Ffôn
Talfyriad o'r gair teleffon ydy ffôn.
Daw'r gair teleffon allan o'r geiriau Hen Roeg tēle (τῆλε) ‘pell’ a phōnē (φωνή) ‘llais’. Dyfais yw e' a ddefnyddir i drosgwlyddo a derbyn sain, llais a thestun, ac ers 2006: llun a fideo. Fel arfer dau berson sy'n cysylltu â'i gilydd, ond weithiau dri neu rhagor. Erbyn hyn ceir mwy nag un (ar gyfartaledd) gan bob person ar y blaned. Mae'n weithio drwy signalau electronig yn cael eu trosglwydo drwy rwydwaith cymhleth o wifrau neu'n ddi-wifr, h.y. drwy donnau radio.
Mae'n ddyfais defnyddiol mewn llenyddiaeth er mwyn cyfleu cynildeb ac fe'i ddefnyddiwyd, er enghraifft, gan Gwenlyn Parry yn ei ddrama Saer Doliau ac ar ddiwedd awdl gyfoes. Defnyddir y gair crud yn y Gymraeg am y ffôn llinell sefydlog, ble rhoddir y darn llaw (set law) i orwedd yn y prif ran, h.y. ‘rhoi'r ffôn yn ei grud’.
Braslun
[golygu | golygu cod]Drwy bâr cyfrodedd o wifrau ynysedig, h.y. y llinell (neu ‘lein’ ar lafar) ffôn, gellir trosglwyddo gwybodaeth gan gynnwys: ffacs, telecs, rhyngrwyd a mathau eraill. Mae'r ‘alwad’ i alw'r person at y ffôn, bellach, yn amrywio'n fawr o'r caniad un tôn analog i blips digidol a hyn yn oed ganeuon neu seiniau eraill. Fe ddaeth y wifrlinell gordeddog yn wreiddiol gan nad oeddent yn cymysgu galwadau gwahanol 'interference' (ymyriant, clecian) neu 'crosstalk' (sgyrsiau croes).
Ceir dau fath o ffôn: ffôn symudol (di-wifr) a ffôn llinell sefydlog (gwifrog).
Hanes
[golygu | golygu cod]Ceir cryn ddadlau ynglŷn â phwy wnaeth ddyfeisio'r ffôn. Yn bennaf gan i sawl person ddyfeisio rhannau gwahanol, ar amseroedd gwahanol. Yn eu plith y mae: Innocenzo Manzetti, Antonio Meucci, Johann Philipp Reis, Elisha Gray, Alexander Graham Bell, a Thomas Edison.
Roedd gan rhai ffonau nad oeddent wedi eu cysylltu i gyflenwad electromagnetig neu generadur bychan i'w weindio er mwyn creu cerrynt i weithio'r ffôn.
Datblygiadau cynnar
[golygu | golygu cod]1844 — Innocenzo Manzetti yn codi'r syniad o fedru siarad drwy'r telegraff.
26 Awst 1854 — Charles Bourseul yn cyhoeddi erthygl yn L'Illustration (Paris): ‘Transmission électrique de la parole’.
22 Awst 1865 — La Feuille d'Aoste yn cofnodi ‘It is rumored that English technicians to whom Mr. Manzetti illustrated his method for transmitting spoken words on the telegraph wire intend to apply said invention in England on several private telegraph lines’.
28 Rhagfyr 1871 — Antonio Meucci yn ffeilio patent (rhif.3335) yn yr Unol Daleithiau dan y teitl "Sound Telegraph", gan ddisgrifio cyfathrebu rhwng lleisiau dau berson.
1874 — Meucci, yn methu codi arian i dalu am hawlfraint / patent ychwanegol.
6 Ebrill 1875 — Patent Bell yn yr Unol Daleithiau (Patent 161,739) "Transmitters and Receivers for Electric Telegraphs" yn cael ei ganiatau.
11 Chwefror 1876 — Gray yn dyfeisio trosglwydydd yn cynnwys hylif i'w ddefnyddio gyda'r ffôn, ond nid yw'n creu un.
14 Chwefror 1876 — Elisha Gray yn ffeilio patent caveat i drosglwyddo'r llais dynol.
14 Chwefror 1876 — Alexander Graham Bell yn hawlio patent "Improvements in Telegraphy", dros ffonau electromagnetig.
19 Chwefror 1876 — Swyddfa Batent yr Unol Daleithiau yn rhoi gwybod i Gray fod gwrthdynu rhng ei 'caveat' ef a chais Bell. Gray yn penderfynu rhoi'r ffidil yn y to.
7 Mawrth 1876 — Patent 174,465 Bell "Improvement in Telegraphy" yn cael ei ganiatau; hwnnw'n rheoli "the method of, and apparatus for, transmitting vocal or other sounds telegraphically … by causing electrical undulations, similar in form to the vibrations of the air accompanying the said vocal or other sound."
10 Mawrth 1876 — Y sgwrs ffôn clir cyntaf pan ddywedodd Bell i mewn i'w ddyfais newydd, "Mr. Watson, come here, I want to see you.” a Watson yntau'n clywed pob gair yn glir fel jin.
30 Ionawr 1877 — Patent rhif 86,787 Bell yn cael ei ganiatau.
27 Ebrill 1877 — Thomas Edison yn ffeilio am batent ar ei drosglwydydd graffeit (carbon). Hwnnw'n cael ei ganiatau.
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]-
Ffôn crud â deial cylchdro, 1972
-
Ffôn crud â bysellbad
-
Ffôn crud â bysellbad, tua 1980
-
Ffôn crud heb gordyn
-
Ffôn crud modern â pheiriant ateb integredig
-
Ffôn talu (Hong Cong)
-
Ffôn argyfwng modern a yrrir gan sain
-
Fideoffon
-
Ffôn symudol syml
-
Ffôn troi (agored)
-
Ffonau lloeren
Patentau
[golygu | golygu cod]- US 174,465 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Telegraphy (Patent cyntaf Bell) -- Alexander Graham Bell
- US 186,787 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Electric Telegraphy (permanent magnet receiver) -- Alexander Graham Bell
- US 474,230 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Speaking Telegraph (graphite transmitter) -- Thomas Edison
- US 203,016 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Speaking Telephone (carbon button transmitter) -- Thomas Edison
- US 222,390 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Carbon Telephone (carbon granules transmitter) -- Thomas Edison
- US 485,311 -- Telephone (solid back carbon transmitter) -- Anthony C. White (Bell engineer) Cynllun a ddefnyddiwyd hyd at 1940au.
- US 3,449,750 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Duplex Radio Communication and Signalling Appartus—G. H. Sweigert
- US 3,663,762 -- Cellular Mobile Communication System—Amos Edward Joel (Bell Labs)
- US 3,906,166 Archifwyd 2013-12-07 yn y Peiriant Wayback -- Radio Telephone System (DynaTAC ffôn llaw) -- Martin Cooper et al. (Motorola)