Neturei Karta
Gwedd
Enwad o Iddewon tra-uniongred (haredim) sy'n gwrthod Seioniaeth yw Neturei Karta (Aramaeg נטורי קרתא ; "Ceidwaid y Ddinas"). Maent yn gwrthod derbyn na chydnabod bodolaeth Gwladwriaeth Israel. Fe'i sefydlwyd yn Jeriwsalem, eu prif ganolfan. Mae'r Neturei Karta yn Israel ei hun yn gwrthod pleidleisio yn etholiadau'r wlad.
Dysgeidiaeth
[golygu | golygu cod]Gellir crynhoi dysgeidiaeth ymarferol yr enwad fel a ganlyn[1]:
- Mae Neturei Karta yn gwrthwynebu bodolaeth yr hyn a alwent yn "Wladwriaeth honedig Israel".
- Gwrthwynebant Wladwriaeth Israel nid am ei bod yn wladwriaeth seciwlar ond am ei bod yn credu fod hyd yn oed y cysyniad o wladwriaeth Iddewig yn groes i Ddeddf Duw.
- Credant na ddylai'r Iddewon ormesu, lladd, brifo nac achosi unrhyw niwed arall o gwbl i bobl eraill ac felly na ddylent gael unrhyw beth o gwbl i wneud â'r "prosiect Seionaidd" gan gynnwys ei weithgareddau gwleidyddol a'i rhyfeloedd.
- Credant fod y gwir Iddewon wedi aros yn driw i'r Ffydd Iddewig ac yn gwrthod "halogi" eu hunain drwy ymwneud â Seioniaeth.
- Mae'r gwir Iddewon yn erbyn dadfeddianu tir a chartrefi'r Palesteiniaid a'r Arabiaid (fel a ddigwyddodd i sefydlu Gwladwriaeth Israel ac ers hynny hefyd). Yn ôl y Torah, llyfr sanctaidd yr Iddewon, dylai'r tir hwnnw gael ei roi yn ôl iddynt.
- Credant ei bod yn ddyletswydd crefyddol a moesol arnynt i adael i'r byd wybod fod y Seioniaid wedi dwyn enw Israel mewn modd anghyfreithlon ac nad oes ganddynt unrhyw hawl o gwbl i siarad yn enw'r Iddewon.
- Credant fod yr Israel hynafol wedi'i dinistrio drwy ewyllys Duw ac mai dim ond y Meseia sy'n gallu ei hadfer. Felly, mae pob ymgais dynol i greu gwladwriaeth Iddewig cyn hynny yn drosedd yn erbyn ewyllys Duw.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu'r rabbi Moshe Hirsch, Iddew o Efrog Newydd ac un o wyrion sefydlydd y Neturei Karta, yn Weinidog Materion Iddewig yn llywodraeth Yasser Arafat.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Rhaglen wleidyddol y 'Neturei Karta' Archifwyd 2009-02-01 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y 'Neturei Karta'
- (Ffrangeg) Gwefan am yr enwad