Hyperion (lloeren)
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 5.58 ±0.02 |
Dyddiad darganfod | 16 Medi 1848 |
Echreiddiad orbital | 0.1230061 |
Radiws | 135 ±4 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hyperion yw'r unfed ar bymtheg o loerennau Sadwrn a wybyddir.
- Cylchdro: 1,481,100 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 286 km (410 x 260 x 220)
- Cynhwysedd: 1.77e19 kg
Un o'r Titaniaid oedd Hyperion ym mytholeg Roeg, yn fab i Gaia (Y Ddaear) ac Wranws, ac yn dad i Helios (yr Haul).
Darganfuwyd y lloeren Hyperion gan Bond a Lassel ym 1848.
Corff afreolaidd (sef un sydd ddim yn gronnell) mwyaf Cysawd yr Haul yw Hyperion. Mae Protëws yn fwy ond mae hi bron yn gronnell. Mae'n debyg bod Hyperion yn dalch sy'n hanu o gorff mwy a gafodd ei dorri gan ardrawiad mawr yn y gorffennol pell.
Fel y rhan fwyaf o loerennau eraill Sadwrn mae dwysedd isel yn awgrymu iddi fod wedi ei chyfansoddi gan iâ dŵr gyda dim ond swm bach o graig.
Ond yn wahanol i loerennau eraill Sadwrn, mae gan Hyperion albedo isel (.2-.3), sy'n awgrymu iddi fod wedi ei gorchuddio gan haen o ddefnydd tywyll. Gallai hyn fod yn ddefnydd sydd wedi dod oddi wrth Phoebe (sydd yn fwy tywyll) ac sydd wedi llwyddo i fynd heibio Iapetws.
Mae lluniau Voyager ynghyd â ffotometreg ddilynol yn dangos bod Hyperion yn cylchdroi mewn ffordd anhrefnus, h.y. bod ei hechel yn ysgwyd cymaint fel mae gogwydd Hyperion yn y gofod yn hollol anrhagweladwy. Mae gan Hyperion ffurf afreolaidd, cylchdro echreiddig, ac mae hi'n agos i loeren fawr arall (Titan): gallai'r ffactorau hyn gyfuno i rwystro'r amodau dan y rhai gallai cylchdro sefydlog fod yn bosibl.Gallai'r cyseiniant cylchdroadol o 3:4 rhwng Hyperion a Titan hefyd greu cylchdro anhrefnus.
Gallai cylchdro od Hyperion fod yn gyfrifol am unffurfedd arwyneb Titan, gan nad oes ganddi hemisfferau arweiniol a llusgol sefydlog fel yn achos y lloerennau eraill.