Ian Paisley
Ian Paisley | |
---|---|
Ganwyd | Ian Richard Kyle Paisley 6 Ebrill 1926 Armagh |
Bu farw | 12 Medi 2014 Belffast |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Leader of the Democratic Unionist Party, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, member of the 1973–74 Northern Ireland Assembly, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd |
Tad | J. Kyle Paisley |
Mam | Isabella Turnbull |
Priod | Eileen Paisley |
Plant | Ian Paisley, Sharon Kyle Paisley, Rhonda Elaine Kyle Paisley, Cherith Jane Kyle Paisley, James Cassells Kyle Paisley |
Ian Paisley | |
Cyfnod yn y swydd 8 Mai 2007 – 5 Mehefin 2008 | |
Dirprwy | Martin McGuinness |
---|---|
Rhagflaenydd | David Trimble |
Olynydd | Peter Robinson |
Geni |
Gwleidydd unoliaethol a gweinidog Protestannaidd o Ogledd Iwerddon oedd Ian Richard Kyle Paisley (6 Ebrill 1926 – 12 Medi 2014). Cydsefydlodd Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a bu'n arweinydd arni; bu hefyd yn Aelod Seneddol Gogledd Antrim (18 Mehefin 1970 - 6 Mai 2010) ac yn aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon dros yr un etholaeth rhwng Mehefin 1998 – 25 Mawrth 2011. Daeth yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon ar 8 Mai 2007 hyd 5 Mehefin 2008. Ei nodwedd pennaf oedd ei allu i areithio'n uchel, yn ymfflamychol ac o'r galon; roedd hyn yn troi llawer yn ei erbyn, ac eraill (fel y 'Paisleyites') o'i blaid.
Ganwyd Ian Richard Kyle Paisley yn Armagh, Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon ac fe'i magwyd yn nhref Ballymena, Swydd Antrim, ble roedd ei dad James Kyle Paisley yn weinidog Protestannaidd a oedd hefyd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Ulster Volunteers o dan Edward Carson.[1] Astudiodd ddiwinyddiaeth yn Ysgol Efengylaidd y Barri ym Mro Morgannwg ac yna am flwyddyn yn Neuadd Diwinyddol Belfast.
Y Pamffletîr
[golygu | golygu cod]Sefydlodd bapur newydd yn Chwefror 1966 y Protestant Telegraph, fel llais efengylaidd, unoliaethol iddo ef ei hun.[2] Ceir ei enw'n awdur ar sawl llyfr a phamffled a hynny ar faesydd gwleidyddol a chrefyddol gan gynnwys Epistle to the Romans.[3]
Ei ymgyrch gwrth-hoywon
[golygu | golygu cod]Pregethodd dro ar ôl tro yn erbyn hoywon[4] a chefnogodd ddeddfau i'w gwahardd. Roedd "Save Ulster from Sodomy" yn ymgyrch gwrth-hoywon a sefydlodd yn 1977 fel gwrthwynebiad i'r ymgyrch Campaign for Homosexual Law Reform (Northern Ireland), yn 1974.[5] Methodd yn ei ymdrech.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Troubles: The background to the question of Northern Ireland, Downing, Taylor; tud 132, cyhoeddwyd gan Thames Macdonald
- ↑ T. Gallagher, "Religion, Reaction, and Revolt in Northern Ireland: The Impact of Paisleyism in Ulster", Journal of Church and State, 23.3 (1981), tud. 440
- ↑ Exposition of the Epistle to the Romans, Ian Paisley, Emerald House Group Inc, 1997
- ↑ Ian Paisley and politics of peace, Los Angeles Times, 24 Mawrth 2010
- ↑ "Paisley campaigns to 'save Ulster from Sodomy'". The Irish Times. 20 Hydref 1977. t. 7. Cyrchwyd 7 Mai 2008.Nodyn:Subscription required
- ↑ Stonewall timeline of Gay & Lesbian history available here [1].
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Maitland Clark |
Aelod Seneddol dros Ogledd Antrim 1970 – 2010 |
Olynydd: Ian Paisley, Jr. |
Senedd Gogledd Iwerddon | ||
Rhagflaenydd: Terence O'Neill |
Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon dros Bannside 1970 – 1972 |
Olynydd: gohiriwyd swydd, 1972 diddymwyd senedd, 1973 |
Senedd Ewrop | ||
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Iwerddon 1979 – 2004 |
Olynydd: Jim Allister |
Cynulliad Gogledd Iwerddon | ||
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Antrim 1998 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: swydd wedi'i gohirio, 2002–2007 (David Trimble, 2001–2002) |
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon 2007 – 2008 |
Olynydd: Peter Robinson |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd 1971 – 2008 |
Olynydd: Peter Robinson |