Beddgelert
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Beddgelert ( ynganiad ); Cyfeirnod OS: SH 59157 48176. Fe'i lleolir ar lecyn deniadol iawn yng nghanol Eryri. Saif ger aber Afon Glaslyn ac Afon Colwyn. Fymryn islaw'r aber rhed yr afon dan hen bont gerrig â dau fwa yng nghanol y pentref. Mae nifer o'r tai a'r gwestai wedi'u hadeiladu o gerrig tywyll lleol. I'r gorllewin mae Moel Hebog a'i chymdogion ac i'r gogledd ceir cyfres o fryniau sy'n codi i ben Yr Wyddfa. Mae lôn yr A4085 rhwng Caernarfon (13 milltir i'r gogledd) a Porthmadog (8 milltir i'r de) yn rhedeg trwy'r pentref. Mae lôn arall yn arwain i galon mynyddoedd Eryri trwy Nant Gwynant i Ben-y-gwryd, ac ymlaen i Gapel Curig neu Llanberis.
Math | cymuned, pentref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Chwedl Gelert |
Poblogaeth | 455, 459 |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 8,592.81 ha |
Cyfesurynnau | 53.0118°N 4.1025°W |
Cod SYG | W04000048 |
Cod OS | SH591482 |
Cod post | LL55 |
Y fynachlog a'r eglwys
golygu- Prif erthygl: Priordy Beddgelert
Ger canol y pentref saif Eglwys y Santes Fair ar safle priordy cynharach. Dyma'r Beddgelert gwreiddiol. Hen fynachlog Gymreig oedd hi a sefydlwyd yn ôl traddodiad gan y sant Celert. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol newidiodd yn fynachlog Awstinaidd, yn bennaf er mwyn ceisio gwrthsefyll hawliau abaty Sistersiaidd Aberconwy i dir yn yr ardal.
Mae'r eglwys bresennol yn ddiweddarach, ond mae'n cynnwys rhannau o gapel yr hen briordy, yn arbennig dau fwa cerrig a ffenestr lanset hardd sy'n perthyn i'r 13g. Atgyweiriwyd yr eglwys yn sylweddol yn 1882.
Chwedl Gelert
golygu- Prif erthygl: Chwedl Gelert
Cysylltir Beddgelert â "Chwedl Gelert". Yn ôl y stori boblogaidd, cafodd y pentref ei enwi ar ôl un o hoff fytheiad Llywelyn Fawr, Gelert, a gladdwyd yno. Ychwanegwyd at yr hen stori hon, yn ôl pob tebyg, gan dafarnwr lleol, yn y 18ed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, er mwyn denu ymwelwyr i'r pentref. Cododd David Prichard, tafarnwr y Goat a dyfeisiwr y chwedl, ddwy garreg ar lan Afon Glaslyn i nodi safle bedd Gelert.[1] Ceir chwedlau cyffelyb mewn sawl diwylliant arall ac mae'r thema yn cael ei hadnabod fel motif llên gwerin rhyngwladol.
Posibilrwydd arall yw mai ar ôl y sant cynnar o'r enw Celert yr enwyd y pentref. Gelwir bwthyn ger y bont yn 'Fwthyn Llywelyn' hefyd, ond mae'n dyddio o'r 17g.
Carreg Fellt Beddgelert
golyguYm mis Medi 1949 disgynnodd carreg fellt neu feteoryn ar westy'r Prince Llywelyn yn yr oriau mân, gan ddifrodi to'r gwesty ac ystafell wely yno. Disgrifiodd yr Herald Cymraeg y digwyddiad fel "dirgelwch".
