Neidio i'r cynnwys

Hanes Israel

Oddi ar Wicipedia
Cynllun a basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig i rannu Israel yn ddwy wlad; 1947.[1]

Dechreuodd hanes gwladwriaeth fodern Israel pan sefydlodd Theodor Herzl y mudiad Seionaidd ar ddiwedd y 19g. Anogodd y genedl Iddewig i ddychwelyd i'w mamwlad hanesyddol yn y Tir Sanctaidd. Ymfudodd miloedd o Iddewon i Balesteina, oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Cyhoeddodd y llywodraeth Brydeinig ei nod o sefydlu cartref cenedlaethol i'r Iddewon ym Mhalesteina drwy Ddatganiad Balfour (1917), ac ym 1922 cafodd mandad i lywodraethu Palesteina ei roi i'r Deyrnas Unedig gan Gynghrair y Cenhedloedd. Wedi erledigaeth gan y Natsïaid, a gyrhaeddodd ei hanterth yn yr Holocost, ymfudodd niferoedd mawrion o Iddewon i Balesteina yn y 1930au a'r 1940au. Cynyddodd tensiynau rhwng yr Iddewon a'r Arabiaid brodorol, ac wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd cefnogodd y Cenhedloedd Unedig ffurfio dwy wladwriaeth ochr yn ochr. Gwrthodwyd hyn gan yr Arabiaid, a ffurfiwyd gwladwriaeth Israel yn unig ar 14 Mai 1948 wrth i'r Prydeinwyr encilio o'r wlad.

Cafodd Israel ei goresgyn gan y gwledydd Arabaidd cyfagos. Llwyddodd lluoedd Israel i wrthsefyll yr ymosodiadau, a chafodd seibiant yn y gwrthdaro yn sgil cadoediad 1949. Aildaniodd y gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd yn y Rhyfel Chwe Diwrnod ym 1967, a chafodd tiriogaethau Llain Gaza a'r Lan Orllewinol, Gorynys Sinai ac Ucheldiroedd Golan eu meddiannu gan Israel. Methodd ymdrechion yr Arabiaid i adennill y tiroedd hyn yn Rhyfel Yom Kippur (1973). Enciliodd Israel o Sinai yn sgil trafodaethau heddwch a ddychwelwyd y diriogaeth i'r Aifft ym 1979.

Goresgynodd Israel ardal ddeheuol Libanus ym 1982 i orfodi lluoedd Palesteinaidd i adael y wlad honno. Daeth y prif wrthdaro i ben ym 1985, ond parhaodd Israel i feddiannu tir Libanus. Cynyddodd y gwrthsafiad yn y Tiriogaethau Palesteinaidd a datganwyd yr Intifada cyntaf (1987–93). Bu ychydig o ymdrechion heddwch yn y 1990au: arwyddwyd cytundeb heddwch rhwng Israel a Gwlad Iorddonen ym 1994, cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf yn y Tiriogaethau Palesteinaidd ym 1996, ac enciliodd lluoedd Israel o Libanus yn 2000.

Ailddechreuodd y gwrthdaro yn yr 21g gyda'r ail Intifada (2000–05). Lladdwyd nifer gan hunanfomwyr Palesteinaidd, ac adeiladodd Israel "Fur Diogelwch" o amgylch Jerwsalem. Ymladdwyd Rhyfel Libanus 2006 rhwng Israel a lluoedd Hizballah. Aildaniodd y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd yn Llain Gaza yn 2008–09 ac eto yn 2014.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Mae'r map gwreiddiol i'w gael yma.