Juno (chwiliedydd)
Enghraifft o'r canlynol | chwiliedydd gofod, orbiter |
---|---|
Màs | 3,625 cilogram, 1,593 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Rhaglen New Frontiers |
Rhagflaenwyd gan | New Horizons |
Olynwyd gan | OSIRIS-REx |
Gweithredwr | Labordy Propulsion Jet |
Gwneuthurwr | Lockheed Martin Space |
Enw brodorol | Juno |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | http://www.nasa.gov/mission_pages/juno/main/index.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Chwiliedydd gofod yw Juno sy'n cylchdroi'r blaned Iau. Cafodd ei lansio gan NASA o Orsaf Awyrlu Cape Canaveral ar 5 Awst 2011, fel rhan o raglen New Frontiers, ac aeth i gylchdro o gwmpas y blaned Iau ar 4 Gorffennaf 2016.[1][2][3] Mae'r llong ofod mewn cylchdro pegynol i astudio cyfansoddiad Iau, maes disgyrchiant, maes magnetig, a magned-sffer pegynol. Fe fydd Juno hefyd yn chwilio am gliwiau am sut ffurfiwyd y blaned, gan gynnwys gweld os oes ganddo graidd creigiog, faint o ddŵr sy'n bresennol o fewn yr atmosffer dwfn, dosbarthiad màs, a'i wyntoedd cryf, sy'n gallu cyrraedd cyflymder o 618 cilomedr yr awr (384 mph).[4]
Juno yw'r ail long ofod i gylchdroi'r blaned Iau, yn dilyn Galileo, a oedd mewn cylchdro o 1995 hyd at 2003.
Pŵerir llong ofod Juno gan baneli solar, a ddefnyddir fel arfer ganlloerennau sy'n cylchdroi'r Ddaear ac yn gweithio yn rhan fewnol cysawd yr Haul, tra bod generaduron r thermodrydanol radioisotop yn cael eu defnyddio'n aml ar gyfer teithiau i rannau allanol cysawd yr Haul a thu hwnt. Gyda Juno, fodd bynnag, mae'r tair adain arae solar, y mwyaf erioed i'w defnyddio ar chwiliedydd planedol, yn chwarae rôl bwysig yn sefydlogi'r llong ofod yn ogystal â chynhyrchu pŵer.[5]
Mae enw'r llong ofod yn dod o fytholeg Roeg-Rufeinig. "Tynnodd y duwIau orchudd o gymylau o gwmpas ei hun i guddio ei ddrygioni, ond roedd ei wraig, y dduwies Juno, yn gallu sbecian drwy'r cymylau a gweld gwir natur Iau."[6] Cyfeiriwyd at y daith cyn hynny gyda'r 'backronym' JUpiter Ger-polar Orbiter mewn rhestr o acronymau NASA.[7]
Trosolwg
[golygu | golygu cod]Cwblhaodd Juno daith pum mlynedd i Iau, gan gyrraedd ar 4 Gorffennaf 2016.[2] Teithiodd y llong ofod cyfanswm pellter o tua 2.8 biliwn cilomedr (18.7 AU; 1.74 biliwn milltir) i gyrraedd y blaned Iau.[8] Fe fydd y llong ofod yn cylchdroi'r blaned Iau 37 gwaith dros gyfnod o 20 mis.[1][9] Roedd taflwybr Juno yn defnyddio hwb cyflymder drwy gynhorthwy disgyrchiant o'r Ddaear, a gyflawnwyd drwy hedfan heibio'r Ddaear yn Hydref 2013, dwy flynedd ar ôl ei lansio ar 5 Awst 2011.[10] Ar 5 Gorffennaf, 2016, gwnaeth y llong ofod taniad i osod orbit er mwyn arafu digon iddo gan ei ddal gan y blaned Iau. Bydd yn gwneud dau gylchdro 53-dydd cyn perfformio un taniad arall ar Hydref 19 a fydd yn dod a'r chwiliedydd fewn i gylchdro pegynol 14 diwrnod.
