Gwregys diogelwch
- Gweler hefyd: Gwregys
Math | protective device, vehicle safety technology, safety harness |
---|---|
Rhan o | occupant restraint system |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o harnais yw gwregys diogelwch, sydd wedi ei ddylunio er mwyn atal i bobl mewn cerbyd gael eu taflu a chael anafiadau difrifol os bydd y cerbyd mewn damwain neu yn gorfod stopio'n sydyn. Maent yn lleihau anafiadau wrth eu stopio rhag dod i gyswllt â elfennau caled mewnol y cerbyd, eu hatal rhag gael eu taro o'r cefn gan ddeiliaid eraill y cerbyd, a'u hatal rhag cael eu taflu o'r cerbyd. Maent hefyd yn amsugno egni gan eu bod wedi cael eu dylunio i ymestyn mewn damwain, fel bod llai o wahaniaeth yng nghyflymder y car a cyflymder y deiliaid, mae hefyd yn helpu i wasgaru'r llwyth ar draws corff y deiliaid.
Maent wedi eu dylunio i weithio ar y cyd gyda elfennau eraill diogelwch y cerbyd, megis parth crychu a bagiau awyr i leihau'r grym yn erbyn y corff mewn damwain.
Ym Mhrydain, mae hi'n erbyn y gyfraith i deithio mewn cerbyd, megis car, fan, lori neu fws, heb wisgo gwregys lle mae un ar gael.