Neidio i'r cynnwys

Helen Keller

Oddi ar Wicipedia
Helen Keller
GanwydHelen Adams Keller Edit this on Wikidata
27 Mehefin 1880 Edit this on Wikidata
Tuscumbia Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 1968 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Easton Edit this on Wikidata
Man preswylCoolidge Hill Road, Dana Street Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Radcliffe
  • Prifysgol Harvard
  • The Cambridge School of Weston
  • Ysgol Perkins i'r Deillion Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, areithydd, awdur ysgrifau, gweithredydd gwleidyddol, undebwr llafur, ymgyrchydd heddwch, swffragét, ieithydd, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Story of My Life, The Frost King Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd America Edit this on Wikidata
TadArthur Henley Keller Edit this on Wikidata
MamCatherine Adams Edit this on Wikidata
PerthnasauCharles W. Adams Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyddid yr Arlywydd, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Alabama, Oriel yr Anfarwolion Menywod Connecticut, Hall o Honor y Blaid Lafur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Sant Sava, Marchog Urdd y Groes Ddeheuol, Urdd Bernardo O'Higgins, Urdd y Trysor Sanctaidd, Urdd Teilyngdod, Urdd Croes y De Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur, ymgyrchydd a darlithydd o'r Unol Daleithiau oedd Helen Adams Keller (27 Mehefin 18801 Mehefin 1968). Hi oedd y person cyntaf i raddio o goleg er gwaethaf bod yn ddall a byddar.

Ganed hi yn Tuscumbia, Alabama, yn ferch i'r Capten Arthur H. Keller a Kate Adams Keller, oedd yn gyfneither i Robert E. Lee. Pan oedd tua 19 mis oed, cafodd afiechyd a ddisgrifwyd gan ei meddygon fel "llid ar yr ystumog a'r ymennydd", a'i gadawodd yn ddall a byddar. Datblygodd hi a Martha Washington, merch chwech oed cogydd y teulu, system o arwyddion i gyfathrebu â'i gilydd; erbyn iddi gyrraedd saith oed roedd ganddi tua 50 o arwyddion. Yn 1886 gyrrodd ei mam Helen a'i thad i Baltimore, Maryland, i ymgynghori a Dr. J. Julian Chisolm. Awgrymodd ef iddynt gysylltu â'r 'Perkins Institute for the Blind', a phenododd y sefydliad Anne Sullivan i weithredu fel tiwtor i Helen. Llwyddodd hi i ddysgu Helen i siarad ac darllen Braille. Yn 1904, graddiodd o Radcliffe College.

Aeth Helen ymlaen i fod yn ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl, dros y bleidlais i ferched, heddychaeth ac achosion sosialaidd. Daeth y stori o sut y gallodd Annie Sullivan ddysgu Helen i gyfathrebu yn enwog trwy'r ffilm The Miracle Worker.