Resin
Polymer naturiol neu synthetig anhydawdd sy'n meddalu pan gaiff ei wresogi yw resin[1] neu ystor.[2] Secretir resinau naturiol gan goed a phlanhigion eraill ac fe'u defnyddir wrth wneud meddyginiaethau a farneisiau. Defnyddir resinau synthetig fel cynhwysion plastigau. [3][4]
Dosberthir resinau naturiol yn ôl eu caledwch â'u cyfansoddiad cemegol yn dri phrif gategori: resinau caled, oleoresinau, a resinau gwm.
Resinau caled
[golygu | golygu cod]Ceir resinau caled naill ai o ffosilod neu drwy ddistyllu oleoresinau. Mae resin o'r fath yn galed, yn frau, heb aroglau na blas iddo, ac yn edrych yn debyg i wydr toredig os caiff ei hollti. Ymhlith y resinau caled mae ambr, copal, mastig, rosin, a sandrag. Rosin, a gynhyrchir drwy ddistyllu'r oleoresin tyrpant, yw'r pwysicaf yn nhermau economaidd. Defnyddir rosin wrth gynhyrchu sebon, farneis, a phaent, ac i gaenu bwâu offerynnau tannau.
Oleoresinau
[golygu | golygu cod]Lled-solidau di-ffurf a gludiog yw'r oleoresinau, ac maent yn cynnwys olewon naws. Ymhlith yr oleoresinau mae tyrpent, balm, copaïba, a dreigwaed.
Resinau gwm
[golygu | golygu cod]Resinau sydd yn cynnwys gymiau, sef suddau gludiog ac yn aml persawrus, yw'r resinau gwm. Maent yn cynnwys thus, myrr, bensoin, ac asiffeta.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ resin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [resin].
- ↑ Crystal, David (gol.), The Penguin Encyclopedia (Llundain: Penguin, 2004), t. 1294.
- ↑ (Saesneg) resin (chemical compound). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2014.