Cnonyn Aflonydd
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Angharad Tomos |
Cyhoeddwr | Gwasg Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Gorffennaf 2001 |
Pwnc | Cofiannau |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780860741749 |
Tudalennau | 272 |
Genre | Llyfrau ffeithiol |
Cyfres | Cyfres y Cewri: 23 |
Hunangofiant gan Angharad Tomos yw Cnonyn Aflonydd. Gwasg Gwynedd a gyhoeddodd y gyfrol yn y gyfres Cyfres y Cewri a hynny yn 2001. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Ymgyrchwraig dros y Gymraeg yn ystod yr 1980au a'r 1990au yw Angharad Tomos, enillydd y Fedal Lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac awdures y gyfres o straeon i blant am Rwdlan a'i ffrindiau. Ceir 44 ffotograff du-a-gwyn.
Hanes sydd yma am berson sy'n arddel egwyddorion cryf. Mae ymrwymiad yr awdur i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg ac, yn fwyaf arbennig, ei rôl allweddol ym mywyd a gweithgarwch Cymdeithas yr Iaith, yn cael sylw mawr. Ond daw egwyddorion pwysig eraill i'r amlwg hefyd – yr ymrwymiad cadarn at y ffydd Gristnogol ac at eglwys leol, ynghyd â phwysigrwydd cyfiawnder byd-eang. Mae'r teulu yn hanfodol bwysig iddi hefyd a chawn ddarlun o rieni arbennig ac o bump o chwiorydd.
Mae edmygedd yr awdur o rai cyfeillion yn gwbl amlwg, ond efallai yn llai gwresog at gyn-gydweithwyr o fewn Cymdeithas yr Iaith sydd bellach yn rhan o'r sefydliad Cymreig/Prydeinig. Y darlun sy'n aros yw un o berson sy'n cydnabod y pwysau sydd arni i gydymffurfio a chyfaddawdu ond sydd hefyd wedi ymdrechu, a llwyddo, i ddal gafael yn yr egwyddorion sydd wedi bod yn gynhaliaeth i'w bywyd. Mae ein hedmygedd ohoni yn fwy oherwydd hyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- Mae rhan o'r erthygl hon wedi'i sgwennu ar wefan Gwales, gan Richard H. Morgan.