Wicipedia:Canllaw sail resymegol defnydd di-rydd
Pan ddefnyddir ffeiliau nad ydynt yn rhydd rhag hawlfraint yn cael eu defnyddio ar Wicipedia, dylid cyfiawnhau hynny drwy nodi'r sail resymegol dros y defnydd di-rydd hwnnw. Gelwir y sail resymegol hon hefyd yn resymeg defnyddio neu'n rhesymeg defnydd teg).
Mae'n rhaid cynnwys cyfiawnhad ar gyfer defnyddio delweddau o'r fath, neu dylid gosod rhybudd o ddileu. Mae'n rhaid cyflwyno'r wybodaeth hon ar dudalen y ffeil, gan esbonio sut y defnyddir y ffeil mewn ffordd sy'n gyson â meini prawf ffeiliau nad ydynt yn rhydd rhag hawlfraint Wicipedia. Mae'r cyfiawnhad yma yn cynorthwyo defnyddwyr eraill i benderfynu a all yr honiad o ddefnydd teg gael ei osod ar amrywiaeth eang o ddefnyddiau neu ystod gul o ddefnyddiau. Bydd hyn hefyd yn cynorthwyo i bennu a yw'r honiad o ddefnydd teg yn briodol i'w gynnwys ar Wicipedia yn y lle cyntaf.
Os ydych yn defnyddio delweddau neu gyfryngau eraill nad ydynt yn rhydd rhag hawlfraint, mae'n rhaid i chi gynnwys dau beth ar dudalen disgrifiad y ffeil:
- Tag hawlfraint priodol sy'n egluro'r hawliad sylfaenol o ddefnydd teg. Gweler y rhestr yma: Wicipedia:Tagiau hawlfraint ffeiliau/Di-rydd.
- Rhesymeg defnydd teg manwl. Mae'n rhaid ichi gynnwys rhesymeg benodol, wahanol i bob delwedd a ddefnyddir mewn erthygl. Mae'n rhaid ichi gynnwys enw'r erthygl yn nisgrifiad o'r ddelwedd yn y rhesymeg hefyd.
Byddwch yn siŵr i ddarllen y canllawiau ar gyfer ffeiliau di-rydd cyn uwchlwytho'r ffeil. Mae polisïau Wicipedia yn fwy cyfyngol na chyfraith defnydd teg yr Unol Daleithiau o ran yr hyn a ganiateir ac na chaniateir.
Noder: Dilëir ffeiliau di-rydd nad ydynt yn cynnwys tag hawlfraint a rhesymeg defnyddio cyn gynted ag y bo modd.
Cydrannau angenrheidiol
Mae sail resymegol sydd wedi ei ysgrifennu'n llwyddiannus yn esbonio sut y mae defnyddio'r cyfryngau hyn yn ateb gofynion meini prawf cynnwys di-rydd a dylai nodi:
- Pa gyfran o'r gwaith hawlfreinitiedig a ddefnyddir ac i ba raddau mae'n cystadlu â defnydd deiliwr yr hawlfraint? Er enghraifft, os yw'r ddelwedd yn ffotograff neu logo, mae'n bur debyg y bydd y gwaith cyfan yn cael ei ddefnyddio. Ar y llaw arall, mae siot sgrîn sydd yn dangos darganfyddiad pwysicaf rhaglen ddogfen neu ddiwedd ffilm er enghraifft, er ei fod yn rhan fach iawn o'r ffilm, gallai gystadlu'n anghyfrannol gyda defnydd deiliwr yr hawlfraint. Ni ddylai samplau o gerddoriaeth fod yn hwy na 10% o hyd gwreiddiol y gân neu 30 eiliad, pa un bynnag sydd fyraf.
- Os yn berthnasol, a yw'r cydraniad wedi ei leihau o'r gwreiddiol? Gyda samplau o gerddoriaeth, a yw'r safon wedi ei leihau o'r gwreiddiol?
- Beth yw pwrpas y ddelwedd yn yr erthygl? Os yw'n berthnasol:
- A yw'r ddelwedd yn logo, ffotograff neu gelf blwch ar gyfer prif bwnc yr erthygl?
- A ddefnyddir y ddelwedd fel y prif ddull o adnabod y pwnc neu destun mewn ffordd weledol? (e.e. logo corfforaethol neu gelf bwlch ar DVD)
- A yw'n darlunio pwnc yr erthygl? (e.e. siot sgrîn o ffilm)
- I ba raddau y caiff ei ddefnyddio i sylwebu ar bwnc penodol? Sut?
- I ba raddau y gellir newid y ddelwedd gyda delwedd cynnwys rhydd?
- Os yw'r ddelwedd yn siot sgrîn o ffilm mewn erthygl am y ffilm honno, neu logo corfforaethol, yn amlwg nid oes y fath beth a fersiwn "rhydd" ohono - ni allai'r holl adnoddau yn y byd greu un. Fodd bynnag, os yw'r ddelwedd yn ffotograff, gellir newid y ddelwedd yn haws, hyd yn oed os nad oes gan Wicipedwyr yr adnoddau i greu fersiwn arall.
- Unrhyw wybodaeth bellach a fydd yn cynorthwyo eraill i benderfynu a yw'r defnydd o'r llun hwn yn addas ar gyfer defnydd teg.