Faro
Math | bwrdeistref Portiwgal, dinas Portiwgal |
---|---|
Poblogaeth | 64,560 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Rogério Bacalhau |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Faro |
Gwlad | Portiwgal |
Arwynebedd | 202.57 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 10 metr |
Yn ffinio gyda | Loulé, Olhão, São Brás de Alportel |
Cyfesurynnau | 37.0161°N 7.935°W |
Cod post | 8000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Rogério Bacalhau |
Dinas yn yr Algarve ym Mhortiwgal yw Faro.[1] Poblogaeth Faro yn 2019 oedd 60,995.[2] Maint Faro yw 202.57 cilomedr sgwâr.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Denodd Ria Formosa pobl o’r Oes Balaeolithig hyd at ddiwedd cynhanes, a ffurfiwyd pentrefi o’r bedwaredd ganrif ymlaen, pan daeth y Ffonisiaid i orllewin Môr y canoldir. Ar y pryd,Ossonoba oedd enw’r ardal, y rhan bwysicaf De Bortiwgal, a phorthladd ar gyfer pysgod, nwyddau amaethyddol a mwynau.[4]
Roedd Faro o dan reolaith Rhufain rhwng yr ail ac wythfed ganrifoedd, wedyn yr Ymerodraeth Bysantiwm, wedyn y Fisigothiaid, ac y Mwriaid arbyn 713.[5] Adeiladwyd waliau’r dref yn stod y cyfnod Bysantiaidd.[6]
Ar ôl gwrthryfel gan Yahia Ben Bakr, daeth Ossonoba'n brifddinas tywysogaeth, ac adeiladwyd waliau amddiffynnol. Erbyn y degfed ganrif, ‘Santa Maria’oedd enw’r dref, ac erbyn yr unfed ar ddeg, ‘Santa Maria Ibn Harun'’.[7] Yn ystod yr ail grwsâd, ysbeiliwyd y dref gan grwsadwyr anglo-normanaidd ar ei ffordd i’r dwyrain. Digwyddodd yr un peth yn ystod y pumed grwsâd gan filwyr Ffrisiadd.[8]
Enillodd byddin Brenin Alfonso III o Bortugal ym 1249 yn erbyn y Mwriaid ac roedd rhaid iddynt adael. Daeth Faro yn brif ddinas i’r Algarve.
Brenhiniaeth Bortiwgal
[golygu | golygu cod]Ar ôl annibyniaeth Portiwgal ym 1143, dechreuodd ehangiad i dir De Iberiaidd, yn disodli’r Mwriaid.[9] Ar ôl 1249, enw y dref oedd Santa Maria de Faaron neu Santa Maria de Faaram.[10] Daeth y dref yn gyfoethog, oherwydd ei phorthladd a diwydiant halen.
Daeth comuned Iddew y dref yn bwysicach yn ystod y 14eg ganrif, yn gyfrannu at ei chyfoeth a datbygiaeth,[11] ond ym mis Rhagfyr 1496 crewyd cyfraith gan Frenin Manuel I o Bortiwgal]], yn diarddel pobl nad oedd yn gristion. Felly yn swyddogol, nid oedd Iddewon ym Mhortiwgal. Disodlwyd Vila Adentro, ardal Iddewig y dref, gan leiandy Nossa Senhora da Assunção[12]
Ym 1499, adeiladwyd ysbyty, Eglwys Espírito Santo, tolltŷ a lladd-dŷ.[13]
Roedd Faro yn ddinas erbyn 1540 ar ôl penderfyniad gan Frenin John III o Bortiwgal, a daeth yn esgobaeth ym 1577.[14]
Anrheithiwyd y ddinas gan Robert Devereux, Iarll Essex ym 1597. Dygwyd llyfrgell yr esgobaeth, a daeth ei llyfrau’n rhon o gasgliad Llyfrgell Bodleian yn Rhydychen.[15]
Estynnwyd y ddinas dros yr 17eg a 18fed ganrifoedd, ac ychwanegwyd waliau rhwng 1640 a 1668 o flaen Ria Formosa. Roedd difrod i’r ddinas yn ystod daeargryn Lisbon ym 1755. Difrodwyd lefydd eraill gan tsunami ond gwarchodwyd Faro gan lannau tywodlyd yr afon.[16]
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae 2 ardal ddaearyddiol i Faro; yr arfordir, rhan o Barc Natural Ria Formosa, a’r barrocal, bryniau a dyffrynnoedd gyda phlanhigion arferol yr Algarve. Crewyd y parc natur ar 8 Rhagfyr 1987; ystyriwyd y parc yn un o 7 rhyfeddod natur Portiwgal, gyda traeth tua 7 cilomedr o’r dref. Mae’r parc yn cynnwys yr afon, morlynnoedd, a twyni tywod yn creu ynysoedd a phenrynion sy’n amddiffyn corsydd a nentydd.[17]. Mae traethau ar benrhyn Ancão, Ilha Deserta ac ynys Culatra.[18]. Mae ynysoedd Barra do Ancão/Barra de São Luís, Barra de Santa Maria/Barra do Farol, a Barra da Culatra/Barra da Armona yn gwarchod y tir tu ôl iddynt.