Unwaith yn y cylchdro 14 diwrnod, fe fydd yr offerynnau is-goch a microdon yn dechrau mesur y pelydriad thermol sy'n tarddu yn ddwfn o fewn atmosffer Iau. Fe fydd yr arsylwadau hyn yn ategu astudiaethau blaenorol o'i gyfansoddiad trwy asesu cyfanswm a dosbarthiad y dŵr, ac felly ocsigen. Bydd y data hwn yn taflu goleuni pellach ar darddiad Iau. Fe fydd Juno hefyd yn ymchwilio i'r darfudiad sy'n gyrru'r patrymau cylchrediad cyffredinol yn atmosffer Iau. Fe fydd offerynnau eraill ar fwrdd Juno yn casglu data am ei faes disgyrchiant a magned-sffer pegynol. Disgwylir taith Juno i ddod i ben yn Chwefror 2018, ar ôl cwblhau 37 cylchdro o Iau, pan fydd y chwiliedydd yn cael ei arafu yn ei gylchdro er mwyn llosgi i fyny yn atmosffer allanol Iau,[1][9] i osgoi unrhyw bosibilrwydd o halogiad biolegol o leuadau Iau.[11]
Taflwybr hedfan
[golygu | golygu cod]Lansiad
[golygu | golygu cod]Lansiwyd Juno ar ben yr Atlas V yng Ngorsaf Awyrlu Cape Canaveral, Florida. Defnyddiodd yr Atlas V (AV-029) prif beiriant RD-180 a gynlluniwyd ac adeiladwyd yn Rwsia, wedi'i bweru gan gerosin ac ocsigen hylifol. Wedi tanio cafodd ei checkout 3.8 eiliad cyn tanio pum roced hwbio soled (SRBs) wedi eu clymu ymlaen. Yn dilyn diffodd yr SRB, tua 1 munud 33 eiliad i mewn i'r lansiad, disgynnodd dau o'r rocedi hwb i ffwrdd oddi wrth y cerbyd, wedi ei ddilyn 1.5 eiliad yn ddiweddarach gan y tri arall. Pan roedd y lefelau gwres wedi gostwng yn is na therfynau a bennwyd ymlaen llaw, gwahanwyd y ffeiryn prif lwyth oedd yn gwarchod Juno yn ystod y daith drwy ran fwyaf trwchus yr atmosffer, tua 3 munud 24 eiliad i mewn. Torrodd prif beiriant Atlas V allan 4 munud 26 eiliad wedi lansio. 16 eiliad yn ddiweddarach, taniodd ail gymal Centaur a llosgodd am tua 6 munud, gan roi'r lloeren i mewn i gylchdro aros cychwynnol.[12] Teithiodd y cerbyd am tua 30 munud, ac yna ail-daniodd y Centaur am 9 munud, gan osod y llong ofod ar daflwybr dianc o'r Ddaear mewn cylchdro heliosentrig.
Cyn gwahanu, defnyddiodd y cymal Centaur beiriannau adweithiol i droelli Juno hyd at 1.4 RPM. Tua 54 munud ar ôl lansio, gwahanodd y llong ofod oddi wrth y Centaur a dechreuodd ymestyn ei baneli solar. Yn dilyn ymestyniad llawn a chloi'r paneli solar yn ei lle, dechreuodd fatris Juno ail-wefru. Roedd ymestyn y paneli solar wedi arafu troelliad Juno o ddwy ran o dair. Mae'r chwiliedydd yn cael ei droelli i sicrhau sefydlogrwydd yn ystod y daith ac fel bod holl offerynnau ar y chwiliedydd yn gallu arsylwi'r blaned Iau.[11][13]
Cymerodd y daith i'r blaned Iau bum mlynedd, a oedd yn cynnwys dynesiad heibio'r Ddaear ar 10 Hydref 10 2013.[14][15] Ar 12 Awst 2013, roedd Juno wedi cyrraedd hanner ffordd ar ei daith i'r blaned Iau. Wrth iddo gyrraedd system Iau, roedd Juno wedi teithio tua 19 AU.[16]
-
Lansiad
-
Esgyniad
-
Fideo o'r lansiad
Hedfan heibio'r Ddaear
[golygu | golygu cod]Ar ôl teithio am ddwy flynedd mewn cylchdro heliosentrig eliptig, dychwelodd Juno i basio heibio'r Ddaear yn Hydref 2013. Defnyddiodd ddisgyrchiant y Ddaear er mwyn rhoi hwb i'w yrru tuag at Iau mewn symudiad sy'n yn cael ei alw'n slingshot disgyrchiol.[17] Derbyniodd y llong ofod hwb mewn cyflymder o fwy na 8,800 mph (3.9 km/s) a fe'i gosodwyd ar gwrs i Iau.[17][18][18] Defnyddiwyd yr hedfaniad hefyd fel ymarfer ar gyfer tîm gwyddoniaeth Juno i brofi rhai offerynnau ac ymarfer rhai gweithdrefnau cyn cyrraedd Iau.[17][19]
Mewnosod i gylchdro y blaned Iau
[golygu | golygu cod]Cyflymodd ddisgyrchiant Iau y llong ofod wrth iddo agosau i ca. 266,000 km/h (74 km/s). Ar 5 Gorffennaf 2016, rhwng 03:18 ac 03:53 am UTC amser y Ddaear, gwnaeth taniad mewnosod yn para 2,102 eiliad arafu Juno o 542 m/e[20] a newidiodd ei dalwybr o un hyperbolig (hedfan heibio) i gylchdro eliptig, pegynol gyda chyfnod o tua 53.5 diwrnod.[21] Bwriedir gwneud taniad i leihau echreiddiad y cylchdro ar 19 Hydref 2016, ac ar ôl hynny fe fydd cyfnod y cylchdro yn 14 diwrnod.[22]
Cylchdro a'r amgylchedd
[golygu | golygu cod]Mae cylchdro pegynol eliptig iawn Juno yn ei gymryd yn agos at y blaned—o fewn 4,300 cilometer (2,700 mi)—ond yna, ymhell y tu hwnt i gylchdro Callisto hyd yn oed.[23] Mae pob un o'r cylchdroadau casglu gwyddoniaeth yn cymryd 14 diwrnod ac mae disgwyl bydd y llong ofod yn cwblhau 37 cylchdro hyd ddiwedd ei daith.
