Aberdyfi

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned, yng Ngwynedd, Cymru, yw Aberdyfi[1] (Saesneg: Aberdovey yn draddodiadol, er mai "Aberdyfi" yw'r ffurf a argymhellir erbyn hyn). Fe'i lleolir yn ardal Meirionnydd ar lan ogleddol aber eang Afon Dyfi. Saif ar briffordd yr A493 ac ar Reilffordd y Cambrian, rhwng Pennal a Machynlleth i'r dwyrain a Thywyn i'r gogledd. Twristiaeth yw'r prif ddiwydiant yno heddiw. Mae traeth eang tywodlyd yn ymestyn am filltiroedd o Aberdyfi i Dywyn ac mae'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr haf.

Aberdyfi
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth878, 682 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,128.22 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5444°N 4.0444°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000043 Edit this on Wikidata
Cod OSSN615965 Edit this on Wikidata
Cod postLL35 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tai haf

golygu

Mae'r pentref yn nodedig am ei ganran uchel o dai haf. Ym mis Hydref 2021 datgelwyd bod 54% o’r holl eiddo yn y pentref naill ai'n ail gartrefi, tai gwyliau ar osod, neu’n wag.[2]

Yr hen fferi

golygu

Ar un adeg bu gwasanaeth cwch fferi yn cysylltu Aberdyfi ag Ynys Tachwedd, ger y Borth, ar lan ddeheuol Afon Dyfi. Mae'n bosibl mai fan hyn y croesodd Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint ar eu ffordd i'r gogledd ym 1188; "croesasom yr afon mewn cwch," meddai Gerallt yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru.

 
Aberdyfi, 1860
 
Hen ffotograff o Gasgliad John Thomas, 1885 o Benhelyg

Diwylliant a thraddodiadau

golygu

Mae'r dref yn enwog am y gân werin adnabyddus "Clychau Aberdyfi", a gysylltir weithiau â chwedl Cantre'r Gwaelod. Cyhoeddwyd yr alaw gan Maria Jane Williams (Llinos) (1795-1883) yn y gyfrol Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg (1844). Yn ddiweddarach ysgrifennodd Ceiriog eiriau i'r alaw yn ogystal. Mae'r nofel The Misfortunes of Elphin gan Thomas Love Peacock yn gymysgiad bwrlesg o draddodiad "Clychau Aberdyfi", chwedl Cantre'r Gwaelod ac elfennau o'r chwedl Hanes Taliesin.

Ceir cân werin arall, sef "Mynydd Aberdyfi", hefyd:

Mi geisiaf eto ganu cân
I'th gael di 'nôl fy ngeneth lân
I'r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi...

Tro ar fyd

golygu

Neges cerdyn post o’r Bermo 28 Gorffennaf 1961:

Bermo 28 Gorffennaf 1961: The weather has been grand except for today when we went on our excursion to Aberdovey. Aberdovey is a horrible place and there is only a few shops and NOT 1 chippy. They don't have chippies because they can't abide the smell of chips.[3]

Rhyfedd o fyd i bentref yn enwog am ei physgod a'r llusenw ym Meirionnydd am bobol Aberdyfi oedd "Sgadans".[4]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberdyfi (pob oed) (878)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberdyfi) (263)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberdyfi) (307)
  
35%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberdyfi) (222)
  
45.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Comisiynydd y Gymraeg.
  2. "Canlyniadau a Chanfyddiadau Arolwg Cymuned Aberdyfi 2021" (PDF). Cyngor Cymuned Aberdyfi. Hydref 2021.
  3. Bwletin Llên Natur, rhifyn 38[1]
  4. Dan Morris [2]
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol

golygu