F. Gwendolen Rees
F. Gwendolen Rees | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1906 Abercynon |
Bu farw | 4 Hydref 1994 Aberystwyth |
Man preswyl | Aberdâr, Ghana |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swolegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Linnean |
Swolegydd o Gymru a arbenigai mewn parasitiaid oedd Florence Gwendolen Rees, FRS[1] (3 Gorffennaf 1906 – 4 Hydref 1994). Hi oedd y ferch gyntaf i gael ei derbyn i'r Gymdeithas Frenhinol.[1] Erbyn iddi gyrraedd ei 80 oed roedd wedi cyhoeddi 68 o bapurau academaidd.[2]
Fe'i ganed yn Aberdâr, cyn mynychu'r ysgol leol i ferched (1918–24) ac yna i Brifysgol Caerdydd lle yr astudiodd cemeg, bioleg a swoleg, gan dderbyn gradd BSc gydag anrhydedd mewn swoleg. Astudiodd y falwoden ar gyfer ei doethuriaeth.
Gweithiodd yn adran Swoleg Prifysgol Aberystwyth, yn is-ddarlithydd rhwng 1930 a 1937, darlithydd rhwng 1937 a 1947, uwch-ddarlithydd hyd at 1966, darllenydd hyd at 1971 ac Athro Prifysgol rhwng 1971 a 1973. Wedi ei hymddeoliad, fe'i gwnaed yn Athro Emeritws yn 1973.[1][2]
Ym mis Medi 2023, ail-enwyd un o brif adeiladau academaidd Prifysgol Aberystwyth ar ôl Gwendolen. Cafodd yr enw ei ddadorchuddio ar blac ar adeilad Adran Gwyddorau Bywyd (DLS) a sefydlwyd yn 2022. Dadorchuddiwyd y plac yn y seremoni gan ddau o nithoedd yr Athro Rees ynghyd â staff hŷn o Brifysgol Aberystwyth.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Morris, J. G. (1997). "Florence Gwendolen Rees. 3 Gorff 1906–4 Hydr 1994: Elected F.R.S. 1971". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 43: 445. doi:10.1098/rsbm.1997.0024.
- ↑ 2.0 2.1 Haines, Catharine. International Women in Science. t. 259.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ "Enwi adeilad prifysgol ar ôl y gwyddonydd Gwendolen Rees". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-22. Cyrchwyd 2023-09-22.