Gïach Cyffredin
Gwedd
Gïach Cyffredin | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Gallinago |
Rhywogaeth: | T. gallinago |
Enw deuenwol | |
Gallinago gallinago (Linnaeus, 1758) |
Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Gïach Cyffredin neu Gïach Gyffredin (Gallinago gallinago).
Mae'r Gïach Cyffredin yn aderyn cyffredin ar draws Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Dosbarthwyd Gïach Wilson (G. delicata) o Ogledd America a Gïach De America (G. paraguaiae) fel is-rywogaethau o'r aderyn hwn yn y gorffennol. Mae'r aderyn yn 23 – 28 cm o hyd, gyda phig hir.
Yng Nghymru, ceir niferoedd sylweddol yn gaeafu, ond mae'r nifer sy'n nythu yma wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd sychu gwlyptiroedd.