Neidio i'r cynnwys

Josh Navidi

Oddi ar Wicipedia
Josh Navidi
Ganwyd30 Rhagfyr 1990 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra185 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau105 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata

Chwaraewyr rygbi rhyngwladol dros Gymru yw Josh Navidi (ganwyd 30 Rhagfyr 1990). Mae'n chwarae i dîm Gleision Caerdydd. Bu'n gapten tîm dan-20 cenedlaethol Cymru.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Mae ei dad Hedy, o Iran ac yn gyn-reslwr arddull-rhydd o safon a aeth i astudio peirianneg sifil ym Mhrifysgol Bangor lle cyfarfu â mam Josh, Euros, sy'n Gymraes Gymraeg o Ynys Môn. Symudodd y cwpwl i ardal Penybont-ar-Ogwr lle mynychodd Josh Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr [1] ac yna ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhenybont. Yn 16 oed, aeth Josh i Seland Newydd lle astudiodd Cyfrifeg ac Addysg Gorfforol yng Ngholeg St Bede, Christchurch. Er iddo fwynhau ei amser yn Seland Newydd ac iddo gael cynnig cytundeb gydag Academi rygbi Christchurch, meddai wrth bapur y Western Mail, “I could have stayed there happily enough but I am a Welsh boy and wanted to put a red jersey on.” Dychwelodd i Gymru ac ymunodd ag Academi rygbi Gleision Caerdydd.[2]

Mae'n gallu siarad Cymraeg er ei fod wedi bod yn swil i wneud hynny'n gyhoeddus. Mewn sgwrs gyda'r gohebydd chwaraeon BBC Cymru Wales, Gareth Rhys Owen, Josh a'i fam, Euros, nododd ei gefnogaeth i'r iaith.[3]

Mae'n adnabyddus ar y cae rygbi yn rannol am fod ganddo wallt yn steil 'dreadlocks'.

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2013 dewiswyd ef i fod yn rhan o garfan 35 dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013.[4]

Ym Mai 2013 dewiswyd ar gyfer sgwad 32 dyn ar gyfer taith haf Cymru i Siapan.[5] Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru mewn gêm fel blaenasgellwr ochr agored ar 15 Mehefin 2013.[6]

Ym mis Awst 2019 cyhoeddwyd bod disgwyl i Navidi gaptenio Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Siapan.[7]

Diddordebau busnes

[golygu | golygu cod]

Ymhlith diddordebau busnes y teulu mae canolfan ffitrwydd ac iechyd - Physique Health and Fitness Centre, ym Mhen-y-bont sydd wedi ei redeg gan ei dad ers 1995. Mae Navidi wedi treilio peth amser yn rhedeg y ganolfan ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau a gofyn i'w dad ail-afael yn y gwaith oherwydd pwysau chwarae rygbi. Mae Navidi hefyd wedi ei hyfforddi fel Hyforddwr Ffitrwydd trwyddiedig ac mae'n rhedeg cwrs hyfforddiant personol i glientiaid.[7]

Ymddeol oherwydd anaf

[golygu | golygu cod]

Datganodd Josh ei ymddeoliad o rygbi ar 20 Ebrill 2023 oherwydd "anaf difrifol i'w wddf." Dechreuodd Navidi ei yrfa gyda chlwb Caerdydd yn 2009, a dros y blynyddoedd mae wedi cynrychioli Cymru 33 o weithiau.

"Gyda thristwch, a balchder mawr dwi'n cyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi," dywedodd Navidi. Yn ystod ei yrfa bu Navidi'n rhan o dri thîm wnaeth ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac yn 2019 fu'n rhan o'r tîm Cymraeg gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd.[8]

Ailddysgu Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn 2024 ymddangosodd Josh yng nghyfres 'Iaith ar Daith' ar S4C. Yn ei dywys ar y daith dysgu Cymraeg ac ar draws Cymru oedd cyn gapten Cymru, Ken Owens. Er i Josh allu siarad Cymraeg yn blentyn bychan roedd wedi anghofio y rhan fwyaf ohono erbyn ei fod yn oedolyn. Yn y rhaglen teithiodd ar draws Cymru yn dysgu geirfa newydd a siarad Cymraeg gyda phobl o wahanol gefndiroedd.[9][10]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Ardderchog. Cyn-ddisgybl @ysgolbroogwr ...wnaeth fy Mam ei ddysgu yno. Angen mwy o gefnogaeth ar gyfer darpariaeth ysgolion cyfrwng Cymraeg yn @CBSPenybont os rydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg!". Cyfrif Twitter @BethanMorgan7. 9 Mawrth 2019.
  2. "The rise of Josh Navidi: How this son of an Iranian wrestler was almost lost to New Zealand rugby". Wales Online. 10 Tachwedd 2017.
  3. Rygbi, Clwb (2019-03-08). ""Dwi'n gobeithio gallu siarad gyda nhw yn Gymraeg."". @yclwbrygbi. Cyrchwyd 2019-03-08.
  4. "Wales 2013 Six Nations squad". BBC Sport. 15 Ionawr 2013.
  5. Wales squad
  6. "Japan record historic first win over Wales". BBC Sport. 15 Mehefin 2013.
  7. 7.0 7.1 "The son of an Iranian wrestler who was almost lost to New Zealand but is now set to captain Wales". Wales Online. 26 Awst 2019.
  8. "Josh Navidi yn ymddeol oherwydd anaf 'difrifol' i'w wddf". BBC Cymru Fyw. 20 Ebrill 2023.
  9. "Iaith Ar Daith Josh Navidi & Ken Owens! Wreslo! Wrestling!". Sianel Youtube S4C. 19 Medi 2024.
  10. "Iaith ar Daith". Gwefan S4C. Cyrchwyd 23 Medi 2024.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]