Mae'r cylchdro hwn yn lleihau'r cysylltiad gyda gwregysau ymbelydredd trwchus Iau sy'n gallu niweidio offer electronig a phaneli solar y llong ofod.[23] Fe fydd "Cell Ymbelydredd Juno", gyda'i waliau titaniwm 1-centimedr o drwch, hefyd yn gymorth wrth ddiogelu ac amddiffyn offer electronig Juno .[24] Er gwaethaf yr ymbelydredd dwys, disgwylir i JunoCam a Mapiwr Awroraidd Is-goch Iau (JIRAM) oroesi am o leiaf wyth cylchdro, tra bydd y radiomedr microdon yn goroesi o leiaf un ar ddeg cylchdro.[24] Mewn cymhariaeth, fe fydd Juno yn derbyn lefelau llawer is o ymbelydredd na wnaeth y chwiliedydd Galileo yn ei gylchdro cyhydeddol.
Dadgylchdroi a chwalu
[golygu | golygu cod]Mae disgwyl i Juno gyrraedd diwedd ei daith yn ystod ei 37ain cylchdro ac fe fydd yn dadgylchdroi o dan reolaeth ac yn chwalu wrth ddisgyn mewn i atmosffer Iau. Yn ystod y daith, fe fydd y llong ofod yn cael ei hamlygu i lefelau uchel o ymbelydredd o magned-sffer Iau, a allai achosi fethiannau offerynnol yn y dyfodol neu beryglu gwrthdrawiad â lleuadau Iau. Fe fydd y dadgylchdroi dan reolaeth yn cael gwared a'r llong ofod yn llwyr a'r risg o halogiad, yn unol â Chanllawiau Amddiffyn Planedol NASA. Bydd y weithred yn cymryd 5.5 diwrnod, pan fydd cyfathrebiadau'r llong ofod yn dod i ben cyn disgyn i mewn i atmosffer Iau. Oherwydd y gwrthdrawiad cyflymder uchel rhwng y llong ofod a'r atmosffer dwys, fe fydd Juno yn llosgi i fyny ac yn chwalu.[25][25]
Tîm
[golygu | golygu cod]Scott Bolton o'r Southwest Research Institute yn San Antonio, Texas yw'r prif ymchwilydd ac mae'n gyfrifol am bob agwedd o'r daith. Mae'r Jet Propulsion Laboratory yng Nghaliffornia yn rheoli'r daith a Lockheed Martin Corporation oedd yn gyfrifol am ddatblygu ac adeiladu'r llong ofod. Mae sawl partner sefydliadol yn cyfrannu at y daith. Mae cyd-ymchwilwyr yn cynnwys Toby Owen o Brifysgol Hawaii, Andrew Ingersoll o Sefydliad Technoleg Califfornia, Frances Bagenal o Brifysgol Colorado yn Boulder, a Candy Hansen o'r Sefydliad Gwyddor Planedau. Gwasnaethodd Jack Connerney o'r Ganolfan Goddard Space Flight fel arweinydd yr offer.[26][26]
Cost
[golygu | golygu cod]I ddechrau, cynigiwyd y byddai taith Juno yn costio tua US$700 miliwn (blwyddyn ariannol 2003) ar gyfer ei lansio ym Mehefin 2009. Oherwydd cyfyngiadau cyllido NASA roedd rhaid gohirio hyn tan Awst 2011, a lansiad ar fwrdd roced Atlas V mewn cyfluniad 551. Yn Mehefin 2011, amcangyfrwyd bydd y daith am gostio $1.1 biliwn yn ei gyfanrwydd.
Amcanion gwyddonol
[golygu | golygu cod]Fe fydd y casgliad o offerynnau gwyddonol ar long ofod Juno yn:[28]
- Mesur y gymhareb o ocsigen i hydrogen, sydd mewn effaith yn mesur faint o ddŵr sydd ar Iau, a fydd yn helpu i wahaniaethu rhwng gwahanol ddamcaniaethau ar sut ffurfiwyd Iau o fewn cysawd yr haul.
- Cael gwell amcangyfrif o fàs craidd Iau, a fydd hefyd yn helpu i wahaniaethu rhwng gwahanol ddamcaniaethau ar sut ffurfiwyd Iau.
- Mapio maes disgyrchiant Iau yn fanwl i asesu dosbarthiad màs y tu fewn i Iau, gan gynnwys nodweddion ei strwythur a deinameg.
- Mapio maes magnetig Iau yn fanwl i asesu tarddiad a strwythur y maes a pa mor ddwfn yn Iau mae'r maes magnetig yn cael ei greu. Fe fydd yr arbrawf hwn hefyd yn helpu gwyddonwyr i ddeall y ffiseg sylfaenol o theori dynamo.
- Mapio'r gwahaniaethau yn yr atmosffer - ei gyfansoddiad, tymheredd, strwythur, didreiddedd a deinameg cymylau i wasgedd llawer mwy na 100 o fariau (10 Acm; 1450 pwys/sgwâr modfedd) ar yr holl ledredau.
- Archwilio a disgrifio strwythur tri-dimensiwn magned-sffer pegynol Iau a'i awrora.[29]
- Mesur y ffrâm-llusgo cylchdroadol, a elwir hefyd yn flaenoriad Lense–Thirring a achosir gan fomentwm onglog Iau,[30][31] ac o bosib yn brawf newydd o effeithiau perthnasedd cyffredinol ar gylchdroad Iau.[32]
Offerynnau gwyddonol
[golygu | golygu cod]Fe fydd amcanion gwyddonol Juno yn cael eu cyflawni gyda naw offeryn ar fwrdd y llong ofod:[33][34][35][36][37]
Llun | Enw offeryn |
Byrfodd | Disgrifiad a phwrpas gwyddonol |
---|---|---|---|
Mae'r radiomedr micron yn cynnwys chwech antena wedi ei osod ar ddau ochr corff y llong ofod. Byddent yn gwneud mesuriadau o Ymbelydredd electromagnetig ar amleddau yn yr amrediad microdon: 600 MHz, 1.2, 2.4, 4.8, 9.6 and 22 GHz, yr unig amleddau microdon sy'n gallu treiddio drwy atmosffer trwchus Iau. Bydd y radiomedr yn mesur faint o ddwr ac amonia sydd yn haenau dwfn yr atmosffer hyd at wasgedd o 200 bar neu 500 i 600 km o ddyfner. Fe ddylai'r cyfuniad o wahanol donfeddi a'r only allyrru wneud hi'n bosib i gael proffil tymheredd ar wahanol lefelau yr atmosffer. Fe fydd y data a gesglir yn dangos pa mor ddwfn yw cylchrediad yr atmosffer.[38][39] (Prif ymchwilydd: Mike Janssen, Jet Propulsion Laboratory) | |||
Mae'r mapiwr sbectromedr JIRAM, sy'n gweithredu yn yr Is-goch (rhwng 2 a 5 μm), yn gwneud arolwg o haenau uwch yr atmosffer i ddyfnder o rhwng 50 a 70 km lle mae'r gwasgedd yn cyrraedd 5 i 7 bar. Bydd JIRAM yn darparu delweddau o'r awrora yn nhonfedd o 3.4 μm mewn ardaloedd gyda toreth o ionau H3+. Drwy fesur y gwres sy'n cael ei belydru gan atmosffer Iau, bydd JIRAM yn gallu penderfynu sut mae cymylau sy'n cynnwys dŵr yn llifo o dan yr wyneb. Gall synhwyro methan, anwedd dŵr, amonia a ffosffin hefyd. Doedd dim rhaid i'r ddyfais yma gyrraedd yr anghenion i wrthsefyll ymbelydredd.[40][41][42] (Prif ymchwilydd: Angioletta Coradini, Italian National Institute for Astrophysics) | |||
Mae gan yr ymchwiliad maes magnetig dri amcan: mapio'r maes magnetig, archwilio deinameg fewnol Iau, a pennu strwythur tri-dimensiwn y magned-sffer pegynol. Mae'r arbrawf magnetomedr yn cynnwys y Magnetomedr 'Flux Gate' (FGM), fydd yn mesur cryfder a chyfeiriad llinellau'r maes magnetig, a'r Cwmpawd Seryddol Uwch (Advanced Stellar Compass neu ASC), fydd yn monitro gogwydd y synhwyryddion magnetomedr. (Prif ymchwilydd: Jack Connerney, NASA's Goddard Space Flight Center) | |||
Pwrpas mesur disgyrchiant drwy donnau radio yw sefydlu map o ddosbarthiad màs tu fewn i Iau. Mae'r dosbarthiad anwastad tu fewn i Iau yn creu amrywiadau bach mewn disgyrchiant drwy'r cylchdro cyfan bydd y chwiliedydd yn ddilyn pan fydd yn hedfan yn uwch i wyneb y blaned. Mae'r amrywiaethau disgyrchiant hyn yn creu amrywiaethau bychan yng nghyflymder y llong ofod. Pwrpas y gwyddoniaeth radio yw i ganfod yr effaith Doppler ar ddarllediadau radio a ddanfonir gan Juno tua'r Ddaear yn y band Ka ac X, sydd yn amrediadau amledd lle gellir cynnal yr astudiaeth heb gymaint o ymyrraeth oddi wrth y gwynt solar neu'r ionosffer.[43][44][45] (Prif ymchwilydd: John AndersonJet Propulsion Laboratory. Prif ymchwilydd (Juno's Ka-band Translator KaT): Luciano Iess, Sapienza University of Rome) | |||
(Jovian Auroral Distributions Experiment) |
Bydd y canfodydd gronynnau egnïol JADE yn mesur y dosbarthiad onglog, egni a fector buanedd yr ionau a electronau ar egni isel (ionau rhwng 13 eV a 20 KeV, electronau o tua 200 eV i 40 KeV) sy'n bresennol yn awrora Iau. Ar JADE, fel JEDI, mae'r dadansoddwyr electron wedi eu gosod ar dri ochr y plat uchaf sy'n caniatáu mesur amledd tri waith yn uwch.[45][46] (Prif ymchwilydd: David McComas, Southwest Research Institute) | ||
(Jovian Energetic Particle Detector Instrument) |
Bydd y canfodydd gronynnau egnïol JEDI yn mesur y dosbarthiad onglog, egni a fector buanedd yr ionau a electronau ar egni uchel(ions rhwng 20 keV a 1 MeV, electronau o 40 i 500 keV) sy'n bresennol yn awrora Iau. Mae gan JEDI dri synhwyrydd yr un fath ar gyfer astudio yr ionau penodol o hydrogen, heliwm, ocsigen a sylffwr.[45][47] (Prif ymchwilydd: Barry Mauk, Applied Physics Laboratory) | ||
(Radio and Plasma Wave Senso) |
Bydd yr offeryn hwn yn edrych am ardaloedd o gerrynt awroraidd sy'n diffinio allyriadau radio Iau a chyflymiad y gronynnau awroraidd drwy fesur sbectra radio a phlasma yn yr ardal awroraidd.(Prif ymchwilydd: William Kurth, University of Iowa) | ||
(Ultraviolet Imaging Spectrograph) |
Bydd UVS yn cofnodi tonfedd, lleoliad ac amser cyrraedd ffotonau uwchfioled a ganfyddwyd yn ystod yr amser pan fydd yr hollt sbectrograff yn gweld Iau wrth i'r llong ofod gylchdroi. Yn defnyddio canfyddwr plat meicro sianel 1024 × 256, fe fydd yn darparu delweddu sbectrol o allyrriadau awroraidd UV yn y magned-sffer pegynol. (Prif ymchwilydd: G. Randall Gladstone, Southwest Research Institute) | ||
Camera/telesgop golau gweledol, wedi ei gynnwys ar y llong ofod er mwyn hybu addysg a hyrwyddio cyhoeddus. Disgwylir iddo weithio am chwe cylchdro o gwmpas Iau yn unig oherwydd maes magnetig ac ymbelydrol niweidiol y blaned.(Prif ymchwilydd: Michael C. Malin, Malin Space Science Systems) |
Cydrannau gweithredol
[golygu | golygu cod]Paneli Solar
[golygu | golygu cod]Juno yw'r daith gyntaf i Iau sy'n defnyddio paneli solar yn hytrach na'r generaduron thermodrydanol radioisotop (GTRH) a ddefnyddiwyd gan Pioneer 10, Pioneer 11, rhaglen Voyager, Ulysses, Cassini–Huygens, New Horizons, a Galileo. Hwn hefyd yw'r daith bellaf yn hanes archwilio'r gofod i ddefnyddio paneli solar .[48] Pan fydd mewn cylchdro o amgylch y blaned Iau, fe fydd Juno yn derbyn 4% o olau'r haul ag y byddai ar y Ddaear, ond mae'r prinder byd-eang o Pu-238,[49][50][51][52] yn ogystal â datblygiadau a wnaed ym maes technoleg celloedd solar dros y degawdau diwethaf, wedi ei wneud yn fwy economaidd yn i ddefnyddio paneli solar o faint ymarferol i ddarparu pŵer ar bellter o 5 AU oddi wrth Haul.
Mae llong ofod Juno yn defnyddio tri phanel solar wedi eu trefnu'n gymesur o gwmpas y llong ofod. Yn fuan ar ôl gadael atmosffer y Ddaear agorodd y paneli yn barod i'w defnyddio. Mae gan ddau o'r paneli pedwar darn cymalog, ac mae gan y trydydd panel tri darn a magnetomedr. Mae pob panel yn mesur 2.7 meter (8.9 tr) wrth 8.9 meter (29 tr) hyd,[49] y mwyaf ar unrhyw chwiliedydd gofod-dwfn NASA.[53]
Cyfanswm màs y tri pjanel yw 340 kg (750 lb).[54] Os oedd y paneli wedi eu gosod i weithio orau ar y Ddaear, fe fyddai'n cynhyrchu rhwng 12 a 14 cilowat o bŵer. Dim ond tua 486 W fydd yn cael ei gynhyrchu ar ôl i Juno gyrraedd Iau, gan leihau i tua 420W wrth i ymbelydredd ddiraddio'r celloedd.[55] Fe fydd y paneli solar yn aros yng ngholau'r haul yn barhaol rhwng lansio a diwedd y daith, heblaw am gyfnodau byr wrth danio'r prif beiriant a pan fydd yng nghysgod Iau. Mae uned ddosbarthu a gyrru pŵer canolog yn monitro'r pŵer sy'n cael ei gynhyrchu gan y paneli solar a'i ddosbarthu i'r offer, gwresogyddion a synwyryddion arbrawf yn ogystal â batris sy'n cael eu gwefru pan fo pŵer ychwanegol ar gael. Bydd dau fatri lithiwm-ion 55-amper-awr sy'n gallu gwrthsefyll amgylchedd ymbelydrol Iau yn darparu pŵer pan fydd Juno yn pasio drwy gysgod y blaned.[56]
Telathrebu
[golygu | golygu cod]Mae Juno yn defnyddio signalau mewn-band ("tonau") am nifer o weithrediadau critigol yn ogystal ag adrodd statws yn ystod y cyfnod teithio,[57] ond ni ddisgwylir y bydd yn cael ei ddefnyddio yn aml. Fe fydd cyfathrebu gyda'r llong ofod drwy gyfrwng antenau 70-metr (230 tr) y Rhwydwaith Gofod Dwfn NASA (DSN) gan ddefnyddio cyswllt uniongyrchol band-X.[56] Mae offer prosesu gorchymyn a data Juno yn cynnwys cyfrifiadur hedfan sy'n gallu darparu ~50 Mbit/s o fewnbwn offerynnau. Mae is-systemau gwyddoniaeth disgyrchiant yn defnyddio y band-X a band-Ka tracio doppler ac awtoleolwr.
