau, gwddf a chefn anystwyth, gwendid cyhyrol, ffitiau, ac hyd yn oed teimladau o gysgadrwydd a all arwain at goma. Amrywiol yw canlyniadau'r afiechyd i'r dioddefwyr: maen'n bosib i nifer o bobl gwella'n llwyr o achos ddifrifol o'r salwch, ond mewn rhai achosion bydd cleifion yn cael eu gadael â niwed difrifol i'r ymennydd neu allai enseffalitis hyd yn oed profi'n farwol.[3]
Diagnosis
[golygu | golygu cod]Gwneir diagnosis o enseffalitis gan ddefnyddio pigiad meingefnol (tap sbinol), lle archwilir hylif serebro-sbinol o'r asgwrn cefn am dystiolaeth o haint. Os oes haint bacteriol bydd cynnydd yn nifer celloedd gwyn y gwaed yn yr hylif, ac yna gellir diystyru cyflyrau eraill megis tiwmor ar yr ymennydd, sglerosis ymledol neu strôc. Caiff prawf ei wneud ar yr hylif am ronynnau firaol hefyd, yn enwedig y feirws herpes simplecs. Yn ogystal gwneir profion gwaed er mwyn diystyru achosion o enseffalitis nad ydynt yn firaol, megis enceffalopathi metabolig.[4]
Mae meddygon hefyd yn defnyddio sganiau CT ac MRI i wneud diagnosis o enseffalitis. Mae'r sganiau yn dangos mannau o chwyddo ac edema (dropsi) yn yr ymennydd, sydd o gymorth wrth wahaniaethu rhwng enseffalitis ac afiechydon eraill megis tiwmor neu strôc. Gall electroenseffalogram (EEG) hefyd helpu i gadarnháu diagnosis drwy gofnodi unrhyw batrymau anarferol (cynnydd neu ostyngiad annormal) o weithgarwch trydanol yn yr ymennydd.[4]
Yn y Deyrnas Unedig mae enseffalitis yn glefyd hysbysadwy statudol felly mae'r meddyg sy'n gwneud y diagnosis yn gyfrifol am roi gwybod amdano i'r adran Iechyd Cyhoeddus leol.[4]
Triniaeth
[golygu | golygu cod]Cyn i glaf sy'n dioddef o enseffalitis syrthio i goma yw'r cyfnod sydd â'r cyfle gorau i wella'n llwyr o'r afiechyd. Yn y Deyrnas Unedig mae'n rhaid i gleifion a dybir bod enseffalitis ganddynt i fynd i mewn i'r ysbyty.[5]
Trinir enseffalitis firaol sydd wedi'i achosi gan herpes simplecs gyda'r cyffur gwrthfiraol Acyclovir, sy'n cael ei roi bron ar unwaith os tybir achos o enseffalitis gan taw prin yw sgîl-effeithiau'r cyffur. Rhoddir drwy bigiad i wythïen ac os yw'n cael ei roi'n ddigon cynnar, gall leihau cymhlethdodau eraill. Mae Acyclovir yn hynod o effeithiol yn erbyn enseffalitis herpes simplecs ond nid yw mor effeithiol yn erbyn firysau eraill.[5]
Os yw'r claf yn dioddef o ffitiau fel symptom yna gall gwrthgonfylsyddion, cyffuriau sy'n stopio neu'n atal ffitiau, gael eu rhoi. Mewn achosion difrifol, mae'n bosibl y bydd angen rhoi'r claf mewn uned gofal dwys fel y gall meddygon fonitro a thrin unrhyw lid ar yr ymennydd. Gall corticosteroidau gael eu rhoi i leihau llid, ynghŷd â gwrthfiotigau i atal neu drin heintiau bacteriol eraill, sy'n deillio o fod yn ddifrifol wael. Bydd mathau ôl heintus (awtoimiwn) o enseffalitis yn cael eu trin fel arfer â steroidau.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Enseffalitis: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Enseffalitis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ Enseffalitis: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Enseffalitis: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Enseffalitis: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.