International New York Times
Enghraifft o'r canlynol | daily newspaper, papur newydd |
---|---|
Cyhoeddwr | The New York Times Company |
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 2013 |
Rhagflaenwyd gan | International Herald Tribune |
Lleoliad cyhoeddi | Paris |
Perchennog | The New York Times Company |
Sylfaenydd | James Gordon Bennett Jr. |
Pencadlys | Paris |
Gwefan | https://www.nytimes.com/international/ |
Papur newydd byd-eang yn yr iaith Saesneg yw'r International New York Times (International Herald Tribune gynt). Mae'n cyfuno adnoddau ei gohebwyr eu hunain gyda rhai'r New York Times. Caiff ei argraffu ar 33 safle'n fyd-eang, ac mae ar werth mewn dros 180 gwlad. Mae'r papur yn rhan o'r The New York Times Company. Mae pencadlys y papur ym Mharis ers 1887.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr Herald ar 4 Hydref 1887, fel rhifyn Ewropeaidd o'r New York Herald gan berchennog y rhiant-bapur, James Gordon Bennett, Jr.. Mae pencadlys y cwmni Neuilly-sur-Seine, un o faesdrefi Paris.
Ym 1928, daeth yr Herald yn bapur newydd cyntaf i gael ei ddosbarthu ar awyren, gan hedfan copïau i Lundain o Baris mewn pryd i gael ei ddarllen dros brecwast. Ni chafodd yr IHT ei gyhoeddi yn ystod meddiant yr Almaen Natsiaidd o Baris (1940–1944).
Yn 1959, prynodd John Hay Whitney, dyn busnes a Llysgenad yr Unol Daleithiau i Brydain Fawr, y New York Herald Tribune a'r rhifyn Ewropeaidd. Yn 1966, daeth papur Efrog Newydd i ben, ond fe gadwodd y teulu Whitney papur Paris i gael ei gyhoeddi drwy bartneriaethau. Yn Rhagfyr 1966, fe ddaeth y Washington Post yn gyd-berchennog arni.
Daeth y New York Times yn gyd-berchennog ar y Herald ym Mai 1967; a daeth y papur newydd i gael ei adnabod dan yr enw newydd, International Herald Tribune.
Yn 1974, dechreuodd yr IHT drosglwyddo tudalennau ffacsimili o'r papur rhwng gwledydd, ac agorodd safle argraffu yn agos i Lundain. Fe agorwyd ail safle yn Zürich yn 1977.
Dechreuodd yr IHT anfon tudalennau'r papur i o Baris i Hong Kong yn electronig drwy lloeren yn 1980, gan wneud y papur ar gael yn gydamserol ar ddwy ochr y byd. Hwn oedd y trosglwyddiad rhyng-gyfandirol o bapur newydd yn yr iaith Saesneg, gan ddilyn esiampl arloesol y papur newydd dyddiol Tseiniaidd, Sing Tao Daily.
Yn 1991, daeth y Washington Post a'r New York Times yn unig cyfranddalwyr, a chyfranddalwyr cyfartal o'r papur.
Agorwyd ystafell newyddion Asia yn Hong Kong yn Chwefror 2005.
Ers 2007, mae'r IHT yn eiddo The New York Times Company yn unig, ar ôl i'r cwmni brynu'r cyfran 50% a oedd yn eiddo i'r Washington Post Company ar 30 Rhagfyr 2002. Daeth y gwerthiant hwn bartneriaeth 35 mlynedd y ddau gwmni, sy'n cystadlu yn mewnwladol, i ben. Gorfodwyd y Post i werthu eu cyfran pan fygythiodd y Times i dynnu allan a dechrau papur cystadleuol eu hunain. Fel canlyniad, cytunodd y Post i gyhoeddi rhai erthyglau yn rhifyn Ewropeaidd y Wall Street Journal.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Argraffiad ar-lein y papur