Tiwnis

prifddinas Tiwnisia

Tiwnis[1] (Arabeg: تونس, Tiŵ-nis) yw prifddinas a dinas fwyaf Tiwnisia. Fe'i lleolir ar lannau Llyn Tiwnis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae Tiwnis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lan Gwlff Tiwnis, gan gynnwys Carthago a Sidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Y medina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir y Ville Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan, pensaernïaeth Ffrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Diwnis hyn - yr Arabaidd a'r Ewropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tiwnis Fwyaf).

Tiwnis
Mathdinas fawr, municipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth602,560 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirTiwnis Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd212,630,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Tiwnis, Gwlff Tiwnis Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.8008°N 10.18°E Edit this on Wikidata
Cod post1000 Edit this on Wikidata
Map

Mae Tiwnis wedi bodoli ers cyfnod dinas Carthago a'r Ffeniciaid. Credir fod yr enw yn ffurf ar enw Tanit, prif dduwies y Carthaginiaid. Ceir yr enw (Tynes) ar fapiau o'r 5g CC. Ond lle digon di-nod oedd Tiwnis mewn cymhariaeth â Carthago ei hun. Ar ôl cwymp y ddinas enwog honno i'r Rhufeiniaid ceir bwlch yn hanes Tiwnis. Pan ddaeth yr Arabiaid i Diwnisia a chipio Carthago o ddwylo'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 695 penderfynodd Hassan bin Nouman adeiladau ar safle Tiwnis yn hytrach na Carthago. Mae sefydlu'r medina yn dyddio o gyfnod Hasan. Cloddiwyd camlas i'w gysylltu â Llyn Tiwnis i'r dwyrain. Yn 732 codwyd mosg ysblennydd Zitouna yng nghanol y medina.

Yn y 9g symudodd y rheolwr Ffatimid Ibrahim ibn Ahmed II ei lys o Kairouan i Diwnis a ddaeth yn brifddinas y wlad am gyfnod byr. Symudwyd y brifddinas i Mahdia ond adferwyd statws Tunis ar ôl i'r Almohadiaid gwncweru Gogledd Affrica yn 1160. Roedd y cyfnod dan reolaeth yr Haffsidiaid (1229 - 1574) yn oes aur i'r ddinas. Treblodd y boblogaeth a chodwyd nifer o fosgiau, medresau a souqs. Sefydlwyd prifysgol ym Mosg Zitouna a oedd ymhlith yr enwocaf yn y byd Islamaidd.

Dioddefodd y ddinas yn yr ymgiprys am rym rhwng rheolwyr Otomanaidd Tiwnisia a Sbaen pan ddinistiwyd rhannau o'r ddinas a diorseddwyd yr Haffsidiaid. Dan reolaeth Sinan Pasha, a gipiodd y ddinas yn 1574, dechreuodd Tiwnis flodeuo eto. Ymsefydlodd nifer o ffoaduriaid Islamaidd o Andalucía - y Morisgiaid - yno a daeth ton arall o ffoaduriaid o Iddewon o ardal Livorno yn Yr Eidal hefyd i osgoi erledigaeth grefyddol.

Syrthiodd Tiwnis i feddiant Ffrainc yn 1881. Yn ystod y saith ddegawd nesaf codwyd nifer o adeiladau ganddynt a chreuwyd y Ville Nouvelle ar batrwm grid rhwng y medina a Llyn Tiwnis. Erbyn heddiw y 'ddinas newydd' yw calon y brifddinas.

