Diners, Drive-Ins and Dives
Enghraifft o'r canlynol | rhaglen deledu |
---|---|
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechreuwyd | 23 Ebrill 2007 |
Genre | food reality television |
Dosbarthydd | Hulu |
Iaith wreiddiol | Saesneg [1] |
Gwefan | http://www.foodnetwork.com/food/show_dv |
Cyfres deledu realiti bwyd Americanaidd yw Diners, Drive-Ins and Dives (sydd â'r llysenw Triple D ac wedi'i steilio fel Diners, Drive-Ins, Dives) a ddangoswyd am y tro cyntaf ar 23 Ebrill 2007, ar Food Network. Y cyflwynydd yw Guy Fieri. Dechreuodd y sioe yn wreiddiol fel un rhaglen arbennig unwaith ac am byth, a ddarlledwyd ar 6 Dachwedd 2006.[2] Cysyniad y sioe yw "road trip", yn debyg i Road Tasted, Giada's Weekend Getaways, a $40 a Day. Mae Fieri yn teithio o amgylch yr Unol Daleithiau (er ei fod hefyd wedi cynnwys rhai bwytai yn ninasoedd Ewrop, gan gynnwys Llundain, Lloegr a Fflorens, yr Eidal, ac yng Nghanada[3]. Mae hefyd wedi cynnwys bwytai yng Nghiwba, yn edrych ar amryw o bwytai, bwytai gyrru i mewn, a bariau plymio.
Syniad
[golygu | golygu cod]Yn gyffredinol mae gan bob pennod thema (fel byrgyrs, asennau, neu fwyd môr) a mae Fieri yn ymweld â nifer o fwytai o fewn un ddinas i flasu'r bwyd sy'n cyfateb i'r thema hon. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar fwytai bach annibynnol sy'n cynnwys bwydydd cysur traddodiadol (fel barbeciw, cig mwg, hambyrwyrs, bwyd wedi'i ffrio'n ddwfn, pizza, stêc, a brecwast bacwn ac wy), arddulliau rhanbarthol, neu arbenigeddau ethnig. Yn aml, bydd y bwytai a ddewisir yn defnyddio cynhwysion ffres, ryseitiau steil cartref, a dulliau coginio gourmet tuag at yr hyn nad yw fel arfer yn cael ei ystyried yn fwyd gourmet. Mae'r Fieri yn siarad i'r cwsmeriaid i gael eu barn ar y bwyd, ac i staff y gegin i dangos sut i baratoi un neu fwy o'u prydiau.
Gwesteion
[golygu | golygu cod]Mae'r sioe wedi cael amryw o sêr i ymddangos yn y gegin ochr yn ochr â Guy Fieri, gan gynnwys cyd-gogyddion Robert Irvine, Andrew Zimmern, Michael Symon, Emeril Lagasse, a Geoffrey Zakarian, yn ogystal ag enwogion fel Matthew McConaughey, Gene Hackman, Rosie O'Donnell, Joe Theismann, Kid Rock, Chris Rock, Adam Sandler, Kevin James, Clint Bowyer, Gene Simmons o KISS, Steve Harwell o Smash Mouth, a Mick Fleetwood o Fleetwood Mac.
Achos cyfreithiol
[golygu | golygu cod]Ym mis Mai 2011, fe wnaeth Page Productions, cynhyrchwyr gwreiddiol y sioe, ffeilio achos cyfreithiol yn erbyn Food Network. Mae'r achos cyfreithiol yn honni bod y rhwydwaith wedi methu â thalu costau cynhyrchu gofynnol, ac wedi methu â sicrhau bod gwesteiwr y sioe, Guy Fieri, ar gael i'w recordio. Mae'r cynhyrchydd hefyd yn honni bod Guy Fieri wedi aflonyddu ar aelodau'r criw ac yn "ysbeilio eu oergelloedd".[4] Wythnos ar ôl i Food Network wrth-siwio’r cynhyrchydd, daethpwyd i setliad ym mis Awst 2011, gan ganiatáu i 12fed tymor y sioe ailddechrau, gyda chwmni cynhyrchu newydd, Citizen Pictures.[5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.fernsehserien.de/american-food-trip-mit-guy-fieri. dyddiad cyrchiad: 28 Mai 2020. dynodwr fernsehserien.de: american-food-trip-mit-guy-fieri.
- ↑ "World chefs – Powers finds history is made in diners". Reuters. 27 Mawrth 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 8 Chwefror 2014.
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/List_of_Diners,_Drive-Ins_and_Dives_episodes#Season_29_(2018–2019)
- ↑ "Diners, Drive-Ins and Dives producer says Food Network wants to dash ", Twin Cities Business Journal, 16 Mai 2011
- ↑ Satran, Joe (18 Awst 2011). "Food Network's Legal Battle With Producer Of Guy Fieri's 'Diners, Drive-Ins, And Dives' Comes To End". The Huffington Post. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2011.
- ↑ Parker, Penny (7 Hydref 2011). "Parker: Food Network show switches to Denver production company". The Denver Post. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2011.