Walwneg
Gwedd
Iaith Romáwns o'r continwwm langues d'oïl yw Walwneg a siaredir yn ardal Walonia yn ne Gwlad Belg, mewn ambell pentref yng ngogledd Ffrainc, ac yn hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Wisconsin, UDA. Hon yw iaith frodorol y Walwniaid, sydd hefyd yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Llenyddiaeth Walwneg
Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Yn ddiweddarach, cyfansoddwyd caneuon, dramâu a libretos yn yr iaith. Sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg. Cafodd sillafu a gramadeg yr iaith Walwneg eu safoni gan ysgolheigion yn yr 20g, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg.