Neidio i'r cynnwys

Heracles

Oddi ar Wicipedia
Pen Heracles, cerflun yn Amgueddfa'r Glyptothek, München.

Roedd Heracles neu Herakles (Ἡρακλῆς), Hercules i'r Rhufeiniaid, hen ffurf Cymraeg Ercwlff, yn gymeriad mewn mytholeg Roeg. Roedd yn fab i Zeus ac Alcmene, ac roedd nifer o linachau brenhinol yn ei hawlio fel cyndad.

Roedd Heracles yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder, ond roedd y dduwies Hera, gwraig Zeus, yn ei gasàu. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth yr oedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.

Rhoddwyd deuddeg tasg iddo i gyd. Yn ôl Apollodorus (2.5.1-2.5.12) roeddynt yn y drefn ganlynol:

  1. Lladd Llew Nemea.
  2. Dinistrio Hydra Lernaea.
  3. Dal Ewig Ceryneia.
  4. Dal Baedd Erymanthia.
  5. Glanhau stablau Augea.
  6. Lladd Adar Stymphalia.
  7. Dal Tarw Creta.
  8. Casglu Cesyg Diomedes.
  9. Dwyn Gwregys Hippolyte.
  10. Gyrru Gwartheg Geryon.
  11. Dwyn Afalau yr Hesperides.
  12. Cymeryd Serberws yn garcharor.