Jendouba
Mae Jendouba (Arabeg: جندوبة), a enwyd yn Souk El Arba hyd 30 Ebrill 1966, yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia a leolir 154 km i'r gorllewin o'r brifddinas Tiwnis a 50 km o'r ffin ag Algeria. Mae'r ddinas yn gorwedd yn nyffryn Medjerda yng nghanol gwastadedd eang a amylchinir ar un ochr gan fryniau'r Kroumirie i'r gogledd a chan bryniau talaith El Kef ar yr ochr arall.
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 113,116, 49,000, 46,459 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Jendouba |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 143 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Medjerda |
Cyfesurynnau | 36.5011°N 8.7803°E |
Cod post | 8100 |
Jendouba yw prifddinas talaith Jendouba, gyda 43,997 o bobl yn byw ynddi.
Mae'r economi lleol yn seiliedig i raddau helaeth ar amaethyddiaeth. Mae twristiaeth yn datblygu mewn rhannau eraill o'r dalaith, Tabarka ac Aïn Draham, ond nid yw Jendouba yn ganolfan twristiadd, a hynny er gwaethaf y ffaith fod un o safleoedd archaeolegol gorau'r wlad, sef dinas Rufeinig Bulla Regia, yn gorwedd ar ei stepan drws. Ceir coleg rhanbarthol ar gyrrion y ddinas a nifer o ysgolion. Mae lefel diweithdra yn uchel ac mae nifer o bobl ifanc yn gorfod gadael i geisio gwaith yn Nhiwnis a dinasoedd eraill
Mae rheilffordd bwysig yn cysylltu Jendouba â Bou Salem, Béja a Thiwnis i'r dwyrain ac â Ghardimaou ac Algeria i'r gorllewin. Mae'r ddinas yn ganolfan cludiant lleol gyda ffyrdd yn arwain i lawr y dyffryn i gyfeiriad Tiwnis, dros y Kroumirie i Tabarka, ac i fyny i ddinas hynafol El Kef i'r gogledd-ddwyrain.
Mae gan y ddinas glwb pêl-droed sydd yn yr ail adran genedlaethol.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Jendouba Archifwyd 2007-09-09 yn y Peiriant Wayback