Mae ambell fath o adar yn treulio’r gaeaf yn yr ardal, megis flamingod, gwenoliaid y môr, cambigau, chiwellau ac esgyll freithion. Mae’r ardal, yn arbennig Ria Formosa, yn denu naturiaethwyr ar wyliau.
Mae llwybr i feicwyr, sef Ecovia do Algarve yn cysylltiad rhwng yr ardal a gweddill y cyfandir.
Tywydd
[golygu | golygu cod]Mae hafau’n boeth ac yn heulog a’r tymheredd mwyaf tua 27 gradd Celsiws, a gall y gwres barhau i Hydref. Mae’r gaeafau’n gymhedrol, gyda tua 6 awr o heulwen yn ddyddiol. Mae mwyafrif y glaw’n gyrraedd yn y gaeaf. Mae glaw yn brin rhwng Mehefin a Medi; mae’r cyfanswm blynyddol tua 500 milimedr. Mae tymheredd y môr tua 18 gradd Celsiws.yn Ionawr, yn codi at 22-24 yn Awst a Medi.[19][20]
Cyfeilldrefi
[golygu | golygu cod]Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Mae ffyrdd, rheilffordd a bysiau yn cysylltu’r dref gyda gweddill yr Algarve.
Y maes awyr
[golygu | golygu cod]Mae miliynau o ymwelwyr yn cyrraedd ar awyrennau’n flynyddol. Mae 45 o gwmniau awyr yn defnyddio’r maes awyr, gan gynnwyd nifer fawr yn cynnig ticedi rhad i bobl ar wyliau.[22] Mae bysiau yn mynd yn rheolaidd o’r maes awyr i’r dref.
Gorsafoedd rheilffordd
[golygu | golygu cod]Mae Gorsaf reilffordd Faro ynghanol y dref. Mae Gorsaf reilffordd Bom João yn ardal ddwyreiniol y dref.[23] Mae gwasanaeth Alfa Pendular yn cysylltu Faro a Porto. Mae trenau Intercidades ac InterRegional yn cysylltu Faro a Lisboa. Mae trenau yn cysylltu Faro â Lagos yn y gorllewin a Vila Real de Santo António yn y dwyrain trwy Bom João.[24]
Yr orsaf fysiau
[golygu | golygu cod]Mae’r orsaf fysiau drws nesaf i orsaf reilfordd y dref. Ac mae bysiau lleol yn ogystal â bysiau dros yr Algarve.
Cychod
[golygu | golygu cod]Mae fferiau yn mynd i ynysoedd yr arfordir.[25] ac mae gwasanaethau ar gyfer twristiaid ar Ria Formosa.
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Trefnir gŵyl, Semana Académica da Universidade do Algarve, yn flynyddol gan fyfyrwyr Prifysgol yr Algarve.[26] Mae clwb beicwyr modur Faro yn trefnu yn o ddigwyddiadiau mwyaf Ewrop.[27]
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Rhennir Estádio Algarve rhwng Faro a Loulé. Mae ganddo 30,000 o seddi. Defnyddiwyd y stadiwm yn ystod Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop yn 2004; defnyddir y stadiwm ar gyfer cyngherddau, gwyliau a digwyddiadau eraill hefyd. Mae clybiau pêl-droed Louletano Desportos Clube a Sporting Clube Farense yn defnyddio stadia llai.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ’Algarve/Southern Portugal (GeoCenter Detail Map)’ Cyhoeddwyr; GeoCenter International Cyf, 2003;|isbn=3-8297-6235-6
- ↑ "Gwefan Pordata". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-26. Cyrchwyd 2022-04-22.
- ↑ Gwefan Instituto Nacional de Estatística
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ Y waliau a thyrrau
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ "A Frisian Perspective on Crusading in Iberia as Part of the Sea Journey to the Holy Land, 1217–1218," gan Lucas Villegas-Aristizábal; Studies in Medieval and Renaissance History'
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ ‘História Faro’; cyhoeddwyr Câmara Municipal de Faro (Algarve), Portugal |language=pt |year=2015 |publisher=Câmara Municipal de Faro, 2015
- ↑ Gwefan Câmara Municipal de Faro
- ↑ Gwefan Câmara Municipal de Faro
- ↑ ’Enhancing city resilience to climate change by means of ecosystem services improvement’ gan Elena Berte a Thomas Panagopoulos, International Journal of Urban Sustainable Development
- ↑ Gwefan seatemperature.org
- ↑ Gwefan www.cm-faro.pt
- ↑ Gwefan Câmara Municipal de Faro
- ↑ Gwefan Câmara Municipal de Faro
- ↑ Gwefan wetravelportugal.com
- ↑ Gwefan Câmara Municipal de Faro
- ↑ Gwefan sulinformacao.pt
- ↑ Gwefan y clwb beicwyr modur