Neidio i'r cynnwys

Al-Andalus

Oddi ar Wicipedia
Al-Andalus
Mathlle, historiographical concept, endid daearyddol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWilayah of Al-Andalus Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladUmayyad Caliphate, emirate of Córdoba, Caliphate of Córdoba, Almohadiaid, Emirate of Granada, Almoravid dynasty, taifa (first period), taifa (second period), taifa (third period), Sbaen, Portiwgal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37°N 4°W Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolyr Oesoedd Canol Edit this on Wikidata
Map
Coran o Al-Ándalus, o’r 12fed ganrif

Al-Ándalus (Arabeg الأندلس) yw’r enw a ddefnyddir ar y rhannau hynny o Sbaen a Portiwgal oedd dan reolaeth y Mwslimiaid yn y cyfnod rhwng 711 a 1492). Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw, er y gall fod cysylltiad â’r Fandaliaid. O al-Andalus y daw enw y Gymuned Ymreolaethol fodern Andalucía, ond ar un adeg yr oedd al-Andalus yn llawer ehangach na hynny.

Ar 27 Ebrill yn y flwyddyn 711, glaniodd byddin Fwslimaidd o tua 9,000 o wyr yn Gibraltar (Yebel Tarik), dan arweiniad Tariq Ibn Ziyad, dirpwy i Raglaw Tangier, Musa ibn Nusair. Ar 19 Gorffennaf gorchfygasant fyddin y Fisigothiaid , a lladdwyd Roderic, brenin y Fisigothiaid. Y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd Musa ibn Nusair ei hun gyda byddin arall. Yn y pum mlynedd nesaf, trwy gyfuniad o frwydro a gwneud cytundebau, daethant i reoli’r rhan fwyaf o Orynys Iberia ac eithrio yr ardaloedd mynyddig yn y gogledd.

Yn 756 daeth Abd al-Rahman I i Córdoba a sefydlodd linach a fu’n rheoli al-Andalus hyd 1031. Creodd Abd al-Rahman Emirat Cordoba yn 773. Yn 912, daeth Abd al-Rahman III i’r orsedd ac yn 929 cyhoeddodd ei hun fel Califf.

Yn 1031 ymrannodd Al-Andalus yn nifer o deyrnasoedd llai, y Taifas, o ganlyniad i ryfeloedd cartref ynglŷn â’r olyniaeth. Bu nifer o ymosodiadau llwyddiannus o Ogledd Affrica, megis yr Almorafidiaid a’r Almohadiaid.

Rhwng 718 a 1230, ffurfiwyd y prif deyrnasoedd Cristionogol yn y gogledd: Castilla, Portiwgal, Navarra ac Aragón. Yn raddol dechreuodd y Cristionogion ennill tiriogaethau oddi ar y Mwslimiaid, proses a elwir y Reconquista. Ystyrir i'r Reconquista ddechrau yn 722 pan enillodd Pelayo fuddugoliaeth dros y Mwslimiaid ym Mrwydr Covadonga, i sicrhau annibyniaeth Asturias. Dim ond yn araf yr oedd y Cristionogion yn adennill tir am gyfnod, ond cyflymodd y broses yn y 13g ar ôl uno teyrnasoedd Castilla a León dan y brenin Fernando III. Erbyn canol y 13g dim ond Teyrnas Granada oedd yn parhau yn eiddo'r Mwslimiaid. Diweddodd y Reconquista yn 1492 pan gipiodd y Cristionogion ddinas Granada a gorfodi ei brenin olaf, Boabdil (Abu 'Abd Allāh), i fynd i alltudiaeth.

Celfyddyd a gwyddoniaeth yn al-Andalus

[golygu | golygu cod]
Mosg Córdoba

Roedd cyfraniad al-Andalus yn nodedig iawn, yn arbennig mewn pensaernïaeth, gydag adeiladau megis Mosg Cordoba a'r Alhambra ymysg y campweithiau. Mewn barddoniaeth roedd Ibn Sahl o Sevilla yn nodedig. Roedd Averroes (Abū al-Walīd Muhammad Ibn Rušd) (11261198) yn enwog fel athronydd, meddyg a seryddwr, a gwnaeth ef ac eraill lawer i gadw a lledaenu gweithiau awduron fel Aristoteles a Platon.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]