Toulouse
Math | cymuned, dinas fawr, tref goleg |
---|---|
Poblogaeth | 504,078 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Luc Moudenc |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Ocsitania |
Sir | Haute-Garonne |
Gwlad | Ocsitania , Ffrainc |
Arwynebedd | 118.3 km² |
Uwch y môr | 156 metr, 115 metr, 263 metr |
Gerllaw | Afon Garonne |
Yn ffinio gyda | Fenouillet, Aucamville, Balma, Blagnac, Colomiers, Cugnaux, Labège, Launaguet, Pechbusque, Portet-sur-Garonne, Quint-Fonsegrives, Ramonville-Saint-Agne, Saint-Orens-de-Gameville, Tournefeuille, L'Union, Vieille-Toulouse |
Cyfesurynnau | 43.6044°N 1.4439°E |
Cod post | 31000, 31100, 31200, 31300, 31400, 31500 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Toulouse |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Luc Moudenc |
Dinas yn Ocsitania yw Toulouse (Ocitaneg: Tolosa /tuˈluzɔ/), yn département Haute-Garonne a région Occitanie. Tolosa yw prifddinas y région honno, a hi hefyd oedd prifddinas région Midi-Pyrénées a ddiddymwyd yn 2016. Yn 2007, roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 443,103 a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,117,000, gan wneud Toulouse y bedwaredd dinas yn Ffrainc o ran poblogaeth, ar ôl Paris, Marseille a Lyon. Mae'r boblogaeth yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddinas fawr arall yn Ewrop. Saif y ddinas ar Afon Garonne.
Yn Nhoulouse mae prif ganolfan cwmni Airbus, ac mae llawer o ddiwydiannau technolegol eraill wedi datblygu yma. Ym maes chwaraeon, Rygbi'r Undeb sydd fwyaf poblogaidd yn yr ardal, ac mae tîm rygbi Toulouse, Stade Toulousain, ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Ymhlith pobl enwog o Toulouse mae rhai o chwaraewyr rygbi amlycaf Ffrainc, megis Jean-Pierre Rives, David Skrela, Fabien Pelous a Frédéric Michalak.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Basilica Saint-Sernin
- Eglwys gadeiriol Saint-Étienne
- Hotel du Grand Balcon
- Prifysgol Toulouse
Addysg
[golygu | golygu cod]Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Metro
[golygu | golygu cod]Mae dau lein Metro yn y ddinas (A a B). Mae trydydd lein, Toulouse Aerospace Express, yn yr arfaeth. Lansiwyd y Metro ym 1993, ac mae'n defnyddio technoleg VAL.
Enwau a llysenwau
[golygu | golygu cod]Mae'r enw Tolosa yn ymddangos mewn hen ysgrifau o'r 2il ganrif CC ymlaen (Τώλοσσα yn Groeg gan Poseidonius a Strabo, Tolosa yn Lladin gan Cicero, Cesar a Plinius yr Hynaf )[1]. Cysylltir yr enw gyda'r Tectosagiaid, pobl geltaidd[2].
Mae union darddiad yr enw Tolosa / Toulouse yn anhysbys hyd heddiw. Mae'n anodd cyfiawnhau tarddiad celtaidd, ac mae rhai ieithyddwyr yn ystyried ei fod yn dod o'r Ibereg, iaith hynafol nas gwyddir llawer amdani[3]. Mae llefydd eraill o'r enw "Tolosa" ar Benrhyn Iberia, ond hefyd yn Ne-Ddwyrain Ffrainc (Jura ac Ardèche).
Gelwid y bobl oedd yn byw yn y ddinas ac o'i chwmpas yn Tolosates, ond nid yw'n sicr ai Celtiaid Tecsosagiaid oeddynt, a oedd wedi mudo yn yno yn y 4edd ganrif CC, neu'n gymysg â phoblogaethau cynhenid, neu yn Geltiberiaid.
