Neidio i'r cynnwys

Mihangel

Oddi ar Wicipedia
Mihangel
Darlun o Fihangel yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dydd gŵyl8 Tachwedd, 29 Medi, 19 Medi Edit this on Wikidata
Mihangel yn gorchfygu Satan: paentiad olew ar gynfas gan Raffael (Amgueddfa'r Louvre, Paris)

Archangel yn nhraddodiad Iddewig, Cristnogol ac Islamaidd yw Mihangel. Gyda Gabriel, Raphael, Uriel ac eraill, mae'n sefyll yn dragwyddol o flaen Duw ac yn barod i'w hanfon fel ei negesyddion i'r dynolryw. Gyda Gabriel mae'n gwarchod drysau eglwysi rhag y Diafol.

Mae'r Eglwys Gatholig a rhai eglwysi eraill yn ystyried fod Mihangel yn sant hefyd. Daeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol. Cysegrwyd nifer fawr o eglwysi yng Nghymru i Fihangel; gweler Llanfihangel am restr o bentrefi, cymunedau a phlwyfi sy'n dwyn ei enw. Ef yw nawddsant dinas Brwsel a nawddsant nifer o alwedigaethau, yn cynnwys milwyr a phobwyr.

Yn Islam, Mikail (Mihangel) yw'r archangel sy'n cael ei anfon gan Allah i ddatgelu'r Corân i'r Proffwyd Muhammad.

Yn draddodiadol, diwrnod cysegredig Sant Mihangel oedd 29 Medi (calendr Iŵl, yn ddiweddarach 10 Hydref yng nghalendr Gregori)

Cysylltiadau eraill

[golygu | golygu cod]

Cysylltir Sant Mihangel gyda phob math o ffenomenau cymdeithasol, ffenolegol a naturiol.

  • Sylw yn cofnodi'r disgwyliad bod Blodau Mihangel yn blodeuo yng nghyfnod Gŵyl Mihangel:
1 Hydref 2006: Taith CELl I Niwbwrch ddoe, y blodau mihangel yn Nhraeth Melynog i gyd yn eu hadau er gwaetha'r ffaith mai echdoe [29 Medi] oedd Gwyl Mihangel (Global Warming meddai rhywun yn y gynulleidfa)[1]
  • Ymddengys i ddyddiad dathlu Gŵyl Mihangel amrywio ychydig. Dyma gofnod gan y gwleidydd mawr Lloyd George, Llanystumdwy ar 22 Hydref 1885:
rainy & slushy [?!] cold – up 7 – to Criccieth Gwyl Mihangel Fair[2]
  • Yn nyddiadur Edward Evans, Parsele, Sir Benfro ar gyfer 9 Hydref 1851 [3]
Thomas a finnau yn Glandro [gweithio cyfrifon?] a pharatoi pethau erbyn yfory, sef Ffair Mihangel yn Fathry.
  • Eto, 10 Hydref 1851: (Gwener)
Y Lleuad yn llawn am 20m wedi 6 Boreu Hwyliais heddyw tua Fathry i Ffair Mihangel. Cafwyd spree fel arferol. Yr oedd digon o Grytsach yn Feddw, ond gwelais mwy lawer gwaith – daethym adref gyda’r tywyll nos yn sobr ac nid yn Feddw fel llawer.
  • Dyma hanesyn gan y bardd Gwallter Mechain yn rhinwedd ei swydd pob dydd fel Walter Davies, swyddog amaethyddol (yn awgrymu efallai agwedd difriol y cyfnod tuag at y sant):
The effect of the wet and cold summer of 1799, still too manifest. In common years, the markets rise, more or less, in summer, and continue nearly the same until the wheat seedness [sic] is over, and cattle are housed; when farmers are under the necessity of thrashing to get straw for their stock, and then markets are crowded with grain ; and the influx is increased by the activiiy of the smaller farmers, called, by way of ridicule, Boneddigion Mihangel (Michaelmas gentry), in thrashing and selling their grain ; and too frequently to be bought in again, the following summer, at an advanced price. But this year, instead of the markets falling at the usual time, about Christmas, they continued still to advance. In January wheat sold for from 12s. to 14s. per bushel; by June it advanced to from 18s. to 22s. ; and every species of grain, meal, and malt, in proportion.[4]
  • Gelwir tywydd braf hydrefol yn "Ha' bach Mihangel" (Yn ôl Eurwyn Griffiths, yng nghyffiniau Malltraeth, Môn, arferir yr ymadrodd “Ha’ bach Mari Pant” am heulwen yr hydref. Un o fatwyr Niwbwrch oedd Mari Pant a dyma pryd yr arferai gywain y moresg pob blwyddyn Mai tywydd hydref fel mis Mai). Nid nepell i ffwrdd cawn gofnod gan yr ifanc Owen T. Griffiths, Llangristiolus ar 26 Medi 1939 i'r perwyl:
....Braf iawn heddiw eto. Haf Bach Mihangel 27 Braf iawn. Pawb yn son am y Rhyfel...[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tywyddiadur Llên Natur
  2. Dyddiadur Lloyd George (Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy)
  3. Amgueddfa Werin Cymru
  4. Walter Davies (1810): Arolwg Amaethyddol
  5. Dyddiadur Owen T. Griffiths, Rhos y Ffordd, Llangristiolus Nodiadau: Wythnos dechrau 19 Medi 1938
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.