Gaara
Cymeriad yn y gyfres manga ac anime Naruto yw Gaara (我愛羅 - Japaneg). Crëwyd gan Masashi Kishimoto. Mae'n cyferbynnu gyda'r prif gymeriad, Naruto Uzumaki. Magwyd y ddau mewn amgylchiadau tebyg, ond maent wedi datblygu personoliaethau gwahanol wrth ddelio gyda plentyndod caled. Cyflwynwyd yn wreiddiol fel gelyn i Naruto, ond maent yn dod yn ffrindiau da wrth i'r gyfres barhau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ninja o Sunagakure yw Gaara. Mae ganddo chwaer a brawd, Temari a Kankuro. Nhw yw plant arweinydd eu pentref, y pedwaredd Kazekage. Dewiswyd Gaara gan ei dad i fod yn gwestywr i gythraul y Shukaku (neu Ichibi, sydd â un cynffon). Mewn canlyniad, bu farw ei fam wrth iddo gael ei eni.
Golwg
[golygu | golygu cod]Mae gan Gaara gwallt coch, y gair "cariad" ar ei ben mewn Japaneg (愛), a llygaid gwyrddlas gyda beth sydd yn edrych fel llinellwr llygaid du. Gowrd sydd ar ei gefn llawn tywod sydd yn actio fel amddiffyniad diamod wrth iddo cael ei ymosod arno.