Tour de France 2009
Enghraifft o'r canlynol | Tour de France |
---|---|
Rhan o | 2009 UCI World Ranking |
Dechreuwyd | 4 Gorffennaf 2009 |
Daeth i ben | 26 Gorffennaf 2009 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2008 |
Olynwyd gan | Tour de France 2010 |
Yn cynnwys | 2009 Tour de France, Stage 1, 2009 Tour de France, Stage 2, 2009 Tour de France, Stage 3, 2009 Tour de France, Stage 4, 2009 Tour de France, Stage 5, 2009 Tour de France, Stage 6, 2009 Tour de France, Stage 7, 2009 Tour de France, Stage 8, 2009 Tour de France, Stage 9, 2009 Tour de France, Stage 10, 2009 Tour de France, Stage 11, 2009 Tour de France, Stage 12, 2009 Tour de France, Stage 13, 2009 Tour de France, Stage 14, 2009 Tour de France, Stage 15, 2009 Tour de France, Stage 16, 2009 Tour de France, Stage 17, 2009 Tour de France, Stage 18, 2009 Tour de France, Stage 19, 2009 Tour de France, Stage 20, 2009 Tour de France, Stage 21 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 2009 oedd y 96ed rhifyn o'r Tour de France. Datganwyd lle byddai'r rhifyn hwn yn dechrau gan y Tywysog Albert yn Monaco ar 14 Rhagfyr 2007.[1] Dechreuodd y ras ar 4 Gorffennaf yn Monaco gyda threial amser unigol 15 cilomedr o hyd. Roedd y cwrs yn cynnwys rhan o'r Circuit de Monaco. Dechreuodd Cymal 2 yn Monaco hefyd.[2]
Ymwelodd y ras a chwe gwlad: Monaco, Ffrainc, Sbaen, Andorra, y Swistir a'r Eidal.[3] Roedd y ras yn gyfanswm o 3445 cilomedr o hyd, gan gynnwys 93 cilomedr o dreialon amser. Roedd saith cymal mynyddig a thri yn gorffen fyny allt, ac un cymal ar fynydd-canolig.[4] Cynhaliwyd treial amser tîm am y tro cyntaf ers 2005, a chynhaliwyd y treial amser unigol byrraf ers 1967, roedd y cymal olaf yn un fynyddig am y tro cyntaf yn hanes y Tour.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r syniad wedi cael ei grybwyll o leihau faint o gyfathrebu sydd yn mynd ymlaen rhwng rheolwyr y ras a'r reidwyr yn ystod y cymalau. Bwriadwyd arbrofi gyda hyn yng nghymalau 10 ac 13 yn 2009, wrth wahardd defnydd darnau-clust.[5]
Timau
[golygu | golygu cod]Gwahoddwyd 20 o dimau i gymryd rhan yn ras 2009. Maent yn cynnwys 17 o'r 18 tîm UCI ProTour (pob un heblaw Fuji-Servetto), yn ogystal â thri tîm arall a ddewiswyd ar hap: Skil-Shimano, Cervélo TestTeam ac Agritubel. Mae pob tîm yn cychwyn y ras gyda 9 reidiwr, felly mae 180 o seiclwyr yn cymryd rhan.
Yr 20 tîm yw:[6]
Reidwyr
[golygu | golygu cod]Roedd y ffefrynnau i ennill y ras yn cynnwys enillydd 2008 Carlos Sastre, enillydd 2007 Alberto Contador, enillydd Giro d'Italia 2009 winner Denis Menchov a Cadel Evans a oedd wedi gorffen yn ail ddwy waith.[7] Dychwelodd Lance Armstrong, a oedd wedi ymddeol ar ôl ennill y ras rhwng 1999 a 2005, i gystadlu ar yn un tîm a Contador.
Ni ddewiswyd Alejandro Valverde i gystadlu gan dîm Caisse d'Epargne, er mai ef oedd arweinydd y tîm. Gorffennodd yn y deg uchaf yn y Tour yn y ddwy flynedd cynt, a cysidrwyd ef yn un o'r ffefrynnau i ennill. Derbyniodd waharddiad ym mis Mai 2009, gan y Pwyllgor Olympaidd Eidaleg, yn ei wahardd rhag cystadlu yn yr Eidal. Mae'r Tour yn teithio trwy'r Eidal yn ystod cymal 16 felly nid oedd yn bosibl iddo gystadlu.
Torrodd y newyddion ynglŷn ag ail-brofi sampl tu-allan-i-gystadleuaeth 2007 Thomas Dekker tair diwrnod cyn dechrau'r ras; tynnodd ei dîm, Silence Lotto, ef allan o'r ras yn syth.
