Mate
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | te |
---|---|
Math | Te llysieuol |
Crëwr | Guaraní |
Deunydd | maté leaf, Yerba mate |
Gwlad | Brasil, Paragwâi, Wrwgwái, yr Ariannin |
Cynnyrch | Yerba mate |
Gwladwriaeth | Brasil, Wrwgwái |
Rhanbarth | South Region |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Trwyth-ddiod traddodiadol caffein-gyfoethog o Dde America yw Mate.
Mae mate yn ddiod poblogaidd iawn yn Yr Ariannin (lle mae'n cael ei ddiffinio gan y gyfraith fel y "trwyth cenedlaethol"), ac mae yfed mate hefyd yn boblogaidd yn Wrwgwái, Paragwâi, Bolifia a De Brasil a De Tsile.
Caiff mate ei baratoi drwy lenwi plisgyn gowrd gyda dail sych y gelynnen arbennig Yerba mate (Ilex paraguariensis), cyn ychwanegu dŵr poeth at y dail. Fe gaiff y trwyth ei yfed drwy welltyn metel a eiliwr yn ‘bombilla’ mewn Sbaeneg. Mae sawl defod arbennig ynghylch paratoi ac yfed mate ac mae yfed mate yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd cymdeithasol mewn sawl rhan o Dde America.