Epimethëws (lloeren)
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Sadwrn, shepherd moon, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 530 ±70 |
Dyddiad darganfod | 18 Rhagfyr 1966 |
Echreiddiad orbital | 0.009 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Epimethews yw'r bumed o loerennau Sadwrn a wyddys:
- Cylchdro: 151,422 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 115 km (144 x 108 x 98)
- Cynhwysedd: 5.6e17 kg
Ym mytholeg Roeg mab Iapetws a brawd Promethëws ac Atlas oedd Epimethëws; gŵr Pandora. "Olwelediad" ydy ystyr yr enw "Epimethëws" yn y Roeg.
Cafodd y lloeren Epimethëws ei gweld am y tro cyntaf gan Walker ym 1966. Ond cafodd y sefyllfa ei drysu gan gylchdro tebyg Ianws, felly mae Walker yn rhannu darganfyddiad Epimethëws gyda Fountain a Larson a ddangosodd ym 1977 fod yna ddwy loeren ar wahân. Cafodd hynny ei gadarnhau gan Voyager 1 ym 1980.
Mae Epimethëws ac Ianws yn cyd-gylchdroadol. Dim ond 50 km ydy'r wahaniaeth rhwng radii cylchdroadol Ianws ac Epimethëws, sef llai nag eu tryfesurau eu hun. Mae eu cyflymiadau cylchdroadol felly bron yn gyfartal a bydd yr un sydd mewn cylchdro is, mwy cyflym fesul tipyn yn goddiweddyd y llall. Wrth iddyn nhw nesau ei gilydd maent yn cyfnewid momentwm ac fel canlyniad bydd yr un mewn cylchdro is yn cael ei gwthio i mewn i gylchdro uwch, tra bydd yr un mewn cylchdro uwch yn syrthio i mewn i gylchdro is. Mae'r cyfnewid hwn yn digwydd pob pedair mlynedd.
Mae yna sawl crater a chanddynt dryfesur sydd yn fwy na 30 km, yn ogystal â rhigolau a chribau mawr a bach. Mae nifer y craterau'n awgrymu bod Epimethëws yn eitha hen.