Tŷ Anne Frank
Gwedd
Math | amgueddfa, cofeb ryfel, sefydliad diwylliannol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Anne Frank |
Agoriad swyddogol | 3 Mai 1960, 5 Mai 1960 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | main house Prinsengracht 263, annex Prinsengracht 263, Wing Anne Frank House |
Sir | Amsterdam |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 52.375147°N 4.88404°E |
Cod post | 1016GV |
Sefydlwydwyd gan | Otto Heinrich Frank |
Mae Tŷ Anne Frank ar y Prinsengracht yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn amgueddfa o fywyd Anne Frank, y ferch ifanc, Iddewig a gadwodd ddyddiadur yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cuddiodd Frank a'i theulu o erledigaeth y Natsiaid trwy guddio mewn ystafelloedd cudd yng nghefn yr adeilad. Yn ogystal â chadw'r man cuddio am resymau hanesyddol, mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys arddangosfa o fywyd Anne Frank a'r cyfnod roedd hi'n byw ynddo. Mae'r amgueddfa yn ganolfan sy'n arddangos pob math o erledigaeth a rhagfarn.
Agorodd yr amgueddfa ar y 3ydd o Fai, 1960 gyda chefnogaeth ariannol y cyhoedd, tair blynedd ar ôl i gymdeithas gael ei sefydlu er mwyn amddiffyn yr adeilad rhag datblygwyr ac adeiladwyr a oedd eisiau dymchwel yr adeilad.