O ganlyniad i gyfyngiadau telathrebu, dim ond tua 40 megabeit o ddata camera y bydd Juno yn gallu dychwelyd yn ystod pob cyfnod cylchdro 11 diwrnod. Bydd y cyfartaledd cyfradd data o lai na 337 did/eiliad yn cyfyngu ar y nifer o ddelweddau sy'n cael eu cipio a'u trosglwyddo yn ystod pob cylchdro i rywle rhwng 10 a 100 yn dibynnu ar y lefel cywasgu a ddefnyddiwyd.[58] Mae hyn yn debyg i daith flaenorol Galileo a oedd yn cylchdroi Iau, a gipiodd miloedd o ddelweddau[59] er gwaethaf ei gyfradd data araf o 1000 did/eiliad (ar y lefel cywasgu uchaf) oherwydd problemau antena wnaeth amharu ar y cyswllt cyfathrebu arfaethedig o 135,000 did/eiliad.
Gyriant
[golygu | golygu cod]Mae Juno yn defnyddio prif beiriant dau-danwydd LEROS 1b, a gynhyrchir gan Moog Inc yn Westcott, Swydd Buckingham yn Lloegr.[60] Mae'n defnyddio hydrazine a nitrogen tetroxide ar gyfer gyriant ac yn darparu gwthiad o 645 newton. Mae'r peiriant wedi ei hamgáu mewn tarian amddiffynnol ynghlwm a chorff y llong ofod, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prif daniadau. Ar gyfer rheoli cyfeiriadedd y cerbyd (rheoli agwedd) ac i berfformio symudiadau cywiro taflwybr, mae Juno yn defnyddio system rheoli adwaith un-tanwydd (RCS) sy'n cynnwys deuddeg gwthiwr bach wedi eu gosod ar bedwar modiwl peiriant.[56]
Plac Galileo a ffigyrau Lego
[golygu | golygu cod]Mae Juno yn cario plac ar ei ochr, mewn teyrnged i Galileo Galilei. Darparwyd y plac gan Asiantaeth Ofod yr Eidal ac mae'n mesur 7.1 by 5.1 centimeter (2.8 by 2.0 mod). Gwnaed y plac o alwminiwm ac mae'n pwyso 6 gram (0.21 oz).[61] Mae'r plac yn portreadu Galileo a thestun yn llawysgrifen Galileo ei hun, a ysgrifennwyd yn Ionawr 1610, wrth arsylwi ar yr hyn a fyddai'n cael eu hadnabod yn ddiweddarach fel y lleuadau Galileaidd.[61]
Mae'r llong ofod hefyd yn dal tri ffigwr bach Lego yn cynrychioli Galileo, y duw Rhufeinig Iau, a'i chwaer a'i wraig, y dduwies Juno. Ym mytholeg Rufeinig, tynnodd Iau gorchudd o gymylau o gwmpas ei hun i guddio ei ddrygioni. Roedd Juno yn gallu sbecian drwy'r cymylau a datgelu gwir natur Iau. Mae'r ffigwr Juno yn dal chwyddwydr fel arwydd o chwilio am y gwirionedd, a Iau yn dal bollt mellten. Mae gan drydydd aelod Lego o'r criw, Galileo Galilei, ei delesgop gydag ef ar y daith.[62] Er bod y rhan fwyaf o deganau Lego yn cael eu gwneud o blastig, gwnaeth Lego y ffigyrau hyn yn arbennig allan o alwminiwm er mwyn goroesi'r amodau eithafol wrth deithio drwy'r gofod.[63]
Llinell amser
[golygu | golygu cod]Dyddiad | Digwyddiad | Statws |
---|---|---|
Awst 2011 | Lansio | Cwblhawyd |
Awst 2012 | Cywiriadau taflwybr[64] | Cwblhawyd |
Medi 2012 | ||
Hydref 2013 | Hedfan heibio'r Ddaear ar gyfer hwb cyflymder (o 78,000 miles per hour (126,000 km/h) i 93,000 miles per hour (150,000 km/h))[65] | Cwblhawyd |
4 Gorffennaf 2016 | Cyrraedd y blaned Iau a gosod cylchdro pegynol (Cylchro 1af)[1][9] | Cwblhawyd yn rhannol |
Hydref 2016 | Cyfnod gwyddoniaeth: 37 cylchdro dros 20 mis | Cyfnod cychwynnol |
1 Medi 2017 | Cynharaf y disgwylir JunoCam i fethu | |
Chwefror 2018 | Llong ofod yn cael ei waredu wrth ddad-gylchdroi dan reolaeth i fewn i'r blaned Iau (Cylchdro 39)[1][9] |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Chang, Kenneth (5 Gorffennaf 2016). "NASA's Juno Spacecraft Enters Jupiter's Orbit". New York Times. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Chang, Kenneth (28 Mehefin 2016). "NASA's Juno Spacecraft Will Soon Be in Jupiter's Grip". New York Times. Cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
- ↑ Dunn, Marcia (5 Awst 2011). "NASA probe blasts off for Jupiter after launch-pad snags". MSN. Cyrchwyd 31 Awst 2011.
