Neidio i'r cynnwys

Llain Gaza

Oddi ar Wicipedia
Llain Gaza
Mathtiriogaeth dan feddiant, allglofan, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina, rhanbarth Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDinas Gaza Edit this on Wikidata
LL-Q13955 (ara)-Zinou2go-غزة.wav, Gaza pronunciation.mp3 Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Gaza Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,098,389 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwladwriaeth Palesteina, Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
SirGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Israeli-occupied territories, Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, Administration of Gaza by Egypt Edit this on Wikidata
Arwynebedd365 km² Edit this on Wikidata
GerllawBesor River, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Aifft, Israel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.45°N 34.4°E Edit this on Wikidata
GZZ Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMahmoud Abbas Edit this on Wikidata
Map
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Llain Gaza
Canol Dinas Gaza
Rhan o'r "Ffens Ddiogelwch" Israelaidd sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Israel a Llain Gaza

Llain o dir ar arfordir y Môr Canoldir yw Llain Gaza (Arabeg: قطاع غزة‎ Qiṭāʿ Ġazzah; Hebraeg:רצועת עזה‎ Retzu'at 'Azza), rhwng yr Aifft i'r de-orllewin ac Israel i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r Tiriogaethau Palesteinaidd sy'n destun Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r Aifft.

Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef Gaza. Rheolir y llain gan lywodraeth Hamas ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn Ymgyrch Colofn o Niwl pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.

Dinasoedd

[golygu | golygu cod]

Dan warchae

[golygu | golygu cod]

Mae gwarchae Israel o'r llain yn golygu mai ychydig iawn o fynd a dod sy'n digwydd o'r ardal. Mae Israel yn caniatau rhywfaint o gymorth meddygol ond yn ôl y Groes Goch mae effaith y warchae'n niweidiol iawn i economi Palesteina ac yn creu argyfwng oherwydd diffyg nwyddau meddygol hanfodol megis ffilm Pelydr-X.[1] Cred y Groes Goch hefyd fod y gwarchae hwn gan Israel yn anghyfreithiol ac yn groes i Gyfraith Ryngwladol, Ddynol (Saesneg: international humanitarian law)[2]

Baner Llain Gaza, sy'n dangos teyrngarwch ei dinasyddion i'r Aifft.

Gwersylloedd ffoaduriaid

[golygu | golygu cod]

Ceir 8 gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yn Llain Gaza sy'n gartref i tua 478,854 o ffoaduriaid ers 1948-49:

Iechyd

[golygu | golygu cod]

Fel yn achos nifer o wledydd llai cyfoethog, digon elfennol yw'r gwasanaethau iechyd yn Llain Gaza. Mae'r diriogaeth yn ddibynnol i raddau helaeth ar gyflenwadau meddygol gan asiantaethau dyngarol ond dim ond yn ysbeidiol mae hyn wedi cyrraedd ers i Israel osod embargo a gwarchae economaidd ar y Llain. Ysbyty Al-Shifa yn ninas Gaza yw ysbyty mwyaf y diriogaeth.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Red Cross: Israel trapping 1.5m Gazans in despair". Haaretz. 2009-06-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-30. Cyrchwyd 2012-12-05.
  2. "ICRC says Israel's Gaza blockade breaks law". BBC News. 14 Mehefin 2010.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]