Gwledydd y Deyrnas Unedig
Mae gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys pedair wlad a chenedl, sef yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr. Mae Cymru, Lloegr, a'r Alban yn ffurfio ynys Prydain Fawr, a Gogledd Iwerddon yn rhan ogledd ddwyreiniol o ynys Iwerddon. Mae Cymru, yr Alban, a (Gogledd) Iwerddon yn wledydd Celtaidd. Mae wlad Geltaidd Cernyw hefyd yn rhan o Brydain ac felly'r Deyrnas Unedig, ac ystyrid gan rai yn wlad a chenedl ychwanegol, ond yn gyfreithiol ac yn weinyddol mae hi'n sir yn Lloegr.
Lleolir llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, ac mae hefyd gan Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon lywodraethau datganoledig. Mae Cymru a Lloegr yn rhannu'r un system gyfreithiol gydag rhywfaint o annibyniaeth i Gymru trwy Gyfraith Gyfoes Cymru, tra bo gan yr Alban a Gogledd Iwerddon systemau ar wahân eu hunain.
Mae nifer yn ystyried y Deyrnas Unedig neu Brydain yn genedl ei hunain sydd ag hunaniaeth genedlaethol Prydeindod.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Gwledydd Cartref, term cyfunol am Gymru, yr Alban, Lloegr ac Iwerddon a ddefnyddir gan amlaf o fewn cyd-destun timau chwaraeon
- Ynys Brydain neu Ynys Prydain, yr enw Cymraeg traddodiadol ar yr ynys yn hanes traddodiadol Cymru.
- Ynys Manaw, cenedl Geltaidd a leolir rhwng Prydain ac Iwerddon sydd yn diriogaeth ddibynnol y Goron
- Ynysoedd Prydain, term am ynysoedd Prydain, Iwerddon, ac Ynys Manaw