Mae rhai ymchwilwyr yn credu bod Tolosa, « cité de Minerve » (Palladia Tolosa) gynt yn cyfeirio at y Tholos a geir mewn pensaernïaeth Groeg yr Henfyd, ac yn cysylltu hynny â chwedlau aur a gipwyd o Delphi i Tolosa.
Yn ôl hanesyn oedd yn boblogaidd adeg y Dadeni Dysg, sefydlwyd y ddinas gan Tholus, ŵyr Jaffeth ail fab Noa.
Tolosa oedd enw Lladin y ddinas, a dyna yw'r enw Ocsitaneg hyd heddiw, megis yn yr arwyddair Per Tolosa totjorn mai. Daeth hynny yn Tholose ac yna yn Toulouse erbyn diwedd yr 17eg ganrif yn Ffrangeg, o ddan dylanwad yr ynganiad Ocsitaneg [tuˈluzɔ].
Gelwir y ddinas y ville rose oherwydd lliw y brics traddodiadol. Llysenw arall ar y ddinas yw Ciutat Mondina neu la cité Mondine yn Ffrangeg, gan gyfeirio at yr Ieirll oedd yn arfer rheoli'r ardal, oedd yn aml yn dwyn yr enw Raymond.
Iaith
[golygu | golygu cod]Tolosa yw ail ddinas Ocsitania, yr ardal ble siaredir Ocsitaneg yn draddodiadol. Mae hi ar y ffin rhwng y tafodieithoedd Languedoceg a Gwasgwyneg. Ganwyd nifer o feirdd a llenorion Ocsitaneg megis Pierre Goudouli yn y ddinas. Ym 1323, crëwyd Acadèmia dels Jòcs Florals, y gystadleuaeth farddoniaeth hynaf sy'n dal i gael ei chynnal; gwobrwyir yr awdur Ocsitaneg gorau pob blwyddyn gyda blodyn fioled wedi ei orchuddio ag aur pur.
Gwaharddwyd yr iaith o fyd addysg gan yr awdurdodau Ffrengig ers talwm. Dywedir i'r Ocsitaneg beidio â bod yn iaith bob dydd ar strydoedd y ddinas o'r 1920au ymlaen, ac eithrio rhai ardaloedd fel Lalande a Saint-Cyprien ble'r oedd i'w chlywed hyd at y 1960au.
Mae olion dylanwad yr Ocsitaneg i'w clywed yn y Ffrangeg a siaredir yn Tolosa, er yn llai felly nag yn y gorffennol, o ran gramadeg, geirfa ac acen.[4]
Yn 2006, lansiwyd Ostal d'Occitània, canolfan Ocsitaneg Tolosa, ar rue Malcousinat. Mae dros hanner cant o gymdeithasau, bob un yn ymwneud â'r Ocsitaneg mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn ei defnyddio[5][6]. Ers mis Hydref 2009, mae cyfieithiadau Ocsitaneg ar orsafoedd y Metro.
Pobl o Doulouse
[golygu | golygu cod]- Pierre de Fermat (1607-1665), mathemategydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Jean-Pierre Rives (g. 1952), chwaraewr rygbi
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Le Nom de Toulouse de Pierre Moret, 1996, université Toulouse Le Mirail - Toulouse II t.11
- ↑ Histoire de Toulouse, 1974, Éditions Privat, ISBN 978-2-7089-4709-2, t.11
- ↑ Albert Dauzat et Charles Rostaing, Dictionnaire étymologique des noms de lieux en France, Nodyn:2e Librairie Guénégaud 1978.
- ↑ Vocabulaire toulousain de survie
- ↑ "Convergéncia Occitana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-06. Cyrchwyd 2022-06-27.
- ↑ L’Ostal d’Occitània ouvre ses portes Archifwyd 2021-03-23 yn y Peiriant Wayback Gwefan mairie de Toulouse, 17/01/2008