Tommy Sheppard
Tommy Sheppard | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2015 | |
Rhagflaenydd | Sheila Gilmore Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Coleraine, Swydd Derry Gogledd Iwerddon | 6 Mawrth 1959
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Dwyrain Caeredin |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Alma mater | Prifysgol Aberdeen |
Galwedigaeth | Swyddog Llywodraeth Leol |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Rhwng 1979 a 2003 bu'n aelod o'r Blaid Lafur. |
Gwleidydd o'r Alban yw Tommy Sheppard (ganwyd 6 Mawrth 1959) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Caeredin; mae'r etholaeth yn Ninas Caeredin, yr Alban. Mae Tommy Sheppard yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ganwyd Sheppard yn Coleraine, Swydd Derry yn 1959 cyn symud ychydig filltiroedd i lawr y stryd i Portstewart, pan oedd yn 7 oed. Wedi'r ysgol uwchradd aeth i Brifysgol Aberdeen i astudio meddygaeth.[1] Graddiodd mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg yn 1982. Yr un flwyddyn, fe'i etholwyd yn Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr (yr NUS) a symudodd i Lundain.[2]
Tra yn Llundain, bu'n ymgeisydd seneddol i'r Blaid Lafur, ond yn In 2012 ymunodd gyda'r ymgyrch dros annibyniaeth i'r Alban ac yn 2014 ymunodd gyda'r SNP.
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[3][4] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Tommy Sheppard 23188 o bleidleisiau, sef 49.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 28.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9106 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Leask, David (1 Mehefin 2015). "Analysis: SNP bucks trend for privately educated MPs". The Herald (Glasgow). Glasgow. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
- ↑ "Tommy Sheppard SNP Prospective Parliamentary Candidate for Edinburgh East". tommysheppard.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-18. Cyrchwyd 2015-07-07.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban