Helena o Gaergystennin
Helena o Gaergystennin | |
---|---|
Ganwyd | c. 250 Helenopolis |
Bu farw | 18 Awst 330 Caergystennin, Nicomedia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Dydd gŵyl | 18 Awst, 21 Mai, 19 Mawrth, 3 Mehefin |
Priod | Constantius Chlorus |
Plant | Cystennin I |
Llinach | llinach Cystennin |
Gwraig yr ymerawdwr Rhufeinig Constantius Chlorus a mam yr ymerawdwr Cystennin Mawr oedd Flavia Iulia Helena Augusta neu Helena o Gaergystennin (tua 250 – tua 330). Ei dydd gŵyl yw 18 Awst.
Credir ei bod yn enedigol o Drepanum, a dywedir fod ei thad yn cadw gwesty. Ysgarodd Constantius Chlorus hi tua 289 er mwyn priodi Theodora, llysferch Maximianus. Pan ddaeth ei mab Cystennin yn ymerawdwr, rhoddwyd y teitl "Augusta" iddi. Dywedir iddi fynd ar bererindod i Jeriwsalem a darganfod rhan o'r groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni. Ystyrir hi yn sant gan yr Eglwys Uniongred a'r Eglwys Gatholig. Hi yw nawdd-santes archaeolegwyr.
Credir fod cymeriad Elen Luyddog yn y chwedl Gymreig Breuddwyd Macsen Wledig wedi ei seilio yn rhannol ar Helena. Ymddengys hefyd fel cymeriad yng ngwaith Sieffre o Fynwy.