Cymalau
[golygu | golygu cod]Cymal | Dyddiad | Dechrau | Gorffen | Pellter | Math | Enillydd | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 4 Gorffennaf | Monaco , Monaco | Monaco , Monaco | 15 cilomedr | Treial Amser Unigol | Fabian Cancellara | |
2 | 5 Gorffennaf | Monaco , Monaco | Ffrainc , Brignoles | 182 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
3 | 6 Gorffennaf | Ffrainc , Marseille | Ffrainc , La Grande-Motte | 196 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
4 | 7 Gorffennaf | Ffrainc , Montpellier | Ffrainc , Montpellier | 38 cilomedr | Treial Amser Tîm | Astana | |
5 | 8 Gorffennaf | Ffrainc , Le Cap d'Agde | Ffrainc , Perpignan | 197 cilomedr | Cymal Gwastad | Thomas Voeckler | |
6 | 9 Gorffennaf | Sbaen , Girona | Sbaen , Barcelona | 175 cilomedr | Cymal Gwastad | Thor Hushovd | |
7 | 10 Gorffennaf | Sbaen , Barcelona | Andorra , Andorra | 224 cilomedr | Cymal Mynyddig | Brice Feillu | |
8 | 11 Gorffennaf | Andorra , Andorra la Vella | Ffrainc , Saint-Girons | 176 cilomedr | Cymal Mynyddig | Luis León Sánchez | |
9 | 12 Gorffennaf | Ffrainc , Saint-Gaudens | Ffrainc , Tarbes | 160 cilomedr | Cymal Mynyddig | Pierrick Fédrigo | |
13 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | ||||||
10 | 14 Gorffennaf | Ffrainc , Limoges | Ffrainc , Issoudun | 193 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
11 | 15 Gorffennaf | Ffrainc , Vatan | Ffrainc , Saint-Fargeau | 192 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
12 | 16 Gorffennaf | Ffrainc , Tonnerre | Ffrainc , Vittel | 200 cilomedr | Cymal Gwastad | Nicki Sørensen | |
13 | 17 Gorffennaf | Ffrainc , Vittel | Ffrainc , Colmar | 200 cilomedr | Transition Stage | Heinrich Haussler | |
14 | 18 Gorffennaf | Ffrainc , Colmar | Ffrainc , Besançon | 199 cilomedr | Cymal Gwastad | Sergei Ivanov | |
15 | 19 Gorffennaf | Ffrainc , Pontarlier | Y Swistir Verbier | 207 cilomedr | Cymal Mynyddig | Alberto Contador | |
20 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | ||||||
16 | 21 Gorffennaf | Y Swistir Martigny | Ffrainc , Bourg-Saint-Maurice | 160 cilomedr | Cymal Mynyddig | Mikel Astarloza | |
17 | 22 Gorffennaf | Ffrainc , Bourg-Saint-Maurice | Ffrainc , Le Grand-Bornand | 169 cilomedr | Cymal Mynyddig | Fränk Schleck | |
18 | 23 Gorffennaf | Ffrainc , Annecy | Ffrainc , Annecy | 40 cilomedr | Treial Amser Unigol | Alberto Contador | |
19 | 24 Gorffennaf | Ffrainc , Bourgoin-Jallieu | Ffrainc , Aubenas | 195 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
20 | 25 Gorffennaf | Ffrainc , Montélimar | Ffrainc , Mont Ventoux | 167 cilomedr | Cymal Mynyddig | Juan Manuel Gárate | |
21 | 26 Gorffennaf | Ffrainc , Montereau-Fault-Yonne | Ffrainc , Paris Champs-Élysées | 160 cilomedr | Cymal Gwastad | Mark Cavendish | |
CYFANSWM | 3,459.5 cilomedr |
Arweinwyr y dosbarthiadau
[golygu | golygu cod]- Pan mae un reidiwr yn arwain mwy nag un gystadleuaeth ar ddiwedd cymal mae'n derbyn pob crys, ond dim ond un crys gaiff wisgo'r diwrnod canlynol. Mae'n gwisgo crys y gystadleuaeth bwysicaf (yn y drefn yma - melyn, gwyrdd, dot polca, gwyn).[8] Mae'r crysau eraill a ddeillir gan y reidiwr yn cael eu gwisgo gan y reidiwr sy'n ail yn y gystadleuaeth eilradd honno (neu'r trydydd, pedwerydd reidiwr ayb. fel bo'r angen).
- Cymal 2, gwisgodd Bradley Wiggins y crys gwyrdd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Friday's EuroFile: '09 Tour to open in Monaco. VeloNews.com (2007-12-14).
- ↑ Grand start 2009. LeTour.fr.
- ↑ Stage by stage. LeTour.fr.
- ↑ The Tour 2009. LeTour.fr.
- ↑ Cycling Earpieces banned on two Tour de France stages. yahoo.com (2009-06-18).
- ↑ The 20 teams selected. LeTour.fr (2009-03-17).
- ↑ The Tour de France Ladder.
- ↑ Tour de France 2009 Regulations. LeTour.fr.
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol