Stadiwm Eiconig Lusail
Math | stadiwm, stadiwm pêl-droed |
---|---|
Agoriad swyddogol | 22 Tachwedd 2022 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Lusail |
Gwlad | Qatar |
Cyfesurynnau | 25.421°N 51.49°E |
Perchnogaeth | Qatar Football Association |
Stadiwm pêl-droed yn Lusail, Qatar, yw Stadiwm Eiconig Lusail (Arabeg: ملعب لوسيل الدولي). Bydd y stadiwm yn cynnal gêm olaf Cwpan y Byd FIFA 2022.[1]
Stadiwm Lusail, sy'n eiddo i Gymdeithas Bêl-droed Qatar,[2] yw'r stadiwm mwyaf yn Qatar ac un o wyth stadiwm sy'n cael eu defnyddio ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA Qatar.[3]
Mae'r stadiwm wedi ei leoli tua 23 km i'r gogledd o Doha.[2] Cafodd Stadiwm Lusail ei urddo ar 9 Medi 2022 gyda gêm Cwpan Lusail Super.[4]
Dechreuodd y broses ar gyfer trawsnewid y stadiwm yn 2014.[5] Adeiladwyd y stadiwm fel menter ar y cyd gan HBK Contracting (HBK) a China Railway Construction Corporation (CRCC).[6][7]
Cynlluniwyd y stadiwm gan Foster + Partners a Populous,[8] ac fel y stadia eraill sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Cwpan y Byd 2022, bydd Stadiwm Lusail yn cael ei oeri gan ddefnyddio pŵer solar a bydd ganddo ôl troed di-garbon.[9]
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 11 Ebrill 2017[10] ac roedd wedyn i gynnal tair gêm gyfeillgar tan Gwpan y Byd 2022.[11] ond gohiriwyd y gwaith o gwblhau’r stadiwm.[12]
Mewn adroddiad ym mis Medi 2021, beirniadodd Amnest Qatar am fethu ag ymchwilio i farwolaethau gweithwyr mudol.[13]
Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd Amnest ganlyniadau arolwg barn o dros 17,000 o gefnogwyr pêl-droed o 15 gwlad a ddangosodd fod 73% yn cefnogi bod FIFA yn digolledu gweithwyr mudol yn Qatar am droseddau hawliau dynol.[14] Cyhoeddodd FIFA ddatganiad ar ôl arolwg barn Amnest a oedd yn cyfeirio at y gwelliant a wnaed i weithwyr mudol.[15]
Cwpan y Byd FIFA 2022
[golygu | golygu cod]Bydd Stadiwm Eiconig Lusail yn cynnal 10 gêm yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022, gan gynnwys y rownd derfynol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Lusail Stadium". stadiumguide.com. Cyrchwyd 12 Ebrill 2022.
- ↑ 2.0 2.1 "Lusail Iconic Stadium World Cup 2022: Qatar World Cup Stadium". fifaworldcupnews.com. 23 Medi 2021. Cyrchwyd 17 February 2022.
- ↑ "Chinese company and HBK JV to build Lusail stadium". constructionweekonline.com. 29 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Photos: Lusail Super Cup tests stadium hosting World Cup final". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Medi 2022.
- ↑ "Flagship Lusail stadium next on Qatar's list". constructionweekonline.com. 27 Chwefror 2015. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Chinese company and HBK JV to build Lusail stadium". constructionweekonline.com. 29 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Chinese firm in JV to build Lusail Stadium in Qata". meconstructionnews.com. 1 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Lusail Stadium by Foster + Partners and Populous". archdaily.com. Cyrchwyd 12 Ebrill 2022.
- ↑ "Qatar's Lusail Iconic Stadium for Solar World Cup Stadium". architecture-view.com. 27 Hydref 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2016. Cyrchwyd 24 Chwefror 2022.
- ↑ "Work starts on Qatar World Cup final stadium at Lusail". thepeninsulaqatar.com. 12 April 2017. Cyrchwyd 24 February 2022.
- ↑ "Qatar: Lusail Stadium will be ready by 2020". thehindu.com. 15 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ "Foster + Partners designs golden stadium for Qatar World Cup final". dezeen.com. 19 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Qatar: "In the prime of their lives": Qatar's failure to investigate, remedy and prevent migrant workers' deaths". Amnesty International (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Medi 2022.
- ↑ "Qatar: Global survey shows overwhelming demand for FIFA to compensate World Cup migrant workers". Amnesty International (yn Saesneg). 14 Medi 2022. Cyrchwyd 21 Medi 2022.
- ↑ "Qatar World Cup: Calls for FIFA to contribute to compensation scheme for workers in host country receive strong support". Sky Sports. 15 Medi 2022.