Ricarda Huch
Ricarda Huch | |
---|---|
Ffugenw | Richard Hugo, Ռիչարդ Հյուգո |
Ganwyd | Ricarda Octavia Huch 18 Gorffennaf 1864 Braunschweig |
Bu farw | 17 Tachwedd 1947 Schönberg |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, llyfrgellydd, hanesydd, nofelydd, dramodydd, athronydd, cerddor, libretydd |
Adnabyddus am | The Deruga Case, Michael Bakunin und die Anarchie |
Tad | Richard Huch |
Mam | Emilie Huch |
Priod | Ermanno Ceconi, Richard Huch |
Plant | Marietta Ceconi |
Gwobr/au | Gwobr Goethe, honorary doctor of the University of Jena, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Gwobr Wilhelm Raabe |
Awdures a llyfrgellydd Almaenig oedd Ricarda Huch (18 Gorffennaf 1864 - 17 Tachwedd 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, hanesydd, nofelydd a dramodydd.
Fe'i ganed yn Braunschweig, Niedersachsen, yr Alamen a bu farw yn Schönberg, Hessen; fe'i claddwyd ym Mhrif Fynwent Frankfurt. Bu'n briod i Ermanno Ceconi ac yna i Richard Huch ac roedd Marietta Ceconi yn blentyn iddi.[1][2][3][4][5][6]
Fe'i hyfforddwyd fel hanesydd, ac roedd yn awdur ar nifer o weithiau hanes Ewrop, ysgrifennodd nofelau, cerddi a drama hefyd. Ceir "Asteroid 879 Ricarda" a enwyd ar ei hôl. Cafodd ei henwebu am y Gwobr Lenyddol NobelWobr Nobel mewn Llenyddiaeth saith gwaith.[7]
Magwraeth a choleg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Huch yn Braunschweig i Marie Louise a Georg Heinrich Huch ym 1864. Roedd yr Huchs yn deulu o fasnachwyr adnabyddus. Roedd ei brawd Rudolf a'i chefndryd Friedrich a Felix yn awduron. Tra'n byw gyda'i theulu ym Braunschweig, gohebodd â Ferdinand Tönnies.[8]
Gan nad oedd prifysgolion yr Almaen yn caniatáu i fenywod raddio yr adeg honno, gadawodd Huch Braunschweig ym 1887 a symudodd i Zurich i sefyll arholiadau mynediad Prifysgol Zurich. Fe ymaelododd mewn rhaglen PhD (hanes) a derbyniodd ei doethuriaeth ym 1892 am draethawd ar "Niwtraliaeth y Cydffederasiwn yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen" (Die Neutralität der Eidgenossenschaft während des spanischen Erbfolgekrieges). Tra ym Mhrifysgol Zurich sefydlodd gyfeillgarwch parhaol gyda Marie Baum, Hedwig Bleuler-Waser a Marianne Plehn, a oedd fel hi wedi dod i Zurich i astudio.[9]
Ar ôl derbyn ei doethuriaeth, cafodd waith yn llyfrgell gyhoeddus Zurich. Yn 1896 bu'n dysgu mewn ysgol i ferched yn Bremen.
Cyhoeddi
[golygu | golygu cod]Yn yr 1890au cyhoeddodd Huch ei cherddi a'i straeon cyntaf. Yn 1892, cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Erinnerungen von Ludolf Ursleu dem Jüngeren. Yn 1897 symudodd Huch i Fienna i ymchwilio i Ramantiaeth. Yn Fienna, cyfarfu â'r deintydd Eidalaidd Ermanno Ceconi, a briododd ym 1898. Ym 1899, rhoddodd enedigaeth i'w merch Marietta.[9]
Ym 1899 cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'i hastudiaeth gyfrol ar Romantiaeth Almaeneg, Blütezeit der Romantik. Lansiodd y llyfr Huch fel cyfrannwr at y drafodaeth ddiwylliannol gyfoes yn yr Almaen a sefydlodd ei henw da fel hanesydd.[9]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd. [10]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goethe (1931), honorary doctor of the University of Jena, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Gwobr Wilhelm Raabe (1944)[11] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index8.html. https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_164. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Academi Celfyddydau, Berlin. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Academi Celfyddydau, Berlin. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Ricarda Huch". "Ricarda Huch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014 А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
- ↑ "Nomination Database". www.nobelprize.org. Cyrchwyd 2017-04-19.
- ↑ James Martin Skidmore (2005). The Trauma of Defeat: Ricarda Huch's Historiography During the Weimar Republic. Peter Lang. tt. 21. ISBN 9783039107605.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 James Martin Skidmore (2005). The Trauma of Defeat: Ricarda Huch's Historiography During the Weimar Republic. Peter Lang. tt. 22. ISBN 9783039107605.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-preis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.
- ↑ https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-preis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.