Chichewa
Chewa | ||
---|---|---|
Siaredir yn | Sambia, Malawi, Mosambic, Simbabwe | |
Cyfanswm siaradwyr | 11.52 miliwn | |
Teulu ieithyddol | Niger–Congo
| |
System ysgrifennu | Lladin (Yr Wyddor Chewa) Braille Chewa | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Malawi Simbabwe | |
Rheoleiddir gan | Nid oes rheoliad swyddogol | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ny | |
ISO 639-2 | nya | |
ISO 639-3 | nya | |
Wylfa Ieithoedd | 99-AUS-xaa – xag |
Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Bantu yw Chichewa neu Chicheŵa, hefyd Chewa. Mae'r rhagddodiad "chi" o flaen "Chewa" yn golygu "iaith". Gelwir hefyd yn Nyanja. Fe'i siaredir gan 57.2% o'r boblogaeth ym Malawi, lle mae iddi statws iaith genedlaethol (Saesneg yw'r iaith swyddogol). Siardeir Chichewa hefyd yn Sambia, lle mae'n un o'r saith iaith lwythol swyddogol, ac yn Mosambic. Yn Simbabwe saif yn drydedd o ran defnydd o'i ieithoedd brodorol, ar ôl Shona a Sindebele. Gellir hefyd ei hystyried fel tafodiaith o Shona, iaith sy'n perthyn yn agos iddi.
Daeth yr iaith Chichewa i amlygrwydd yn ystod cyfnod Ymerodraeth y Maravi, oedd yn rheoli Malawi a rhannau o Fosambic a Sambia rhwng y 15fed a'r 18g. Llwyth sy'n byw ger Llyn Malawi yw'r Chewa; mae chicheŵa yn golygu "iaith y Chewa". Mabwysiadwyd yr iaith gan genhadon yn y 19g, a chyfieithwyd rhannau o'r Beibl iddi tua diwedd y ganrif honno.