Joséphine de Beauharnais
Joséphine de Beauharnais | |
---|---|
Portread o'r Ymerodres Joséphine yn Malmaison yn 1801, gan François Gérard | |
Ganwyd | 23 Mehefin 1763 Les Trois-Îlets |
Bu farw | 29 Mai 1814 o difftheria Rueil-Malmaison |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | casglwr celf, drafftsmon, arlunydd, noddwr y celfyddydau |
Tad | Joseph-Gaspard de Tascher de La Pagerie |
Mam | Rose Claire Des Vergers de Sannois |
Priod | Napoleon I, Alexandre de Beauharnais |
Plant | Eugène de Beauharnais, Hortense de Beauharnais |
Llinach | Duc de Dalberg |
Gwobr/au | Urdd y Frenhines Maria Luisa |
Roedd Joséphine Bonaparte (ganwyd Marie Josèphe Rose Tascher de La Pagerie; 23 Mehefin 1763 – 29 Mai 1814) yn Ymerodres y Ffrancwyr fel gwraig gyntaf yr Ymerawdwr Napoleon I. Caiff ei hadnabod yn aml fel Joséphine de Beauharnais.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Les Trois-Îlets, Martinique, i deulu cyfoethog o Ffrainc a oedd yn berchen ar blanhigfa siwgr a ddefnyddiodd llafur caethweision. Hi oedd merch hynaf Joseph-Gaspard Tascher de La Pagerie (1735–1790) a'i wraig Rose-Claire des Vergers de Sannois (1736–1807).
Priododd Joséphine ei gŵr cyntaf, y milwr Alexandre de Beauharnais, a ddaeth yn gadlywydd yn hwyrach, ym 1779. Fe'i ddienyddiwyd ef gan y gilotîn yn 1794, yn ystod y cyfnod o'r Chwyldro Ffrengig a elwir yn Deyrnasiad Braw. Carcharwyd Joséphine yn hen fynachdy Carmes am bum niwrnod ar ôl dienyddiad ei gŵr.
Derbyniodd Joséphine nifer o lythyrau caru a ysgrifennwyd gan Napoleon; mae llawer ohonynt yn dal i fodoli. Am na chafodd blant â Napoleon, fe dirymwyd eu priodas ganddo ef ym 1810, ac fe briododd ef Marie-Louise o Awstria.
Fel noddwr celf, gweithiodd Joséphine yn agos gyda cherflunwyr, arlunwyr ac addurnwyr mewnol i ddatblygu arddull unigryw, "le style Empire" ('arddull yr Ymerodraeth'; hynny yw, yr ymerodraeth Ffrengig gyntaf) yn y Château de Malmaison, ger Afon Seine yn Île-de-France. Roedd y château yn enwog am ei gardd rosod, y bu Joséphine yn ei goruchwylio'n agos.
Disgynyddion a pherthnasau
[golygu | golygu cod]Trwy ei phlant gyda Beauharnais, Joséphine oedd nain Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc yn ystod yr Ail Ymerodraeth, ac Amélie o Leuchtenberg, ymerodres Brasil. Mae aelodau o deuluoedd brenhinol presennol Sweden, Denmarc, Gwlad Belg a Norwy, ac hefyd teulu archddugol Lwcsembwrg, yn disgyn ohoni.
Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli, a boddwyd Adeline Coquelin, nith deuddeg oed Joséphine. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.