Neidio i'r cynnwys

Torte

Oddi ar Wicipedia
Donauwelle

Mae'r gair Almaeneg Torte, a ddaw ei hunan o'r Eidaleg torta, yn cyfeirio at fara wedi'i bobi neu gacen grwn. Gan amlaf cânt eu gwneud allan o wyau, siwgr a chnau wedi'u malu yn hytrach na blawd. Weithiau llenwir y toes gyda hufen a / neu ffrwythau a chaiff ei addurno wedyn. Mae tortes nodweddiadol yn cynnwys y Torte Sacher a'r Torte Linzer o Awstria, cacen y Fforest Ddu o'r Almaen a gateau St. Honoré.

Eginyn erthygl sydd uchod am bwdin neu deisen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.