- ↑ Winds in Jupiter's Little Red Spot almost twice as fast as the strongest hurricane
- ↑ "NASA – Juno's Solar Cells Ready to Light Up Jupiter Mission". www.nasa.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 4 Hydref 2015.
- ↑ "NASA's Juno Spacecraft Launches to Jupiter". NASA. 5 Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ "Mission Acronyms & Definitions" (PDF). NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-09-25. Cyrchwyd 30 Ebrill 2016.
- ↑ Dunn, Marcia (1 Awst 2011). "NASA going green with solar-powered Jupiter probe". USA Today.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 9.3 Greicius, Tony (21 Medi 2015). "Juno – Mission Overview". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-07. Cyrchwyd 2 Hydref 2015.
- ↑ "NASA's Shuttle and Rocket Launch Schedule". NASA. Cyrchwyd 17 Chwefror 2011.
- ↑ 11.0 11.1 Juno Mission Profile & Timeline Archived 25 Tachwedd 2011, ar y Wayback Machine.
- ↑ "Atlas/Juno launch timeline". 28 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
- ↑ Administrator, NASA (27 Mehefin 2016). "Juno's Solar Cells Ready to Light Up Jupiter Mission". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ Juno Spacecraft Overview Juno – NASA's Second New Frontiers Mission to Jupiter.
- ↑ "Atlas/Juno launch timeline". Spaceflight Now. 28 Gorffennaf 2011.
- ↑ "NASA's Juno is Halfway to Jupiter". NASA. 12 Awst 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-17. Cyrchwyd 12 Awst 2013.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 "Earth Flyby | Mission Juno". Mission Juno. Cyrchwyd 2 Hydref 2015.
- ↑ 18.0 18.1 "NASA's Juno Gives Starship-Like View of Earth Flyby". Cyrchwyd 2 Hydref 2015.
- ↑ Greicius, Tony (13 Chwefror 2015). "NASA's Juno Gives Starship-Like View of Earth Flyby". Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 266,000 km/h (74 km/s)
- ↑ "NASA's Juno Spacecraft in Orbit Around Mighty Jupiter". NASA - Jet Propulsion Laboratory. 4 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ Clark, Stephen. "Live coverage: NASA's Juno spacecraft arrives at Jupiter – Spaceflight Now". Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2016.
- ↑ 23.0 23.1 4,300 cilometer (2,700 mi)
- ↑ 24.0 24.1 "Juno Armored Up to Go to Jupiter". NASA. 12 Gorffennaf 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-13. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2016.
- ↑ 25.0 25.1 "Juno Mission & Trajectory Design". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-09. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ 26.0 26.1 "Juno Institutional Partners". NASA. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-15. Cyrchwyd 8 Awst 2009.
- ↑ "Jupiter Awaits Arrival of Juno". Cyrchwyd 28 Mehefin 2016.
- ↑ "Juno – Science: Objectives". juno.wisc.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-19. Cyrchwyd October 3, 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Juno Science Objectives". University of Wisconsin-Madison. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-16. Cyrchwyd 13 Hydref 2008. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Iorio, L. (August 2010). "Juno, the angular momentum of Jupiter and the Lense–Thirring effect". New Astronomy 15 (6): 554–560. arXiv:0812.1485. Bibcode 2010NewA...15..554I. doi:10.1016/j.newast.2010.01.004.
- ↑ Helled, R.; Anderson, J.D.; Schubert, G.; Stevenson, D.J. (Rhagfyr 2011). "Jupiter's moment of inertia: A possible determination by Juno". Icarus 216 (2): 440–448. arXiv:1109.1627. Bibcode 2011Icar..216..440H. doi:10.1016/j.icarus.2011.09.016.
- ↑ Iorio, L. (2013). "A possible new test of general relativity with Juno". Classical and Quantum Gravity 30 (18): 195011. Bibcode 2013CQGra..30s5011I. doi:10.1088/0264-9381/30/19/195011.
- ↑ "Instrument overview". Wisconsin University-Madison. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-16. Cyrchwyd 13 Hydref 2008.
- ↑ "Key and driving requirements for the Juno payload suite of instruments" (PDF). JPL. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-21. Cyrchwyd February 23, 2011.
- ↑ "Juno Spacecraft: Instruments". Southwest Research Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 26, 2012. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Juno launch: press kit August 2011" (PDF). NASA. tt. 16–20. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2011.
- ↑ "More and Juno Ka-band transponder design, performance, qualification and in-flight validation" (PDF). Laboratorio di Radio Scienza del Dipartimento di Ingegneria Meccanica e Aerospaziale, università "Sapienza". 2013.
- ↑ T. Owen; S. Limaye (23 Hydref 2008). University of Wisconsin (gol.). "Instruments : microwave radiometer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-09. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ University of Wisconsin (gol.). "Juno spacecraft MWR". Cyrchwyd 19 Hydref 2015.
- ↑ "About JIRAM". IAPS (Institute for Space Astrophysics and Planetology of the Italian INAF). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-09. Cyrchwyd 27 Mehefin 2016.
- ↑ T. Owen; S. Limaye (23 Hydref 2008). University of Wisconsin (gol.). "Instruments : the Jupiter Infrared Aural Mapper". Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 3, 2016.
- ↑ University of Wisconsin (gol.). "Juno spacecraft JIRAM". Cyrchwyd 19 Hydref 2015.
- ↑ John Anderson; Anthony Mittskus (23 Hydref 2008). University of Wisconsin (gol.). "Instruments : Gravity Science Experiment". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-08. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ University of Wisconsin (gol.). "Juno spacecraft GS". Cyrchwyd 2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ 45.0 45.1 45.2 Dodge, R.; Boyles, M. A.; Rasbach, C. E. (Medi 2007). "Key and driving requirements for the Juno payload suite of instruments" (PDF). NASA. GS, p. 8; JADE and JEDI, p. 9. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-07-21. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2010.
- ↑ University of Wisconsin (gol.). "Juno spacecraft JADE". Cyrchwyd 2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Southwest Research Institute)
- ↑ "NASA's Juno Mission to Jupiter to Be Farthest Solar-Powered Trip". Cyrchwyd 2 Hydref 2015.
- ↑ 49.0 49.1 David Dickinson (March 21, 2013). "US to restart plutonium production for deep space exploration". Universe Today. Cyrchwyd 15 Chwefror 2015.
- ↑ Greenfieldboyce, Nell. "Plutonium Shortage Could Stall Space Exploration". NPR. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ Greenfieldboyce, Nell. "The Plutonium Problem: Who Pays For Space Fuel?". NPR. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ Wall, Mike. "Plutonium Production Mai Avert Spacecraft Fuel Shortage". Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ NASA's Juno Spacecraft Launches to Jupiter Archifwyd 2020-04-26 yn y Peiriant Wayback "... and that its massive solar arrays, the biggest on any NASA deep-space probe, have deployed and are generating power."
- ↑ "Juno's Solar Cells Ready to Light Up Jupiter Mission". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-25. Cyrchwyd 19 Mehefin 2014.
- ↑ 2.7 meter (8.9 tr)
- ↑ 56.0 56.1 56.2 "Juno Spacecraft Information – Power Distribution". Spaceflight 101. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-25. Cyrchwyd 6 Awst 2011.
- ↑ 70-metr (230 tr)
- ↑ "Junocam will get us great global shots down onto Jupiter's poles".
- ↑ "Images". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-15. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ Amos, Jonathan (4 Medi 2012). "Juno Jupiter probe gets British boost". BBC News. Cyrchwyd 4 Medi 2012.
- ↑ 61.0 61.1 "Juno Jupiter Mission to Carry Plaque Dedicated to Galileo". NASA. 3 Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-08. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ "Juno Spacecraft to Carry Three Lego minifigures to Jupiter Orbit". NASA. 3 Awst 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-08. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ Peter Pachal (5 Awst 2011). "Jupiter Probe Successfully Launches With Lego On Board". PC Magazine.
- ↑ "Juno's Two Deep Space Maneuvers are 'Back-To-Back Home Runs'". NASA News. September 17, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 12 Hydref 2015.
- ↑ "Juno Earth Flyby - Oct. 9, 2013". NASA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-26. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Taith Juno ar Twitter
- Taith Juno yn Southwest Research Institute
- Taith Juno Archifwyd 2007-06-11 yn y Peiriant Wayback ar wefan Archwilio Cysawd yr Haul NASA
- Rhestr chwarae Why With Nye ar YouTube, Bill Nye yn trafod y wyddoniaeth tu ôl i daith Juno i Iau