Neidio i'r cynnwys

Salm

Oddi ar Wicipedia

Cân o foliant neu emyn o fawl i Dduw yw salm (benthyciad o'r Lladin ganoloesol psalmus). Yn benodol mae salm yn golygu un o'r moliannau mydryddol o'r enw yn Llyfr y Salmau yn yr Hen Destament neu gerdd ar ffurf debyg i'r rhain. Ond defnyddir yr enw weithiau i ddisgrifio cerddi mawl mewn traddodiadau crefyddol eraill yn ogystal. Mewn llenyddiaeth ddiweddar gall salm fod yn gerdd o fawl i wrthrychau'r ddaear hefyd. Yn ogystal gall fod yn gerdd gellweirus neu ddychanol, e.e. Salm i Famon gan John Morris-Jones.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.