Hafaliad cwadratig
Mewn algebra, hafaliad cwadratig yw unrhyw hafaliad polynomaidd yn y ffurf
ble mae x yn cynrychioli anhysbysyn ac a, b, ac c yn cynrychioli rhifau hysbys, gyda a ≠ 0. Os yw a = 0, yna mae'n hafaliad llinol, nid cwadratig. Y newidynnau a, b, ac c yw cyfernodau'r hafaliad.[1]
Yn syml, diffinnir hafaliad cwadratig os taw x2 yw'r indecs mwyaf. Daw'r gair "cwadratig" o'r gair Lladin "quadrum" sy'n golygu "sgwâr".
Dull gwaredu
[golygu | golygu cod]Gan taw x2 yw'r indecs mwyaf yn yr hafaliad mae yna ddau ddatrysiad bob tro. O ganlyniad i hyn ni ellir ddefnyddio'r dull gwaredu ar ei ben ei hun er mwyn eu datrys heblaw bod x2 yn yr unig term x yn yr hafaliad.
Er enghraifft, gellir datrys yr hafaliad cwadratig canlynol trwy waredu'n unig.
x2 = 16
x = ±4
Hynny yw gall x fod naill ai -4 neu 4 oherwydd mae 42 = 16, ac mae (-4)2 = 16.
Dull ffactorio
[golygu | golygu cod]Nid yw'n bosib gwaredu gyda hafaliadau mwy cymhleth. Gyda hafaliad tebyg i x2 = x + 2, mae angen defnyddio'r dull ffactorio.
Mae angen ail-drefnu'r hafaliad i gael popeth yn hafal i 0.
x2 - x - 2 = 0
Nawr mae angen trin yr hafaliad i gael 2 beth yn lluosi â'i gilydd i hafal 0 oherwydd yn yr hafaliad ab = 0, naill ai mae a = 0, neu mae b = 0.
Er mwyn cael dau beth yn lluosi â'i gilydd yn hafal i 0, mae'n rhaid ffactorio.
x2 - x - 2 = 0
(x - 2) (x + 1) = 0
Nawr, mae (x - 2) yn lluosi gyda (x + 1) i greu 0, felly mae naill ai x - 2 = 0, neu mae x + 1 = 0. Felly rydym yn diddymu i gael y ddau ddatrysiad posib am x.
(x - 2) (x + 1) = 0
x - 2 = 0, x + 1 = 0
Felly x = {-1, 2}.
Enghraifft bellach
8 - 3y2 = 10y
3y2 + 10y - 8 = 0
(3y - 2) (y + 4) = 0
3y - 2 = 0, y + 4 = 0
3y = 2, y = -4
y = ⅔, y = -4.
y = {⅔, -4}.
Y fformiwla gwadratig
[golygu | golygu cod]Gellir hefyd ddefnyddio'r fformiwla gwadratig i'w datrys:
pan mae
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ Protters & Morrey: Calculus and Analytic Geometry. First Course.