Afon Gyffin
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.27954°N 3.824117°W, 53.2793°N 3.8244°W |
Aber | Afon Conwy |
Afon fechan yn sir Conwy yw Afon Gyffin. Mae'n rhedeg am o gwmpas 4 milltir cyn ymuno ag Afon Conwy. Am ddwy filltir gyntaf ei chwrs fe'i gelwir Afon Henryd.
Tarddiad yr afon yw ffynnon ger fferm Glyn Isa, tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ro-wen ar lethrau isaf Tal y Fan (SH 763725). Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'n llifo'n ddioglyd trwy gaeau a dolydd plwyf Henryd i gyfeiriad y gogledd ar gwrs cyfochrog i Afon Conwy. Mae'n mynd heibio i eglwys newydd Llangelynnin ac yn pasio'n agos i bentref Henryd ei hun, ac yna islaw Groesffordd a Hendre i nant gul goediog cyn dod allan ger Gyffin. Ar ddiwedd ei thaith mae'n troi i'r dwyrain ac yn llifo dan hen bont ger Castell Conwy ac yna'n aberu yn yr afon honno yng nghysgod muriau'r castell yn Abergyffin.
Ystyr y gair cyffin yw "ffin" neu "cyd-derfyn" rhwng dau ddarn o dir cyfagos. Yn yr Oesoedd Canol roedd yr afon yng nghyffiniau pentref Gyffin yn dynodi terfyn de-ddwyreiniol darn o dir a berthynai i Abaty Aberconwy a heddiw mae'n dal i ddynodi'r ffin rhwng plwyf Aberconwy (Conwy) a phlwyf Y Gyffin.