Yn ddiweddarach gwerthodd perchennog y gwesty hanner y garreg i'r Amgueddfa Brydeinig a'r hanner arall i Brifysgol Durham a oedd wedi gosod hysbysebion yn y papurau lleol yn gofyn am wybodaeth o'r digwyddiad ac yn cynnig gwobr ariannol am hynny.[2]
Dyma ran o adroddiad "sgwp" y gohebydd Dyfed Evans yn Y Cymro ar y pryd:
- ....Yn ffodus, disgynnodd ar yr unig ystafell wag i fyny'r grisiau [yng Ngwesty'r Prince Llywelyn]. Cysgai'r gwesteion heb wybod dim am y garreg pum pwys, chwe modfedd o rownd, a faluriodd nenfwd y 'lounge' ar yr un llawr. Yr oedd Mr a Mrs Alwyn Maines, ymwelwyr o Sir Gaerhirfryn, o fewn pedair llath i'r lle disgynnodd - a chysgasant drwy'r holl helynt. Clywyd ergydion gan amryw o drigolion y cylch o Borthmadog i Feddgelert. Wedi tynnu'r llenni i'r naill du ac agor y ffenestr led y pen yn ôl ei arfer, gorweddai Mr. Ephraim Williams, Danw Deg, Llanfrothen yn effro yn ei wely yn y plygain. Yr oedd yn noson loergan ddigwmwl a tharanau y pethau ola f a feddyliai amdanynt. Am dri munud ar ddeg i dri clywodd ergydion yn yr awyr ond o godi i'r ffenestr ni welai neb. Ni allasai ddirnad beth oedd y swn, ond rhyfeddai na fuasai holl drigolion y pentref wedi codi.
- Yn y gwesty ym Meddgelert deffrowyd Mr a Mrs W. Tillotson, y perchnogion, gan ergydion fel bomiau'n ffrwydro. Cyfarthodd Rex eu ci defaid, ond ni ddeallwyd am y difrod nes daeth eu morwyn, Mrs Kate Williams, i lawr yn y bore. Ar y dechrau, tybiai Mr. Tillotson mai darn o'r mynydd sy'n codi'n syth tu cefn i'r gwesty, oedd y garreg, ond yr oedd yn amlwg iddi fod mewn tân. I'r llygad anghyfarwydd ymddengys y garreg fel craig ithfaen wyrddlas a geir yn gyffredin yn rhai chwareli Gogledd Cymru ond adwaenai Dr. E.V. Rieu (cymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol a arhosai yn y gwesty), hi fel craig "peridotite" - rhan o seren wib.[3]
Wrth ymweld â'r arddangosfa fechan a drefniwyd gan Brifysgol Caerdydd i ddathlu hanes taranfollt Beddgelert yn Neuadd Gymunedol y Pentref ar y 19eg Medi eleni llwyddodd gohebwyr mentrus Llên Natur (!) i gael yr hanes gan un o drigolion y pentref sydd yn cofio'r digwyddiad yn dda. Os am glywed y cyfweliad gyda Mrs. Eira Taylor ewch i wefan Llên Natur[1].
Cyfeirir at y garreg fellt hon fel y "Beddgelert meteorite" yn y papurau gwyddonol a chedwir rhan ohoni yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain. Yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gellir gweld model o'r meteoryn a hefyd croesdoriad main o'r gwreiddiol, a roddwyd gan Brifysgol Durham.
Dyma'r ail feteoryn yn unig i fod wedi'i ganfod wedi taro'r ddaear yng Nghymru. Bu i'r ddau feteoryn dal sylw pobl lleol wrth ddisgyn. Disgynnodd y gyntaf ym Mhontllyfni ym 1931 - rhyw bymtheg milltir i ffwrdd ar ben arall crib Nantlle.
Atyniadau a hynafiaethau yn yr ardal
golygu- Dinas Emrys - bryngaer a chastell a gysylltir â chwedl Myrddin a'r brenin Gwrtheyrn
- Bwthyn Llywelyn, neu Tŷ Isaf fel y'i gelwir heddiw - tŷ hynaf Beddgelert
- Mwynglawdd Sygn - hen gloddfa copr
- Pont Aberglaslyn - mae llwybr deniadol yn dilyn cwrs hen reilffordd o Feddgelert i'r bont, gan ddilyn glan Afon Glaslyn
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 370.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-18. Cyrchwyd 2015-03-31.
- ↑ Dyfed Evans, Y Cymro, Medi 1949
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr