Ray Gravell
Ray Gravell | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1951 Cydweli |
Bu farw | 31 Hydref 2007 Calp |
Man preswyl | Cydweli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, actor, newyddiadurwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Canolwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd Ray William Robert Gravell (12 Medi 1951 – 31 Hydref 2007), yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd radio, yn sylwebydd rygbi, ac yn actor. Roedd yn genedlaetholwr pybyr, yn edmygydd mawr o Dafydd Iwan, Carwyn James, ac o Owain Glyndŵr. Cysylltir y dywediad "West is Best" â Ray.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd ef ym Mynydd-y-garreg ar bwys Cydweli, Sir Gaerfyrddin, lle cafodd ei addysg gynradd cyn mynd i Ysgol Fodern Porth Tywyn ac wedyn i Ysgol Ramadeg y Bechgyn. Pan oedd yn 14 mlwydd oed, bu farw ei dad Jack drwy hunanladdiad.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Rygbi
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli ym 1970, ac roedd yn gapten y tîm o 1980 i 1982. Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol ym 1982 a chwaraeodd ei gêm olaf i Lanelli ym 1985. Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis ym 1975. Yn ystod ei yrfa, enillodd 23 cap dros Gymru. Roedd yn aelod o dîm Cymru a enillodd y gamp lawn ddwy waith, fel arfer fel canolwr ond weithiau fel asgellwr. Bu ar daith Y Llewod i Dde Affrica ym 1980 gan chwarae yn y pedair gem brawf. Bu'n Llywydd Clwb Rygbi Llanelli ac wedyn Clwb y Scarlets hyd ei farw.
Actio
[golygu | golygu cod]Cafodd ran amlwg yn y ffilm Bonner a recordiwyd gan y BBC ar ran S4C, a hefyd yn y ffilm Owain Glyndŵr. Ymddangosodd mewn ffilm deledu y BBC o'r enw Filipina Dreamgirls, a chwaraeodd ran yn ffilm Louis Malle, Damage, yn Rebecca's Daughters ac fel Referee No. 1 yn y ffilm Up and Under.
Darlledu
[golygu | golygu cod]Cyflwynodd raglenni sgwrsio rheolaidd ar BBC Cymru ac ar Radio Cymru. Tan ei farw, roedd yn cyflwyno ei raglen foreol ei hun o'r enw Grav ar Radio Cymru, a ddarlledwyd i orllewin Cymru. Roedd hefyd yn cyd-gyflwyno I'll Show You Mine gyda Frank Hennessy ar Radio Wales. Roedd hefyd tan ei farw yn aelod o dîm sylwebu rygbi Cymraeg y BBC ar gemau y Cynghrair Celtaidd, Cwpan Powergen, a'r Cwpan Heineken.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn byw ym Mynydd-y-garreg, lle a'r oedd yn agos iawn at ei galon, gyda'i wraig Mari a'u dwy ferch, Gwennan a Manon. Roedd yn byw yn y stryd a enwyd ar ei ôl, sef Heol Ray Gravell.
Clefyd y Siwgr
[golygu | golygu cod]Roedd Gravell yn dioddef o glefyd y siwgr ers 2000. Cyhoeddwyd ar 18 Ebrill 2007 y byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i Ysbyty Glangwili ar ôl iddo gael llawdriniaeth fis blaenorol i dorri i ffwrdd dau fys traed,[2] a roedd rhaid iddo golli ei goes dde o dan y pen-lin.[3] Cafodd fynd adref ar y cyntaf o Fai ac wedi ail-ddechrau ar ei waith darlledu.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn sydyn yn 56 blwydd oed ar 31 Hydref 2007, pan oedd ar ei wyliau yn Sbaen. Daeth rhai miloedd o bobl i'w angladd gyhoeddus ym Mharc y Strade, Llanelli, ar 15 Tachwedd 2007. Roedd baner Y Ddraig Goch ar ei arch, a gludwyd gan chwech o chwaraewyr rygbi Llanelli. Cafwyd teyrngedau gan y Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, a'r hanesydd Hywel Teifi Edwards. Canwyd "Calon Lân" "Cwm Rhondda" a chaneuon Cymraeg eraill gan y dorf. Yn dilyn yr angladd gyhoeddus cafwyd angladd breifat i'r teulu yn unig yn Llanelli.[4]
Cynhaliwyd munud o dawelwch / gymeradwyaeth yng ngemau rygbi ar draws y DU, gan gynnwys gem Y Sgarlets yn erbyn Leeds, Y Gleision yn erbyn Caerlŷr,[5], a gemau'r Gweilch a'r Dreigiau.[angen ffynhonnell]
Ymgyrch 'Cwpan Ray Gravell'
[golygu | golygu cod]Galwodd nifer o Gymry ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd i fuddugolwyr gemau rhyngwladol rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am newid yr enw i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng iddo. Dadleuant fod enwi'r gwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rugby hero's joy at being a dad made sense of his world , WalesOnline, 3 Ebrill 2004. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rugby legend readmitted after op (en) , BBC News – South West Wales, 18 Ebrill 2007.
- ↑ Rugby hero's right leg amputated (en) , BBC News – South West Wales, 19 Ebrill 2007. Cyrchwyd ar 18 Ebrill 2007.
- ↑ (Saesneg) Newyddion y BBC (15 Tachwedd 2007). BBC NEWS. BBC MMX. Adalwyd ar 4 Mai 2010.
- ↑ Wales' sporting weekend in photos BBC Sport. 02-11-2007. Adalwyd ar 04-05-2010