Lleoliad

golygu
 
Delwedd lloeren yn dangos Tiwnis a Llyn Tiwnis

Mae'r ddinas yn gorwedd ar wddw o dir dyrchafedig rhwng llyn hallt Sebkhet Nejoumi i'r gorllewin a Llyn Tiwnis i'r dwyrain. O'r sgwâr deniadol wrth y fynedfa i'r medina, a elwir Place de la Victoire, mae stryd llydan hir Avenue Habib Bourguiba yn ymestyn am dros hanner milltir trwy ganol y Ville Nouvelle. Roedd y gamlas a gloddiwyd yn nyddiau Hassan bin Nouman yn rhedeg ar hyd safle'r stryd cyn i'r Ffrancod ei llenwi. Avenue Habid Bourguiba yw canol y ddinas. Ceir nifer o fanciau, caffis stryd canoldirol a gwestai yno. O'i phen dwyreiniol mae morglawd dros Lyn Tiwnis yn cludo ffordd a rheilffordd y TGM i La Goulette a Gwlff Tiwnis.

Atyniadau a diwylliant

golygu

Y brif atyniad dwristaidd yn Nhiwnis yw'r medina gaerog sy'n labyrinth o strydoedd cul, siopau bach o bob math, ardaloedd dosbarth gweithiol, medresau, souqs, a mosgiau; mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Fe'i rhennir yn ardaloedd a enwir fel rheol ar ôl sant, souq neu fosg. Yng ngogledd y ddinas newydd ceir Amgueddfa'r Bardo, un o'r lleoedd gorau yn y byd i weld mosaigs Rhufeinig. Mae' parciau yn cynnwys y Belvedere a'i sŵ yn y gogledd.

 
Mosg Zitouna, Tiwnis

Ar Avenue Habib Bourguiba mae Eglwys Gadeiriol St Vincent a St Paul yn adeilad Ffrengig newydd-Othig trawiadol. O flaen y gadeirlan ceir cerflun o'r hanesydd canoloesol arloesol Ibn Khaldoun. Ar y rhodfa hefyd ceir y Theatr Ddinesig a Place 7 Novembre a'i ffynnon. Ond ar y cyfan nid yw Tiwnis yn ddinas dwristaidd. Mae twristiaid paced yn aros yn y trefi glan môr yng nghanolbarth y wlad a'r de ac felly mae'r ddinas wedi cadw ei chymeriad brodorol a'i diwylliant unigryw sy'n ymdroi o gwmpas y caffis pafin niferus.

Yn y ddinas fwyaf, a elwir weithiau Tiwnis Fwyaf, mae lleoedd o ddiddordeb yn cynnwys safleoedd archaeolegol Carthago, porthladd a thref glan môr La Goulette, Sidi Bou Saïd a'i phensaernïaeth Andalwsaidd a La Marsa i'r gogledd, ar Gwlff Tiwnis a'r Môr Canoldir. I'r dwyrain, i gyfeiriad gorynys Cap Bon, mae Hammam Lif ar lan y gwlff yn boblogaidd gan ddinesyddion Tiwnis fel lle i ymdrochi ac ymlacio.

Cludiant

golygu

Gwasanaethir Tiwnis gan rwydwaith o gludiant cyhoeddus sydd ymhlith y gorau yn Affrica. Mae tramiau yn rhedeg i nifer o leoedd yn y ddinas ac ar ei gyrion. Mae Rheilffordd y TGM yn cysylltu Tiwnis a maerdref bell La Marsa, gan alw yn nhair gorsaf Carthago a lleoedd eraill ar ei ffordd. Ceir rheilffordd faerdrefol sy'n rhedeg o Diwnis ar hyd glan ddeheuol Gwlff Tiwnis i Rades, Hammam Lif a threfi eraill. Mae nifer fawr o fysus a tacsis yn rhedeg yn y ddinas yn ogystal. O'r orsaf yng nghanol y ddinas mae trenau'n cysylltu Tiwnis â Beja a Jendouba yn y gogledd-orllewin a Hammamet, Sousse a Sfax yn y de. Gwasanaethir Tiwnis gan Maes Awyr Tiwnis-Carthago, prif faes awyr rhyngwladol y wlad.

Lluniau eraill

golygu

Rhai lluniau o hen giatiau Tunis. Mae Bab yn golygu giât mewn Arabeg .

Gefeilldrefi

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu