Margaret Thatcher
Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd, oedd Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (13 Hydref 1925 – 8 Ebrill 2013). Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain yn ogystal â bod y fenyw gyntaf yn Ewrop i gael ei hethol yn Brif Weinidog. Daeth yn adnabyddus am ei pholisïau Thatcheraidd a oedd yn medru hollti barn ac am ei phersonoliaeth benderfynol ac awdurdodol.[1][2][3]
Margaret Thatcher | |
---|---|
Llais | Prime Minister Margaret Thatcher's Joint Statement, 10th G7 summit.ogg |
Ganwyd | Margaret Hilda Roberts 13 Hydref 1925 Grantham |
Bu farw | 8 Ebrill 2013 o strôc The Ritz London |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, cemegydd, hunangofiannydd, bargyfreithiwr, gwladweinydd |
Swydd | Arweinydd yr Wrthblaid, President of the European Council, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Shadow Secretary of State for Environment, Food and Rural Affairs, Parliamentary Secretary to the Minister for Pensions, Chancellor of the College of William & Mary, President of the European Council, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Shadow Secretary of State for Education, Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, Prif Arglwydd y Trysorlys, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, president of the Oxford University Conservative Association |
Taldra | 1.66 metr, 165 centimetr |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Alfred Roberts |
Mam | Beatrice Ethel Stephenson |
Priod | Denis Thatcher |
Plant | Mark Thatcher, Carol Thatcher |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd y Gardas, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Urdd y Llew Gwyn, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Grand Order of King Petar Krešimir IV, Dostyk Order of grade I, Order of Good Hope, Uwch Groes Urdd Vytautas Fawr, Prif Urdd y Brenin Dmitar Zvonimir, Fellow of the Royal Institute of Chemistry, dinesydd anrhydeddus Zagreb, Clare Boothe Luce Award, doethuriaeth anrhydeddus Prifysgol Hofstra, honorary doctor of the Bar-Ilan University, Person y Flwyddyn y Financial Times, honorary citizen of Gdańsk, Urdd y Goron Werthfawr, Dosbarth 1af, Urdd Sant Ioan, Order of Vytautas the Great, Urdd Brenhinol Francis I |
Gwefan | http://margaretthatcher.org |
Daeth yn Aelod Seneddol dros Finchley yn Llundain yn 1959 ac yn 1970 fe’i penodwyd gan Edward Heath yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth. Yn 1975 trechodd Edward Heath yn ei ymgais i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly etholwyd hi yn arweinydd yr wrthblaid yn erbyn Llywodraeth Lafur Harold Wilson ac yna Jim Callaghan. Arweiniodd Margaret Thatcher y Ceidwadwyr am 15 mlynedd nes iddi ymddiswyddo yn 1990.
Mae’r syniadau gwleidyddol a fabwysiadodd tra'r oedd mewn grym yn cael eu hadnabod fel ‘Thatcheriaeth’ a daeth hi i gael ei hadnabod fel y ’Ddynes Ddur’. Arweiniodd y Ceidwadwyr i bŵer yn Etholiad Cyffredinol 1979 wrth ennill buddugoliaeth dros y Blaid Lafur a oedd mewn grym o dan arweiniad James Callaghan.
Roedd yn benderfynol o ymestyn yr egwyddor o farchnad rydd[4], ac yn gefnogol i feddylfryd mentergarwch ac entrepreneuraidd. Roedd yn awyddus i symud pobl i ffwrdd o'u dibyniaeth ar y Llywodraeth a’r Wladwriaeth Les. Roedd hi eisiau i unigolion fod yn fwy annibynnol a dibynnol ar ei allu ei hun yn hytrach na dibynnu ar gymorth oddi wrth y Llywodraeth. Dangoswyd hyn pan werthodd y Llywodraeth ei stoc o dai cyngor ar ddiwedd y 1980au i denantiaid y tai - cyfanswm o tua 1.5 miliwn o dai. Yn ystod ei llywodraeth hi, cafodd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraethau Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur eu preifateiddio. Roedd hi'n rhoi pwyslais ar sicrhau bod gwariant cyhoeddus ar wasanaethau fel iechyd ac addysg yn cael eu gwneud yn fwy atebol i’r Llywodraeth.
Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde yng ngwledydd Prydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr (1984–5). Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.
Erbyn diwedd ei chyfnod fel Prif Weinidog roedd wedi cyrraedd y garreg filltir o fod y Prif Weinidog a oedd wedi bod mewn grym am y cyfnod hiraf yn hanes Prydain a’r Prif Weinidog cyntaf ers dros 150 o flynyddoedd i ennill cyfres o dri etholiad cyffredinol - yn 1979, 1983 ac 1987.[2][3]
Bywyd cynnar
golyguAlfred Roberts, yn wreiddiol o Swydd Northampton, oedd ei thad a Beatrice Ethel (née Stephenson) o Swydd Lincoln oedd ei mam.[5] Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn Grantham, lle'r oedd ei thad yn berchennog dwy siop ffrwythau a llysiau.[6] Roedd hi a'i chwaer hŷn Muriel yn byw uwch ben y siop fwyaf o'r ddwy, ger yr orsaf drenau[6] gyda'u rhieni. Roedd ei thad yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth leol a'r capel Methodistaidd lleol fel henadur a phregethwr lleyg; roedd yn gartref eitha llym.[7] Er ei fod yn hanu o deulu Rhyddfrydol, safodd fel cynghorydd annibynnol. Bu'n faer Grantham rhwng 1945 a 46 a chollodd ei swydd fel henadur yn 1952 pan gipiodd y Blaid Lafur fwyafrif Cyngor Tref Grantham.[8]
Astudiodd Margaret Gemeg ym Mhrifysgol Rhydychen, gan raddio ym 1947. Aeth yn ei blaen i fod yn fod yn gemegydd ymchwil academaidd, yna’n fargyfreithwraig cyn camu i fyd gwleidyddiaeth. Daeth yn Aelod Seneddol dros Finchley yn 1959. Fe'i penodwyd gan Edward Heath yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth yn 1970. Bum mlynedd yn ddiweddarach trechodd Edward Heath yn ei hymgais i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly'n arweinydd yr wrthblaid.
Prifweinidogaeth
golyguPan enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad o dan arweiniad Margaret Thatcher, fe ddaethant i bŵer ar ôl ‘Gaeaf anfodlonrwydd’ gaeaf 1978-79. Adeg hynny roedd y wlad wedi dioddef nifer o streiciau ac yn y blynyddoedd dilynol dioddefodd y wlad ddiweithdra uchel a chwyddiant uchel.[1]
Bygythiadau terfysgol
golyguWynebodd ei Llywodraeth fygythiad hefyd yn sgil terfysgaeth gynyddol yr IRA ar dir mawr Prydain yn ystod y 1980au. Lladdwyd Iarll Mountbatten gan un o fomiau'r IRA yn 1979 a 17 o filwyr Prydain oriau ar ôl hynny.[9] Gwelwyd bygythiad cynyddol o du terfysgaeth ryngwladol yn sgil llofruddiaeth y blismones Yvonne Fletcher, a saethwyd ger Adeilad Llysgenhadaeth Libia yn Llundain yn 1984.[10] Yn 1988 bu’r ymosodiad mwyaf dinistriol ar dir mawr Prydain pan laddwyd 270 o bobl yn ymosodiad awyr Lockerbie, Swydd Dumfries, yr Alban.[11]
Roedd y 1980au yn gyfnod cythryblus o densiynau cymdeithasol ac economaidd, gyda therfysgoedd hil yn digwydd yn Lerpwl, Brixton a Tottenham yn 1985. Yn 1990 achoswyd Terfysg Carchar Strangeways oherwydd gorboblogi yn y carchar a bu gwrth-derfysg dreisgar a gwaedlyd yn Llundain yn erbyn Treth y Pen rhwng protestwyr a’r heddlu.[12] Ceisiodd yr IRA lofruddio Thatcher a swyddogion eraill y llywodraeth yng Ngwesty‘r Grand yn Brighton adeg Cynhadledd y Blaid Geidwadol yno yn 1984. Lladdwyd 6 ac anafwyd 31 bryd hynny.[13]
Rhyfel y Falklands
golygu- Prif: Rhyfel y Falklands
Er bod Prydain wedi bod yn rheoli Ynysoedd y Falklands ers 1833 roedd yr Ariannin wedi hawlio’r ynysoedd, a alwyd ganddynt y ‘Malvinas’, fel rhai a oedd yn eiddo iddyn nhw. Ymosododd yr Ariannin yn sydyn ar yr ynysoedd, sydd wedi eu lleoli yn Ne’r Iwerydd, ar Ebrill 2, 1982. Synnwyd a brawychwyd yr Ariannin gan gyflymder yr ymosodiad i’r graddau y gwnaeth un o weinidogion pennaf Margaret Thatcher, sef yr Arglwydd Carrington, y Gweinidog Tramor, ymddiswyddo. Ymatebodd Prydain yn syth pan benderfynodd Thatcher anfon tasglu llyngesol i adennill yr ynysoedd. Glaniodd y prif dasglu ar yr ynysoedd ar Mai 21. Anfonwyd tua 10,000 o filwyr Prydeinig draw i’r ynysoedd gyda’r tasglu, a bu brwydro caled - er enghraifft, ym mrwydr Goose Green. Ar ôl 73 diwrnod o ymladd adfeddianodd Prydain y Falklands ac ildiodd yr Archentwyr yn Port Stanley ar Mehefin 14, 1982.[14]
Roedd buddugoliaeth y Deyrnas Unedig yn Rhyfel y Falklands yn hwb i boblogrwydd Thatcher, ac o bosib yn ffactor pam yr enillodd y Ceidwadwyr Etholiad Cyffredinol 1983. Gyda’r Llywodraeth wedi ymateb mewn ffordd ymosodol
yn syth i’r goresgyniad, bu hyn yn hwb i boblogrwydd Thatcher. Credai rhai bod rhesymau gwleidyddol dros y dial sydyn, yn enwedig o gofio bod etholiad cyffredinol ar y gorwel.
Streic y Glowyr, 1984
golyguYn ystod ei hail dymor fel Prif Weinidog wynebodd Thatcher un o heriau mwyaf ei gyrfa wleidyddol pan ddechreuodd Streic y Glowyr (1984-85). Streic y glowyr oedd y streic fwyaf a welwyd ym Mhrydain erioed, a dechrau’r diwedd i’r diwydiant glo. Dechreuodd y Streic ar 12 Mawrth 1984 a pharhaodd am 12 mis.[15]
Trodd y gwrthdaro rhwng y Llywodraeth Geidwadol a’r glowyr yn wrthsafiad rhwng dau arweinydd, sef Margaret Thatcher ac Arthur Scargill, Llywydd Undeb y Glowyr.
Roedd y diwydiant glo wedi bod mewn trafferthion ers y 1970au ac yn 1972 aeth glowyr Prydain ar streic, a hynny am y tro cyntaf ers 1925. Parhaodd y streic honno am saith wythnos pan gaewyd 135 o byllau glo yn ne Cymru. O ganlyniad i'r streic pennwyd cyflog y glowyr ymysg cyflogau uchaf y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Cafwyd streic arall yn 1974 ac 1984.
Erbyn 1984 roedd sefyllfa'r diwydiant glo wedi dirywio eto. Cychwyn y Streic oedd bwriad y Bwrdd Glo i gau 20 o byllau, a fyddai'n arwain at golli dros 20,000 o swyddi. Roeddent yn honni nad oedd y cytundeb a wnaed gyda'r Undebau yn 1974 yn ddilys erbyn hynny, oherwydd y newid a oedd wedi digwydd yn economi'r wlad. Roedd y Llywodraeth Geidwadol o dan arweiniad Margaret Thatcher yn benderfynol o ddinistrio grym yr Undebau. Dadleuai Thatcher a’r Blaid Geidwadol bod angen cau 20 o byllau glo ar draws Prydain am nad oeddent yn ddigon cynhyrchiol a chynaladwy yn ariannol. Dadleuai'r Undebau bod eu polisïau yn cael effaith andwyol ar y cymunedau glofaol.
Galwodd Arthur Scargill ar y glowyr i fynd ar streic, ac ar 12 Mawrth dechreuodd streic a barhaodd am bron i flwyddyn. Bu maes glo de Cymru yn gadarn eu cefnogaeth i’r streic, gyda’r wyth ar hugain o byllau yn ne Cymru yn cymryd rhan flaenllaw wrth i'r streic fynd yn ei blaen drwy bicedu a phrotestio. Daeth grwpiau gwragedd yn amlwg iawn yn ystod y streic a daeth cefnogaeth i’r gweithwyr oddi wrth ffermwyr y gorllewin a chwarelwyr gogledd Cymru. Sefydlwyd mudiadau a oedd yn gefnogol i'r glowyr, megis 'Gwragedd yn erbyn Cau'r Pyllau' (WAPC), ac roedd y menywod yn cymryd rhan amlwg mewn protestiadau ac wrth geisio lliniaru effaith y tlodi enbyd.
Amlygwyd agwedd Thatcher tuag at y glowyr yn ei natur benderfynol i beidio ildio iddynt. Bu’n rhaid i’r glowyr fynd yn ôl i’r gwaith heb ennill unrhyw dir yn y frwydr. Dychwelodd y glowyr at eu gwaith ar 5 Mawrth 1985 wedi dod â'r streic i ben ddeuddydd ynghynt yn ystod cynhadledd arbennig o Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Ond gwaethygu wnaeth y sefyllfa yng nglofa'r De a chaewyd 12 o byllau eraill o fewn blwyddyn i ddiwedd y streic.[16][17]
Y Ddynes Ddur
golyguRhoddwyd yr enw ‘Y Ddynes Ddur’ (The Iron Lady) i Margaret Thatcher oherwydd ei harddull awdurdodol wrth ddelio gyda’i gweinidogion ond hefyd am y ffordd roedd hi'n delio gyda sefyllfaoedd ac unigolion gwahanol. Roedd yr enw yn addas iddi wrth feddwl am sut trafododd sefyllfa Ynysoedd y Falklands a'r modd y safodd yn gadarn gan wrthod plygu i ofynion y glowyr adeg Streic 1984-85. Cynyddodd ei phroffil ar y llwyfan rhyngwladol oherwydd ei pherthynas glos gydag Arlywydd Unol Daleithiau America, sef Ronald Reagan.
Ymddiswyddo
golyguRoedd ei pholisïau yn aml yn hollti barn ac yn creu ymateb ffyrnig. Nid oedd ei phenderfyniad i gyflwyno Treth y Pen yn eithriad yn hynny o beth. Roedd hon yn dreth hynod amhoblogaidd a bu llawer o gwyno a phrotestio yn ei herbyn. Bwriad y dreth oedd cymryd lle’r hen system drethi, ond arweiniodd yr ymateb ffyrnig i'r syniad at ei chwymp. Ymddiswyddodd ar Dachwedd 22, 1990 ac olynwyd hi gan John Major fel arweinydd y Blaid Geidwadol ac fel Prif Weinidog y Llywodraeth.[18] Camodd Margaret Thatcher yn ôl o’r llwyfan gwleidyddol wedi ei hymddiswyddiad ac ni ymgymerodd ag unrhyw swydd wleidyddol ar ôl hynny.
Margaret Thatcher a Chymru
golyguRoedd ethol Margaret Thatcher yn Brif Weinidog Prydain yn Nhachwedd 1979 yn dynodi cychwyn newydd i Brydain a hefyd i Gymru. Torrodd y Llywodraeth newydd ei haddewid y byddai Cymru yn cael sianel deledu newydd ac ymatebodd Gwynfor Evans drwy fygwth ymprydio. Gorfodwyd y Llywodraeth i ailfeddwl, ac ar Tachwedd 1, 1982, darlledwyd S4C am y tro cyntaf.[19] Cafodd polisïau Thatcher effaith andwyol ar y diwydiant glo yng Nghymru. Byddai cynlluniau’r Llywodraeth i gau nifer o byllau glo yn chwalu cymunedau glofaol yn ne Cymru lle'r oedd y diwydiant yn allweddol i roi gwaith i’r bobl. Am flwyddyn gyfan dioddefodd 5,000 o deuluoedd glowyr ym Mhrydain dlodi llym o ganlyniad i’r streic, ac erbyn diwedd y streic yn 1985 roedd y diwydiant glo yng Nghymru wedi crebachu a dirywio’n enbyd.
Marwolaeth
golyguBu farw Margaret Thatcher yn dilyn strôc ar 8 Ebrill 2013 yng ngwesty'r Ritz yn Llundain.[20] Roedd ei phersonoliaeth a’i harddull arwain yn golygu ei bod yn unigolyn a oedd yn polareiddio barn pobl. Ar ddiwrnod ei marwolaeth, roedd y cyfryngau yn dangos pobl ifanc yn dathlu ar y strydoedd gyda siampên ac ar y llaw arall cafwyd cyfweliadau gyda phlismon a gwleidydd Ceidwadol a oedd yn mynnu mai hi oedd y Prif weinidog gorau erioed. Ysgrifennodd Dafydd Iwan gân yn dychanu'r "ddynes o haearn" a waharddwyd gan Radio Cymru ac S4C am tua thri deg o flynyddoedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Margaret Thatcher a'r Toriaid". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-06-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 2.0 2.1 "Margaret Thatcher | Biography & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ 3.0 3.1 "Edrych yn ôl ar fywyd Margaret Thatcher". BBC Cymru Fyw. 2013-04-08. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ Maniffesto'r Blaid Geidwadol, 1979
- ↑ Beckett 2006, t. 5
- ↑ 6.0 6.1 Beckett 2006, t. 3
- ↑ Johnson, Maureen (28 Mai 1988). "Bible-Quoting Thatcher Stirs Furious Debate". Associated Press.
- ↑ Beckett 2006, t. 8
- ↑ "IRA bomb kills Lord Mountbatten: Guardian reporting from 1979". the Guardian (yn Saesneg). 2015-05-19. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ Jones, Claire (2019-11-11). "The 35-year-old vow to a dying police officer". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "Pan Am flight 103 | Overview, Crash, Victims, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ Williams, Sally; Airey, Tom (2015-03-23). "The Strangeways riot 25 years on". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ O'Neill, Julian (2019-09-24). "Ex-priest admits link to IRA attack on Thatcher". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "Falkland Islands War | Summary & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "Archived NLW Digital Resources | The National Library of Wales". www.llgc.org.uk. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "Ymgyrchu! - Brwydrau Llafur - Streiciau y Glowyr". web.archive.org. 2013-05-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-02. Cyrchwyd 2020-06-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Streic y glowyr". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-06-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "1990: Violence flares in poll tax demonstration" (yn Saesneg). 1990-03-31. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Etholiadau - 1983 a'r Blaid Geidwadol". web.archive.org. 2013-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-06-14.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ (Saesneg) Rayner, Gordon a Swinford, Steven (8 Ebrill 2013). Margaret Thatcher dies of stroke aged 87. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
Llyfryddiaeth
golygu- Roy, Subroto a Clarke, John. Margaret Thatcher's Revolution (Llundain, Continuum, 2005).
Dolenni allanol
golygu- Margaret Thatcher ar Wefan 10 Stryd Downing Archifwyd 2008-11-17 yn y Peiriant Wayback
- Edrych yn ôl ar fywyd Margaret Thatcher, BBC (8 Ebrill 2013)
- Ymateb i farwolaeth Thatcher yng Nghymru, BBC (8 Ebrill 2013)
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Crowder |
Aelod Seneddol dros Finchley 1959 – 1992 |
Olynydd: Hartley Booth |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Edward Short |
Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Gwyddoniaeth 20 Mehefin 1970 – 4 Mawrth 1974 |
Olynydd: Reginald Prentice |
Rhagflaenydd: James Callaghan |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990 |
Olynydd: John Major |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Edward Heath |
Arweinydd y Blaid Geidwadol 1975 – 1990 |
Olynydd: John Major |